Disgrifiad o'r nwyddau neu'r gwasanaethau sydd eu hangen
ADRAN 1: CEFNDIR A MANYLEB
1 Trosolwg a Chyd-destun
1.1 Llyfrgell Genedlaethol Cymru
1.2 Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth yn un o chwe llyfrgell adnau cyfreithiol ym Mhrydain ac Iwerddon. Er 1911, mae wedi mwynhau’r hawl i gasglu, yn rhad ac am ddim, copi o bob gwaith argraffedig a gyhoeddir ym Mhrydain ac Iwerddon. Yn ogystal, mae’n casglu gweithiau am Gymru a’r gwledydd Celtaidd eraill: llyfrau a phamffledi, cylchgronau a phapurau newydd, microffurfiau, effemera, a chyfoeth o ddeunydd electronig.
1.3 Sefydlwyd y Llyfrgell gan Siarter Brenhinol ym 1907 ac mae’n un o gyflawniadau mawr uchelgais ddiwylliannol Cymru fel cenedl. Ariannir y Llyfrgell yn bennaf gan Lywodraeth Cymru (mae’n Gorff a Noddir gan Lywodraeth Cymru). Mae’n anarferol fel llyfrgell genedlaethol gan ei bod yn ceisio casglu, diogelu, a rhannu casgliadau mewn amrywiaeth o wahanol gyfryngau, gan gynnwys un o’r casgliadau mwyaf o bapurau newydd a chyfnodolion argraffedig sy’n ymwneud â Chymru, y Cymry a phobl Geltaidd.
1.4 Nid llyfrgell yn unig yw’r Llyfrgell Genedlaethol. Mae’n casglu llawysgrifau ac archifau, lluniau a ffotograffau, mapiau, recordiadau sain a delweddau sy’n symud, y maent oll ar gael i bobl droi atynt yn y Llyfrgell, ac ar-lein yn gynyddol.
1.5 Gyda chymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru, mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn gweithio tuag at fod yn garbon niwtral erbyn 2028, gyda’r nod o roi’r gorau i ddefnyddio nwy yn gyfan gwbl a lleihau allyriadau carbon. Yn ddiweddar, mae’r Llyfrgell wedi trawsnewid ei hystad hanesyddol trwy gyfrwng rhaglen ôl-osod uchelgeisiol, sy’n lleihau ei hôl troed carbon yn sylweddol, gan sicrhau dyfodol mwy cynaliadwy. Gan ddymuno rhannu’r hyn y mae wedi’i ddysgu gydag eraill, mae’r Llyfrgell wedi gosod nod i fod yn sefydliad blaenllaw ym maes cynaliadwyedd amgylcheddol yn ein Strategaeth 2025-30, Cysylltu Cymru a’r Byd.
1.6 Rhaglen Argyfwng Hinsawdd a Diwylliant a Hinsawdd Cymru
1.7 Mae gan y sector diwylliant yng Nghymru rôl bwysig i’w chyflawni wrth fynd i’r afael â’r argyfyngau natur a hinsawdd, am fod gan ddiwylliant allu unigryw i ysbrydoli, cysylltu, rhannu straeon, a’n helpu i ddychmygu dyfodol gwahanol. Yn ogystal, mae angen i’r sector diwylliant reoli effaith hinsawdd sy'n newid ar asedau diwylliannol a threftadaeth a’r amgylchedd hanesyddol, a chyflawni ei rhan wrth gyflawni sero net, bod yn gyfeillgar i fyd natur a chynorthwyo cyfiawnder o ran yr hinsawdd.
