Skip to main content

Rydym wedi cadw rhai ffeiliau o'r enw cwcis ar eich dyfais. Y cwcis hyn yw:

  • Hanfodol ar gyfer y safle i weithio
  • Helpu i wella ein gwefan drwy gasglu ac adrodd gwybodaeth am sut rydych chi'n ei defnyddio

Hoffem hefyd arbed rhai cwcis i helpu i deilwra cyfathrebu.

BETA
Rydych yn edrych ar fersiwn wedi'i ddiweddaru o'r gwasanaeth hwn - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hysbysiad o Gontract

Datblygu, dylunio, cynnal a gweithredu ap twristiaeth gynaliadwy

  • Cyhoeddwyd gyntaf: 11 Chwefror 2026
  • Wedi'i addasu ddiwethaf: 11 Chwefror 2026
  • Fersiwn: N/A
  • Cofnodi Diddordeb

     

  • Efallai na fydd y ffeil hon yn gwbl hygyrch.

  •  

Cynnwys

Crynodeb

OCID:
ocds-kuma6s-161299
Cyhoeddwyd gan:
Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
ID Awudurdod:
AA22451
Dyddiad cyhoeddi:
11 Chwefror 2026
Dyddiad Cau:
02 Mawrth 2026
Math o hysbysiad:
Hysbysiad o Gontract
Mae ganddo ddogfennau:
Yndi
Wedi SPD:
Nac Ydi
Mae ganddo gynllun lleihau carbon:
Nac Ydi

Crynodeb

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri (APCE) yn gwahodd tendrau ar gyfer dylunio, datblygu, cynnal a dechrau gweithredu ap digidol arloesol i gefnogi ymddygiad cynaliadwy ymwelwyr, ymgysylltu diwylliannol dyfnach, a budd cymunedol cadarnhaol mewn dwy ardal beilot o fewn Parc Cenedlaethol Eryri. Bydd yr ap yn cael ei ddatblygu drwy broses gyd-gynhyrchu gydag APCE, partneriaid, busnesau lleol, sefydliadau a chynrychiolwyr cymunedol, a gynhelir cyn y broses dendro. Caiff ei dreialu’n gyntaf ym Metws-y-coed a’r Bala, lle mae cefnogaeth gymunedol i’r prosiect eisoes wedi’i sicrhau. Mae hwn yn brosiect hynod arloesol ac ar flaen y gad. Er ei fod wedi’i ysbrydoli gan CopenPay (cynllun rhoi gan ymwelwyr â Copenhagen), mae’r prosiect hwn yn gofyn am fodel pwrpasol, gwledig, tymhorol y gellir ei addasu i’r ardal hon, wedi’i deilwra’n benodol i’r cyfleoedd a’r cyfyngiadau sy’n bodoli mewn cyd-destun Parc Cenedlaethol, wrth fynd i’r afael â’r heriau economaidd, diwylliannol ac amgylcheddol sy’n wynebu Eryri yn 2026.

Testun llawn y rhybydd

HYSBYSIAD O GONTRACT - CENEDLAETHOL

SERVICES

1 Manylion yr Awdurdod

1.1

Enw a Chyfeiriad yr Awdurdod


Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri

Corfforaethiol, Penrhyndeudraeth,

Gwynedd

LL48 6LF

UK

Iwan Jones

+44 1766770274

parc@eryri.llyw.cymru

http://www.eryri.llyw.cymru
https://www.sell2wales.gov.wales
https://www.sell2wales.gov.wales

1.2

Cyfeiriad ar gyfer cael dogfennaeth


Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri

Partneriaethau, Penrhyndeudraeth,

Gwynedd

LL48 6LF

UK

Catrin Glyn

+44 1766770274

catrin.glyn@eryri.llyw.cymru

http://www.eryri.llyw.cymru

1.3

Mae'n rhaid dychwelyd dogfennau wedi'u cwblhau at:


Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri

Penrhyndeudraeth,

Gwynedd

LL48 6LF

UK

Catrin Glyn

+44 1766770274

catrin.glyn@eryri.llyw.cymru

http://www.eryri.llyw.cymru

2 Manylion y Contract

2.1

Teitl

Datblygu, dylunio, cynnal a gweithredu ap twristiaeth gynaliadwy

2.2

Disgrifiad o'r nwyddau neu'r gwasanaethau sydd eu hangen

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri (APCE) yn gwahodd tendrau ar gyfer dylunio, datblygu, cynnal a dechrau gweithredu ap digidol arloesol i gefnogi ymddygiad cynaliadwy ymwelwyr, ymgysylltu diwylliannol dyfnach, a budd cymunedol cadarnhaol mewn dwy ardal beilot o fewn Parc Cenedlaethol Eryri.

Bydd yr ap yn cael ei ddatblygu drwy broses gyd-gynhyrchu gydag APCE, partneriaid, busnesau lleol, sefydliadau a chynrychiolwyr cymunedol, a gynhelir cyn y broses dendro. Caiff ei dreialu’n gyntaf ym Metws-y-coed a’r Bala, lle mae cefnogaeth gymunedol i’r prosiect eisoes wedi’i sicrhau.

Mae hwn yn brosiect hynod arloesol ac ar flaen y gad. Er ei fod wedi’i ysbrydoli gan CopenPay (cynllun rhoi gan ymwelwyr â Copenhagen), mae’r prosiect hwn yn gofyn am fodel pwrpasol, gwledig, tymhorol y gellir ei addasu i’r ardal hon, wedi’i deilwra’n benodol i’r cyfleoedd a’r cyfyngiadau sy’n bodoli mewn cyd-destun Parc Cenedlaethol, wrth fynd i’r afael â’r heriau economaidd, diwylliannol ac amgylcheddol sy’n wynebu Eryri yn 2026.

NODER: Ewch i'r Wefan yn https://www.sell2wales.gov.wales/Search/Search_Switch.aspx?ID=161302 i gofrestru eich diddordeb yn yr hysbysiad hwn a chael unrhyw wybodaeth ychwanegol.

Mae'r awdurdod dyfarnu wedi nodi y bydd yn derbyn ymatebion electronig i'r hysbysiad hwn drwy'r cyfleuster 'Blwch Postio Cyflwyno Tendrau'. Mae rhagor o fanylion am y cyfleuster hwn ar gael yn https://www.sell2wales.gov.wales/sitehelp/help_guides.aspx.

Cynghorir cyflenwyr i ganiatáu digon o amser i lanlwytho dogfennau ac anfon yr ymateb electronig ymhell cyn yr amser cau er mwyn osgoi unrhyw broblemau munud olaf.

2.3

Cod a Dosbarthiad yr Hysbysiad

48000000 Systemau pecynnau meddalwedd a gwybodaeth
72000000 Gwasanaethau TG: ymgynghori, datblygu meddalwedd, y Rhyngrwyd a chymorth
100 DU - I gyd
1000 CYMRU
1010 Gorllewin Cymru a'r Cymoedd
1011 Ynys Môn
1012 Gwynedd
1013 Conwy a Sir Ddinbych
1014 De-orllewin Cymru (Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro, Ceredigion)
1015 Cymoedd Canalog (Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf)
1016 Cymoedd Gwent (Torfaen, Blaenau Gwent, Caerffili)
1017 Pen-y-bont ar Ogwr a Castell-Nedd Port Talbot
1018 Abertawe
1020 Dwyrain Cymru
1021 Sir Fynwy a Chasnewydd
1022 Caerdydd a Bro Morgannwg
1023 Sir y Fflint a Wrecsam
1024 Powys

2.4

Cyfanswm maint neu gwmpas y tendr

5. Prif amcanion yr ap

Bydd rhaid i’r ap:

• Annog gweithredoedd cynaliadwy gan ddefnyddwyr a darparu manteision amgylcheddol y gellir eu hadrodd, mewn cydberthynas â thargedau Net Zero APCE a chyfrif Small World Consulting 2023 (atodiadau)

• Cefnogi dysgu am ddiwylliant lleol, treftadaeth a’r Gymraeg

• Gwella, cyfoethogi a amrywioli profiad yr ymwelwr heb gynyddu’r pwysau amgylcheddol

• Cynhyrchu manteision ymarferol i fusnesau a chymunedau lleol

• Bod yn ddealladwy, deniadol ac yn hawdd i’w ddefnyddio

Mae’r prosiect hwn yn cynnig cyfle arloesol i ddatblygu model newydd o ymgysylltu cynaliadwy ag ymwelwyr mewn tirweddau gwarchodedig.

