Disgrifiad o'r nwyddau neu'r gwasanaethau sydd eu hangen
ADRAN 1: CEFNDIR A MANYLEB
1 Trosolwg a Chyd-destun
1.1 Nod y prosiect hwn yw cefnogi sefydliadau diwylliannol a threftadaeth sy'n gyfrifol am adeiladau hanesyddol yng Nghymru i lywio'r prosesau a'r camau sy'n gysylltiedig â datgarboneiddio eu hadeiladau i gyrraedd eu targedau sero net. Ariennir y prosiect hwn gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru (LlGC), gan weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a Cadw.
1.2 Gan weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru (LlGC) yn arwain ar Rhaglen Argyfwng Hinsawdd proffil uchel a thrawsbynciol sy'n gweithio ar draws tri maes polisi – diwylliant, y celfyddydau a'r amgylchedd hanesyddol (Cadw). Mae'r rhaglen yn cefnogi cyflawni Uchelgais 16 y Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant, sef i'r sector diwylliant ddangos "arweinyddiaeth a chydweithio yn ei ddulliau gweithredu ar gyfer datblygu cynaliadwy, meithrin gwydnwch, a mynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur", trwy gyflwyno cyfres o brosiectau strategol a mentrau datblygu sector i gefnogi blaenoriaethau a amlinellir yn y Rhaglen Lywodraethu 2021-2026, Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant, Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a'r sector Diwylliant: adroddiad argyfyngau hinsawdd a natur.
1.3 I gefnogi'r camau gweithredu hyn o dan Uchelgais 16, mae Llywodraeth Cymru yn comisiynu ymchwil i seilwaith corfforol y sector diwylliant yng Nghymru gyda'r bwriad o ddatblygu cynllun buddsoddi cyfalaf strategol tymor hwy.
2 Manyleb y Prosiect
2.1 Mae'r prosiect peilot - Cefnogi datgarboneiddio sector diwylliannol a threftadaeth Cymru yn adeiladu ar Brosiect Datgarboneiddio'r Sector Diwylliannol a Threftadaeth yn Lloegr, a reolir gan y penseiri Haworth Tompkins, a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Lloegr (ACE) a Historic England (HE) ac yn gweithio'n agos mewn partneriaeth â nhw. Mae'r prosiect hwn wedi cyflwyno pecyn adnoddau newydd i gefnogi sefydliadau diwylliannol a threftadaeth sy'n gyfrifol am adeiladau hanesyddol gyda Developing a Decarbonisation Plan, er mwyn iddynt gael:
2.1.1 dealltwriaeth glir o'r arolygon, asesiadau, cyflenwyr ac ymgynghorwyr/ contractwyr, sydd eu hangen er mwyn datgarboneiddio eu hadeiladau
2.1.2 hyder i gomisiynu'r arolygon a'r asesiadau mwyaf priodol i lywio’r gwaith cynllunio a gwneud penderfyniadau (e.e. gosod pympiau gwres, paneli solar, newidiadau ffabrig ac ati).
2.2 Mae'r prosiect newydd hwn yng Nghymru bellach yn anelu at dreialu pecyn cymorth i sefydliadau sector diwylliannol a threftadaeth Cymru sy'n datgarboneiddio adeiladau treftadaeth ac i brofi pecyn adnoddau Developing a Decarbonisation Plan i'w ddefnyddio yng Nghymru. Bydd y prosiect hefyd yn cynhyrchu astudiaethau achos a fydd yn ddefnyddiol i sefydliadau diwylliannol a threftadaeth eraill yng Nghymru, yn cynyddu dealltwriaeth a hyder ynghylch datgarboneiddio o fewn gweithlu diwylliant a threftadaeth Cymru, ac yn darparu model y gellid ei gyflwyno'n ehangach ar draws y sector yn y dyfodol yn amodol ar sicrhau cyllid ychwanegol.