1.8 Gan weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru (y Llyfrgell) yn arwain Rhaglen Argyfwng Hinsawdd amlwg a thrawsbynciol sy’n gweithio ar draws tri maes polisi – diwylliant, y celfyddydau a’r amgylchedd hanesyddol (Cadw). Mae’r rhaglen yn cynorthwyo’r broses o gyflawni Uchelgais 16 Blaenoriaethau Diwylliant Llywodraeth Cymru (y Llywodraeth flaenorol), sef bod y sector diwylliant yn dangos “arweinyddiaeth a chydweithio wrth ymateb i ddatblygu cynaliadwy, meithrin gwydnwch, a mynd i’r afael â’r argyfyngau natur a hinsawdd”, trwy ddarparu cyfres o brosiectau strategol a mentrau a fydd yn datblygu’r sector, gan gefnogi blaenoriaethau a amlinellwyd yn Rhaglen Lywodraethu 2021-2026, Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant, Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a’r Sector diwylliant: adroddiad argyfyngau hinsawdd a natur.
1.9 Mae argymhellion yr adroddiad ymchwil yn cynnwys sefydlu rhwydwaith cymheiriaid yn y sector i ganolbwyntio ar yr hinsawdd a natur yn y sector diwylliant yng Nghymru. Gan ymateb i hyn, mae’r Llyfrgell wedi creu rhwydwaith Diwylliant a Hinsawdd Cymru | Culture and Climate Cymru, sydd wedi cynnal tair sesiwn hyd yn hyn, a fynychwyd gan 192 o bobl at ei gilydd. Cefnogir y rhwydwaith gan wefan a lansiwyd yn ddiweddar, sy’n cynnwys cylchlythyr a fforwm trafod ar-lein. Arweinir y gwaith hwn gan Swyddog Arweiniol y Llyfrgell dros y Rhaglen Argyfwng Hinsawdd.
1.10 Rydym yn dymuno cynnal 5 o ddigwyddiadau rhwydweithio wyneb yn wyneb pellach (2 yn 2026-27 a 3 yn 2027-28) ar draws Cymru rhwng mis Medi 2026 a mis Mawrth 2028. Cynhelir y digwyddiadau hyn yn rheolaidd dan frand Diwylliant a Hinsawdd Cymru, a byddant yn cynnig cyfle i rannu gwybodaeth, dysgu, cysylltu, cydweithio a rhwydweithio rhwng gweithwyr proffesiynol ar draws y sectorau diwylliant a threftadaeth. (Caiff hyn ei ddiffinio fel: y celfyddydau, amgueddfeydd, llyfrgelloedd, archifau a threftadaeth. Fodd bynnag, efallai y bydd digwyddiadau yn cynnwys rhanddeiliaid perthnasol eraill hefyd o sectorau fel yr amgylchedd, chwaraeon, y diwydiannau creadigol). Bydd y digwyddiadau yn rhai o safon uchel, a’r nod fydd denu pobl o bob rhan o’r sector ar amrediad o lefelau o lefel swyddogion i lefel arweinwyr. Bydd y digwyddiadau ar gyfer y rhai sy’n gweithio mewn sefydliadau a’r gweithlu diwylliannol llawrydd, gan gynnwys artistiaid.
1.11 Diben sesiynau rhwydweithiau Diwylliant a Hinsawdd Cymru yw:
1.11.1 Dwyn ynghyd rhanddeiliaid ar draws y sector diwylliant a meithrin perthnasoedd a chyfleoedd i rwydweithio
1.11.2 Ymgysylltu rhanddeiliaid o’r sector diwylliant gyda materion hinsawdd perthnasol, er mwyn hwyluso dysgu a rhannu astudiaethau achos ac enghreifftiau o arfer gorau.
1.11.3 Cryfhau Diwylliant a Hinsawdd Cymru fel rhwydwaith sefydledig a gweithredol, y mae aelodau yn teimlo’n ymrwymedig iddo.
1.12 Ariannir y Rhaglen Argyfwng Hinsawdd gan Lywodraeth Cymru.
2 Manyleb y Prosiect
2.1 Mae’r Llyfrgell yn dymuno comisiynu gwasanaeth ymgynghorydd i gydlynu, rhaglennu a darparu pum sesiwn wyneb yn wyneb Rhwydwaith Diwylliant a Hinsawdd Cymru ar draws Cymru rhwng mis Tachwedd 2026 a mis Mawrth 2028.