Mae APCE yn chwilio am bartner cyflwyno sydd â’r un uchelgais ac a all helpu i’w datblygu yn blatfform digidol cadarn, hyblyg ac addas ar gyfer y dyfodol, gyda chysylltiad sydd y tu hwnt i Barc Cenedlaethol Eryri.

6. Prif anghenion gosodiadau

(Please see the separate Technical Brief document)

The app must include (as a minimum):

6.1 Nodweddion defnyddiwr

• Ap gwe a hefyd ap lawrlwythadwy ar gael yn siopau Apple/Android

• Dwyieithog (Cymraeg a Saesneg)

• Cynnwys a UX hygyrch (yn unol â deddfwriaeth Llywodraeth Cymru)

• Cyfrifon personol i ddefnyddwyr

• Opsiynau cofrestru/mewngofnodi cymdeithasol

• Proffil defnyddiwr sy’n dangos:

o Balans pwyntiau

o Heriau a gwobrau a gyflawnwyd

o Gweithgareddau a gyflawnwyd (e.e. gwirfoddoli, teithio cynaliadwy)

o Gwobrau a hawliwyd

• Elfennau gemau i annog ymgysylltiad (cwblhau cyrchfan, lefelau esblygol o ‘arbenigedd’)

• Ffrwd ‘gymdeithasol’ i ddangos gweithgaredd defnyddwyr eraill a rhestr arweinyddion dewisol

• Gallu i ddefnyddwyr:

o Uwchlwytho tystiolaeth o weithredoedd (e.e. lluniau, derbyniadau, tocynnau)

o Sganiwch godau QR

o Hawlio pwyntiau am wobrau

• Arbedion/adio carbon a dangosfwrdd dadansoddeg arall

• Modd ‘carbon isel’ ar gyfer yr ap

• Dymunol: Integreiddio gwasanaethau Fintech/banciau

6.2 Nodweddion busnesau a sefydliadau

• Panel gweinyddol diogel ar gyfer busnesau a sefydliadau sy’n cymryd rhan

• Gallu i:

o Uwchlwytho a rheoli cynigion

o Hyrwyddo digwyddiadau neu newyddion

o Rhaglennu hyrwyddiadau

o Mapio cynigion yn nhermau daearyddol

• Mae pob cynnwys yn destun i gymeradwyaeth/dilysu gan APCE cyn mynd ar-lein

• Fforwm i fusnesau drafod y rhaglen, y cymhellion a’r hyrwyddiadau

6.3 Rheolaeth a gweinyddiaeth

• Dangosfwrdd gweinyddol canolog APCE

• Cymeradwyo llif gwaith

• Goruchwyliaeth cynnwys

• Adroddiadau a dadansoddeg

7. Anghenion technegol

Dylai’r rhai sy'n tendro fynd i’r afael â’r gofynion canlynol:

• Dwyieithog o’r cychwyn (Cymraeg a Saesneg)

• Ymagwedd cod agored, gyda gwelededd o’r cod

• Opsiwn i APCE gynnal yr ap/ap gwe eu hunain yn y dyfodol os oes angen

• Pensaernïaeth y gellir ei addasu, gan ganiatáu i ardaloedd ychwanegol gael eu hychwanegu gan APCE neu bartneriaid eraill

• Dilysu defnyddwyr diogel

• Offer wedi’u galluogi gan AI, gan gynnwys:

o Modd o sganio derbyniadau

o Dilysu tocynnau/lluniau

o Modd o sganio codau QR

• Integreiddio dewisol gyda gwasanaethau banciau/talu

• Safonau uchel o ddiogelwch data a chydymffurfiaeth GDPR

• Costau cynnal a chadw a diweddaru parhaus yn unol â diweddariadau systemau gweithredu am o leiaf 4 blynedd