2.3 Bydd y nodau hyn yn cael eu cyflawni drwy'r prosiect hwn drwy gomisiynu ymgynghorydd/ymgynghorwyr i:
2.3.1 1. Cynhyrchu arfarniad o opsiynau ar gyfer pob un o'r 3 adeilad rhestredig sy'n eiddo i 3 sefydliad diwylliannol a threftadaeth yng Nghymru neu sy'n cael eu rheoli neu eu defnyddio ganddynt. Bydd hyn yn cael ei lywio gan arolygon ac asesiadau a gynhelir ar gyfer pob adeilad ac yn dilyn y dull adeilad cyfan fel y nodir gan Historic England, Cam 1 – Casglu Data ac Arolygon, Cam 2 – Asesu a Chynllunio a'r pecyn adnoddau Developing a Decarbonisation Plan.
2.3.2 2. Cynhyrchu astudiaethau achos ar gyfer pob un o'r 3 adeilad rhestredig ac adroddiad diwedd prosiect ar addasrwydd pecyn adnoddau Developing a Decarbonisation Plan ar gyfer sefydliadau diwylliannol a threftadaeth yng Nghymru. Dylai hyn gynnwys arweiniad ynghylch a oes angen unrhyw adnoddau ychwanegol neu wahanol, ac adborth ar y profiad o ddefnyddio'r pecyn adnoddau Developing a Decarbonisation Plan.
2.3.3 3. Cyflwyno tri digwyddiad hyfforddi wyneb yn wyneb, un ym mhob un o'r tri adeilad, i rannu dysgu gyda rhanddeiliaid yn y sector, a gweminar awr ar y prosiect ac astudiaethau achos, gyda sleidiau darluniadol.
2.4 Y 3 adeilad yw:
2.4.1 1. Oriel Mostyn, Llandudno
2.4.2 2. Theatr y Parc a'r Dâr, Treorci
2.4.3 3. Haverhub CIC, Hwlffordd
2.5 Gweler y Taflenni Gwybodaeth yn yr atodiadau am ragor o fanylion am bob adeilad, gan gynnwys rhestr wirio o'r holl ddogfennau a data a fydd ar gael i'r tendrwyr llwyddiannus gan y sefydliadau.
2.6 Bydd y prosiect yn cael ei gynnal gan yr ymgynghorydd mewn partneriaeth agos â Cadw ac Arweinydd Rhaglen Argyfwng Hinsawdd LlGC.
2.7 Mae'r gyllideb ar gyfer y prosiect hwn wedi'i phennu ar £60,000 heb gynnwys TAW.
2.8 Dyddiad gorffen y prosiect yw 31/03/2027.
3 Cynhyrchion/Allbynnau:
3.1 Bydd angen darparu’r allbynnau canlynol:
3.1.1 i) Cynlluniau Datgarboneiddio x 3
3.1.2 ii) Astudiaethau Achos Cryno x 3
3.1.3 iii) Adroddiad Diwedd Prosiect LlGC, digwyddiadau hyfforddi x 3 a gweminar x 1
NODER: Ewch i'r Wefan yn https://www.sell2wales.gov.wales/Search/Search_Switch.aspx?ID=161533 i gofrestru eich diddordeb yn yr hysbysiad hwn a chael unrhyw wybodaeth ychwanegol.
Mae'r awdurdod dyfarnu wedi nodi y bydd yn derbyn ymatebion electronig i'r hysbysiad hwn drwy'r cyfleuster 'Blwch Postio Cyflwyno Tendrau'. Mae rhagor o fanylion am y cyfleuster hwn ar gael yn https://www.sell2wales.gov.wales/sitehelp/help_guides.aspx.
Cynghorir cyflenwyr i ganiatáu digon o amser i lanlwytho dogfennau ac anfon yr ymateb electronig ymhell cyn yr amser cau er mwyn osgoi unrhyw broblemau munud olaf.
|