2.2 Mae’r gwaith yn cynnwys cysylltu â phartneriaid amrywiol a goruchwylio’r gwaith, trefnu, a rheoli’r digwyddiadau rhwydwaith amrywiol. Bydd angen i’r ymgynghorydd allu gweithio’n ddwyieithog yn Gymraeg ac yn Saesneg, gan feddu ar wybodaeth o’r sectorau diwylliant a threftadaeth. Byddai gwybodaeth am gynaliadwyedd yn ddymunol.
2.2.1 Cynhelir y digwyddiad cyntaf yn ystod yr wythnos yn cychwyn ar 23 Tachwedd 2026 (y dyddiad i’w gadarnhau) ac mae’n rhaid bod yr ymgynghorydd ar gael yn ystod yr wythnos hon a’r wythnos flaenorol.
2.2.2 Cytunir ar ddyddiadau y digwyddiadau dilynol ar y cyd â’r cyflenwr llwyddiannus.
2.3 Cyfanswm y gyllideb a fydd ar gael ar gyfer y prosiect hwn yw £20,000 (heb gynnwys TAW).
2.4 Cynhelir y prosiect gan yr ymgynghorydd mewn partneriaeth agos â Swyddog Arweiniol y Llyfrgell dros y Rhaglen Argyfwng Hinsawdd.
2.5 Pennwyd mai dyddiad gorffen y prosiect fydd 31/03/2028.
2.6 Y gwaith fydd goruchwylio a rheoli’r digwyddiadau. Bydd hyn yn cynnwys:
2.6.1 Trefnu ac archebu’r lleoliad, arlwyo, cyfieithu, hygyrchedd.
2.6.2 Trefnu ac archebu siaradwyr, hwyluswyr ac artistiaid ar gyfer y digwyddiadau.
2.6.3 Trefnu, archebu a goruchwylio’r holl faterion technegol.
2.6.4 Cydlynu gwahoddiadau, deunydd marchnata a chofrestru (trwy gydweithio â’r Llyfrgell a gyda’i chymorth).
2.6.5 Rheoli a goruchwylio’r digwyddiadau yn ystod y diwrnod.
2.6.6 Gweithio gyda phartneriaid a rhanddeiliaid ar ymgyrchoedd hyrwyddo.
2.6.7 Cynllunio, casglu a dadansoddi data gwerthuso llai manwl o’r digwyddiadau (megis ffurflen adborth syml).
2.6.8 Sicrhau bod y digwyddiadau yn bodloni ymrwymiad y Llyfrgell i gynwysoldeb, cydraddoldeb ac amrywiaeth.
2.6.9 Gweithio gyda’r Swyddog Arweiniol dros y Rhaglen Argyfwng Hinsawdd er mwyn ystyried hygyrchedd ar gyfer gweithwyr diwylliannol llawrydd.
2.7 Gwneir penderfyniadau rhaglennu trwy ymgynghori â’r Swyddog Arweiniol dros y Rhaglen Argyfwng Hinsawdd a rhanddeiliaid perthnasol.
2.8 Dim ond eu hamser a’u treuliau, ac unrhyw gostau cyfieithu, y bydd angen i ymgeiswyr gyflwyno pris amdanynt. Bydd y Llyfrgell yn talu costau cysylltiedig y digwyddiad yn uniongyrchol (h.y. lleoliad, arlwyo, siaradwyr, cyfieithu ar y pryd, hygyrchedd (Iaith Arwyddion Prydain/sgrindeitlo)).
3 Gofynion o ran yr iaith Gymraeg
3.1 Dylid darparu’r digwyddiadau fel rhai dwyieithog, gyda dealltwriaeth o gyd-destun yr iaith Gymraeg a diwylliant Cymru, y berthynas rhwng pobl, iaith a thir, ac effaith yr argyfyngau hinsawdd a natur ar gymunedau Cymraeg a diwylliant Cymru.