• Costau cynnal a thrafnidiaeth yn cynnwys

3 Amodau ar gyfer Cymryd Rhan

3.1

Safonau gofynnol a'r cymhwyster sydd ei angen

10. Anghenion contractwr

Mae’n ofynnol i’r holl gwmnïau/timau gyflwyno’r wybodaeth ganlynol am eu cwmni/tîm yn eu dogfen dendro i ddangos eu gallu i gyflawni ein nodau a chanlyniadau’r prosiect yn effeithlon:

 Crynodeb o ddealltwriaeth y cwmni/tîm o’r briff hwn

 Profiad perthnasol yn y maes a thystiolaeth o’r profiad hwn, gan gynnwys yswiriant perthnasol

 Tystiolaeth o strwythur y tîm a’i leoliad (ni chaniateir is-gontractio gwaith dramor) a lefelau cymorth (cynrychiolydd gwasanaeth cwsmer/rheoli cyfrif)

 Amlinelliad o’r fethodoleg berthnasol a gynigir i gyflawni’r nodau/amcanion

 Rhaid i rai sy’n tendro ddisgrifio’n glir eu hymagwedd arfaethedig i ddatblygu’r ap a’i gynnwys, gan gynnwys camau datblygu, drafftio a’r broses adolygu, amserlenni a chanlyniadau disgwyliedig, a rhaid iddynt gynnwys yr holl wybodaeth, cyfraniadau, cymeradwyaethau a chymorth y byddant eu hangen gan yr Awdurdod er mwyn cyflawni’r prosiect yn llwyddiannus (i’w gynnwys yn y datganiad ‘Gofynion Cleient’ a grybwyllir isod)

 Gweithio yn Gymraeg/Saesneg a chyfieithu: Rhaid i rai sy’n tendro egluro sut y caiff gweithredoldeb dwyieithog ei gyflawni, gan gynnwys eu hymagwedd i ddrafftio cynnwys, cyfieithu a sicrhau ansawdd cynnwys Cymraeg, yr offer neu’r gwasanaethau a ddefnyddir (cyfieithu person neu feddalwedd), a’r lefel o gyfraniad y bydd angen gan yr Awdurdod ar gyfer darpariaeth cynnwys, profi, a chymeradwyaethau (i’w gynnwys yn y datganiad ‘Gofynion Cleient’ a grybwyllir isod)

 Dadansoddiad ffioedd a chostau (eitemedig fesul nodwedd allweddol fel y nodir yn y crynodeb technegol)

 Eich gallu i gyflawni’r gwaith o fewn dyddiad y cytundeb

 Darparu datganiad ‘Gofynion Cleient’ yn nodi beth y mae’r cwmni/tîm llwyddiannus yn ei ddisgwyl gan APCE drwy gydol y prosiect

 Dymunol - delweddau i ddangos cydlyniad â’r crynodeb, UX posibl yr ap a moesoldeb arfaethedig

 Dymunol - ymrwymiad tystiedig i ddefnyddio technoleg carbon isel ar gyfer datblygu a gweithredu’r ap

4 Gwybodaeth Weinyddol

4.1

Math o Weithdrefn

Un cam

4.2

Rhif cyfeirnod a roddwyd i'r hysbysiad gan yr awdurdod contractio

Ap twristiaeth cynaliadwy

4.3

Terfynau Amser



Terfyn amser ar gyfer derbyn tendrau wedi'u cwblhau
     02 - 03 - 2026  Amser   12:00

Dyddiad dyfarnu amcangyfrifedig   06 - 03 - 2026

4.5

Yr iaith neu'r ieithoedd y gellir ei/eu defnyddio i lunio tendrau neu geisiadau i gymryd rhan

EN   CY  

4.6

Blwch Postio Cyflwyno Tendrau

Mae'r awdurdod dyfarnu wedi nodi y bydd yn derbyn ymatebion electronig i'r hysbysiad hwn drwy'r Blwch Postio Cyflwyno Tendrau. Mae rhagor o fanylion ar gael yn https://www.sell2wales.gov.wales/sitehelp/help_guides.aspx

5 Gwybodaeth Arall

5.1

Gwybodaeth Ychwanegol

Gweler y dogfennau Briff a Briff Technegol

(WA Ref:161302)

Mae'r prynwr yn ystyried bod y contract hwn yn addas ar gyfer ceisiadau consortia.

