Disgrifiad o'r nwyddau neu'r gwasanaethau sydd eu hangen
Mae Creu Cymunedau Cyfoes yn gynllun celfyddydol cenedlaethol 3 blynedd adfywiol gan Gyngor Celfyddydau Cymru sy'n digwydd mewn 7 lleoliad ledled Cymru. Nod cyffredinol Creu Cymunedau Cyfoes yw ymgorffori’r celfyddydau mewn modd ystyrlon mewn nifer o brosiectau adfywio sy’n uchelgeisiol, arloesol sy’n llawn dychymyg. Roedd Creu Cymunedau Cyfoes yn fodd i herio’n artistig ystyr gonfensiynol adfywio, pensaernïaeth a dylunio a dylanwadu ar sut y rheolir ac y cynllunnir y gofod cymunedol a’r datblygiad lleol.
Dyma’r ddolen i’r prosiectau: http://www.arts.wales/Arts-in-Wales/IDEAS-people-Places?diablo.lang=cym Dechreuodd y rhaglen yn 2014 ac erbyn hyn mae’n symud tuag at ei ddiwedd gyda phrosiectau sy'n dod i ben rhwng Chwefror a Gorffennaf 2018.
Rydym am weithio â gwneuthurwr ffilmiau, tîm gwneud ffilmiau neu gwmni cynhyrchu fideo ar gyfer gweddill y prosiect (rhwng mis Chwefror a mis Awst 2018) i gyfleu naws y prosiect a’r hyn a ddysgwyd. Byddwch yn gweithio gyda Chyngor Celfyddydau Cymru a'r gymuned Creu Cymunedau Cyfoes i benderfynu beth i’w gynnwys a pha themâu i’w dilyn. Mae tair elfen unigryw o’r gwaith:
- Gweithio gyda phrosiectau i gael ffilmiau a ffotograffau o weithgarwch yn y gorffennol (gan ddibynnu ar ansawdd y deunydd ffilm, caniatâd ac ati). Golygu'r deunydd ffilm Creu Cymunedau Cyfoes i greu archif a defnyddio’r clipiau hyn yn eich ffilm.
- Dilyn taith Creu Cymunedau Cyfoes yn ei 6 mis olaf, ffilmio gweithgareddau allweddol, gwersi a ddysgwyd a chynnal cyfweliadau i gynhyrchu ffilm fer o 3-5 munud.
- Gan dynnu ar yr archifau a’ch ffilm eich hun, creu cyfres o 10-15 o astudiaethau achos/ffilmiau thematig/cyfweliadau ar ffilm.
Rydym yn chwilio am un neu ragor o wneuthurwyr ffilmiau sy'n gallu cynnig awgrymiadau creadigol ynglyn â sut orau i gasglu a rhannu gwahanol elfennau ein rhaglen ddigidol. Byddem yn hoffi cael ffilmiau o ansawdd uchel, sy’n archwiliadol, chwareus a diddorol ac mae gennym ddiddordeb mewn dulliau dyfeisgar o greu ffilmiau ddogfennol ar fformat arferol sydd hefyd yn eiriol.
Rhagwelwn mai’r brif gynulleidfa ar gyfer y ffilmiau fydd y rhwydweithiau proffesiynol yn y meysydd celfyddydol, llunio lleoedd ac adfywio a llunwyr polisi ar lefel uwch yn lleol ac yn y llywodraeth genedlaethol.
Dylai’r fideos a gynhyrchir fod yn addas ar gyfer eu cyflwyno ar wefan Cyngor Celfyddydau Cymru, Fimeo, Gweplyfr, Trydar a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol eraill a’u defnyddio mewn cyflwyniadau cyhoeddus. Dylai pob fideo gael ei mwyafu i’w gwylio’n symudol.
Y Gymraeg a hygyrchedd
Rhaid i’r brif ffilm fod yn ddwyieithog neu fod ar gael mewn fersiynau Cymraeg a Saesneg.
Rhaid i holl gynnwys lynu wrth bolisi Cymraeg y Cyngor – mae copi ar gael yn adran “Dogfennau ychwanegol” er gwybodaeth. Bydd y gallu i weithio'n ddwyieithog yn ddymunol iawn, er nad yw'n hanfodol ar gyfer y gwaith.
Darparwn broffiliau cynulleidfaol a chopi o'n strategaeth farchnata a chyfathrebu i’r cynigydd llwyddiannus.
Hyd:
Chwefror - Awst 2018
Cyllideb a sut i wneud cais
Cyfanswm y gyllideb sydd ar gael ar gyfer y gwaith hwn yw £10,000 (gan gynnwys TAW a threuliau).
I wneud cais dylech anfon:
- CVau neu fywgraffiadau sy’n eich disgrifio chi/eich tîm gan gynnwys manylion gwaith blaenorol yn arbennig yn y celfyddydau a’r sectorau creadigol a diwylliannol
- Enghreifftiau o waith blaenorol hyd yn hyn (os oes modd, gyda ddolen we)
-Amlinelliad byr o sut y bwriadwch fynd ati i gyflawni’r briff hwn
-Dadansoddiad o'r gyllideb gan gynnwys dadansoddiad o’r dyddiau ffilmio a golygu
-Bydd hefyd angen inni weld tystiolaeth o'ch gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd cyfredol ac yswiriant atebolrwydd cyhoeddus (hyd at £5 miliwn).
Bydd unrhyw benodiad yn ddarostyngedig i delerau ac amodau contract safonol Cyngor Celfyddydau Cymru ac mae copi ar gael o dan adran "Dogfennau Ychwanegol".
Noder, efallai y dewiswn gyfweld â nifer bach o gwmnïau yn yr wythnos sy’n dechrau 5 Chwefror 2018.
Am ragor o wybodaeth am y cyfle hwn, cysylltwch â Helen.Williams@celf.cymru
NODER: Ewch i'r Wefan yn http://www.sell2wales.gov.wales/Search/Search_Switch.aspx?ID=74839 i gofrestru eich diddordeb yn yr hysbysiad hwn a chael unrhyw wybodaeth ychwanegol.
Mae'r awdurdod dyfarnu wedi nodi y bydd yn derbyn ymatebion electronig i'r hysbysiad hwn drwy'r cyfleuster 'Blwch Postio Cyflwyno Tendrau'. Mae rhagor o fanylion am y cyfleuster hwn ar gael yn http://www.sell2wales.gov.wales/sitehelp/help_guides.aspx.
Cynghorir cyflenwyr i ganiatáu digon o amser i lanlwytho dogfennau ac anfon yr ymateb electronig ymhell cyn yr amser cau er mwyn osgoi unrhyw broblemau munud olaf.
|