3.2 Dylid cyflawni’r gwaith mewn ffordd a fydd yn cydymffurfio â Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 7) 2018: https://business.senedd.wales/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=21301
3.3 Dylid cynnwys costau unrhyw waith cyfieithu er mwyn galluogi’r ymgynghorydd i weithio mewn ffordd ddwyieithog, yn y gyllideb.
4 Adrodd
4.1 Bydd yr ymgynghorydd yn adrodd i’r Swyddog Arweiniol dros y Rhaglen Argyfwng Hinsawdd.
5 Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol
5.1 Mae cyfrannu at gynaliadwyedd economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn bwysig i weithrediadau’r Llyfrgell. Dylid cyflawni’r prosiect mewn ffyrdd sy’n manteisio i’r eithaf ar gyfraniadau i gynaliadwyedd economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol.
6 Amserlenni a Thargedau
6.1 Mae angen cyflawni’r prosiect rhwng mis Medi 2026 a mis Mawrth 2028. Bydd gofyn i’r Ymgynghorydd ddechrau ar eu gwaith cyn gynted ag y bo’r contract yn cychwyn, felly mae’r gallu i weithio o fewn yr amserlen yn hollbwysig.
6.2 Bydd yr amserlenni a’r targedau canlynol yn berthnasol:
Cam / Gweithgarwch Dyddiad Dangosol
Cyhoeddi dogfen gwahoddiad i dendro Dydd Mawrth, 18 Awst 2026
Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cwestiynau yn ceisio eglurhad Dydd Mawrth, 1 Medi 2026 12:00 (canol dydd)
Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno Dydd Mawrth, 8 Medi 2026 12:00 (canol dydd)
Dewis y tendrwr llwyddiannus ar ôl cynnal asesiad a rhoi hysbysiad o ganlyniadau’r gwerthusiad Dydd Mawrth, 15 Medi 2026
Cyhoeddi Hysbysiad Penderfyniad Dyfarnu, cyfnod segur 8 diwrnod yn cychwyn Dydd Mawrth, 15 Medi 2026
Diwedd y cyfnod segur, llofnodi’r Contract, gwneud y taliad 1af Dydd Iau, 24 Medi 2026
Cwblhau’r prosiect Dydd Gwener, 31 Mawrth 2028
7 Cyllideb
7.1 Ni fydd swm y gyllideb a gaiff ei neilltuo i’r prosiect yn werth mwy nag £20,000 (heb gynnwys TAW) am yr holl elfennau i’w cyflawni.
7.2 Ni fydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn derbyn unrhyw gyflwyniadau tendr a fydd yn cynnwys prisiau a fydd dros £20,000 (a TAW). Ni chaiff tendrau o’r fath eu gwerthuso.
7.3 Dylai eich cyllideb gynnwys unrhyw amser teithio neu dreuliau teithio, gan na fydd modd ychwanegu’r rhain i’ch cynnig yn nes ymlaen.
8 Amodau a Thelerau'r Cytundeb
8.1 Rhaid i chi gydymffurfio ag Amodau a Thelerau Safonol Llyfrgell Genedlaethol Cymru (sydd ynghlwm).
NODER: Ewch i'r Wefan yn https://www.sell2wales.gov.wales/Search/Search_Switch.aspx?ID=169319 i gofrestru eich diddordeb yn yr hysbysiad hwn a chael unrhyw wybodaeth ychwanegol.
Mae'r awdurdod dyfarnu wedi nodi y bydd yn derbyn ymatebion electronig i'r hysbysiad hwn drwy'r cyfleuster 'Blwch Postio Cyflwyno Tendrau'. Mae rhagor o fanylion am y cyfleuster hwn ar gael yn https://www.sell2wales.gov.wales/sitehelp/help_guides.aspx.
Cynghorir cyflenwyr i ganiatáu digon o amser i lanlwytho dogfennau ac anfon yr ymateb electronig ymhell cyn yr amser cau er mwyn osgoi unrhyw broblemau munud olaf.
|