5.2

Dogfennaeth Ychwanegol

5.3

Dyddiad cyhoeddi'r hysbysiad hwn

  11 - 02 - 2026

Codio

Categorïau nwyddau

ID Teitl Prif gategori
72000000 Gwasanaethau TG: ymgynghori, datblygu meddalwedd, y Rhyngrwyd a chymorth Gwasanaethau Cyfrifiadurol a Chysylltiedig
48000000 Systemau pecynnau meddalwedd a gwybodaeth Gwasanaethau Cyfrifiadurol a Chysylltiedig

Lleoliadau Dosbarthu

ID Disgrifiad
1018 Abertawe
1022 Caerdydd a Bro Morgannwg
1013 Conwy a Sir Ddinbych
1015 Cymoedd Canalog (Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf)
1016 Cymoedd Gwent (Torfaen, Blaenau Gwent, Caerffili)
1000 CYMRU
1014 De-orllewin Cymru (Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro, Ceredigion)
100 DU - I gyd
1020 Dwyrain Cymru
1010 Gorllewin Cymru a'r Cymoedd
1012 Gwynedd
1017 Pen-y-bont ar Ogwr a Castell-Nedd Port Talbot
1024 Powys
1021 Sir Fynwy a Chasnewydd
1023 Sir y Fflint a Wrecsam
1011 Ynys Môn

Cyfyngiadau Rhanbarthol ar y Rhybuddion

Mae’r prynwr wedi cyfyngu’r rhybuddion ar gyfer yr hysbysiad hwn i gyflenwyr yn y rhanbarthau canlynol.

ID Disgrifiad
Nid oes cyfyngiadau ar y rhybuddion ar gyfer yr hysbysiad hwn.

Ynglŷn â'r prynwr

Prif gyswllt:
parc@eryri.llyw.cymru
Cyswllt gweinyddol:
catrin.glyn@eryri.llyw.cymru
Cyswllt technegol:
N/a
Cyswllt arall:
catrin.glyn@eryri.llyw.cymru

Gwybodaeth bellach

Dyddiad Manylion
Nid oes unrhyw wybodaeth bellach wedi'i lanlwytho.

Blwch Post

Mae'r awdurdod dyfarnu wedi nodi y bydd yn derbyn ymatebion electronig i'r hysbysiad hwn drwy'r Blwch Postio Cyflwyno Tendrau.

Cyflwyno eich ymateb i'r tendr yn electronig mewn amgylchedd diogel.

Er mwyn creu ymateb electronig, cliciwch ar y botwm "Ychwanegu at fy rhestr Diddordeb" ar frig y dudalen.

Am ragor o wybodaeth am y Blwch Postio, darllenwch y canllaw i ddefnyddwyr:

Cwestiynau ac Atebion

Gofyn unrhyw gwestiynau y gall fod gennych ynghylch yr hysbysiad hwn i'r prynwr. Er mwyn gofyn cwestiwn neu gwestiynau i'r prynwr cliciwch ar y botwm "Gweld Cwestiynau ac Atebion".

Dogfennau Ychwanegol

Mae'r dogfennau ychwanegol canlynol wedi'u hatodi i'r hysbysiad hwn. I gael y dogfennau hyn, dewiswch enwau'r ffeiliau unigol isod.

Dogfennau cyfredol

Nid oes unrhyw ddogfennau wedi'u hatodi i'r ddogfen hon

Dogfennau wedi'u disodli

Nid oes unrhyw fersiynau blaenorol o'r dogfennau hyn


0800 222 9004

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.

We welcome calls in Welsh.