Disgrifiad o'r contract
Mae Frân Wen yn chwilio am ddatblygwyr gwefannau (unigolion neu asiantaethau) sydd â diddordeb ail-ddylunio ac adeiladu eu gwefan i adlewyrchu brand newydd y cwmni ac i gefnogi Nyth, eu cartref newydd ym Mangor.
• CMS hawdd ei ddefnyddio
• Yn gwbwl dwyieithog
• Hyblygrwydd i ychwanegu a dileu adrannau / tudalennau / posts.
• Integreiddio gyda chyfryngau cymdeithasol.
• Cyfryngau: Fideo, lluniau, GIFS.
• Ffurflen gysylltu.
• Cofrestru i fasdata ar gyfer cynigion arbennig/cylchlythyr.
• Adran 'Beth sydd ymlaen' (What's On) / calendr / lleoliadau a lleoliadau taith.
• Siop mân-werthu syml.
• Blogiau.
• Gwybodaeth hygyrchedd.
• Adran aelodau a ddiogelir gan gyfrinair.
PWY YW FRÂN WEN?
• Mae Frân Wen yn gwmni theatr i bobl ifanc sydd wedi'i leoli yng Ngogledd Orllewin Cymru.
• Rydyn ni'n creu a theithio theatr eofn yn yr iaith Gymraeg. Bydd ein cartref newydd ym Mangor yn leoliad i gynnal perfformiadau ar raddfa fechan, prosiectau a digwyddiadau amrywiol.
• Mae pobl ifanc wrth wraidd popeth rydyn ni'n ei wneud.
• Llynedd, ymgysylltwyd â 14,447 o bobl ifanc, gyda ffocws benodol ar feithrin hyder, hunanwerth a chefnogi pobl ifanc i gyrraedd eu potensial llawn drwy bod yn greadigol.
• Rydyn ni'n rhoi cydraddoldeb a hygyrchedd wrth galon ein hymarfer ac rydyn ni’n awyddus i’n gwefan adlewyrchu hyn.
|