Disgrifiad caffael
Creu, cynhyrchu a chyhoeddi cylchgrawn dwyieithog i gefnogi dysgwyr wrth astudio’r cwrs TGAU Hanes newydd sydd wedi ei wneud i Gymru.
Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn rheoli'r broses gaffael ar ran Adnodd ar gyfer creu, cynhyrchu a chyhoeddi cylchgrawn digidol, dwyieithog i gefnogi dysgwyr wrth astudio’r cwrs TGAU Hanes newydd sydd wedi ei wneud i Gymru.
Rhaid i'r cylchgrawn fod:
- yn ddwyieithog (fersiynau Cymraeg a Saesneg)
- ar gael am ddim i'w ddefnyddio
- yn canolbwyntio ar y pynciau a'r themâu ym manyleb TGAU Hanes CBAC
- yn cyd-fynd ag ethos y Cwricwlwm i Gymru, ac un neu ragor o feysydd ffocws presennol Adnodd; llythrennedd, tegwch a gwrth-hiliaeth, a lles.
Bydd tymor y cytundeb yn para am 12 mis, gyda'r opsiwn i ymestyn am 12 mis arall. Bydd tri rhifyn cychwynnol yn cael eu datblygu a'u gwneud ar gael erbyn Medi 2026, Rhagfyr 2026 a Mawrth 2027.
Er mwyn sicrhau bod adnoddau o'r ansawdd uchaf, yn gywir, yn berthnasol, yn hygyrch ac yn ddiddorol, rydym yn annog cynigwyr yn gryf i archwilio cyfleoedd ar gyfer cydweithio ag ystod amrywiol o randdeiliaid.
Amserlen arfaethedig
2026
• Dechrau mis Mawrth: Sesiwn wybodaeth ar-lein a gynhelir gan dîm Comisiynu ac Ansawdd Adnodd.
• Dechrau mis Mawrth: Agor tendrau trwy borth Proactis
• Dechrau mis Ebrill: Dyddiad cau ar gyfer ymateb i dendr
• Dechrau mis Mai: Cytundebau wedi'u dyfarnu
• Dechrau mis Medi: Cyhoeddi'r rhifyn cyntaf
• Diwedd mis Rhagfyr: Cyhoeddi'r ail rifyn
2027
• Diwedd mis Mawrth: Cyhoeddi'r trydydd rhifyn
Bydd tîm Comisiynu ac Ansawdd Adnodd yn cynnal sesiwn wybodaeth ar 4ydd Mawrth 2026 am 11yb.
Os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu'r sesiynau gwybodaeth hyn, e-bostiwch eich manylion at thomaj11@caerphilly.gov.uk.
Creation, production and publication of a bilingual magazine to support learners studying the new History GCSE that has been made for Wales.
Caerphilly County Borough Council will be managing the procurement process on behalf of Adnodd for the creation, production and publication of a digital, bilingual magazine to support learners studying the new History GCSE that has been Made for Wales.
The magazine must be:
- bilingual (Welsh and English versions)
- free to use
- focused on the topics and themes from the WJEC History GCSE specification
- in line with the ethos of the Curriculum for Wales and one or more of Adnodd’s current focus areas; literacy, equity and anti-racism, and well-being.
The contract term will be for 12 months, with the option to extend for a further 12 months. Three initial issues will be developed and made available by September 2026, December 2026 and March 2027.
To ensure that resources are of the highest quality, accurate, relevant, accessible, and engaging, we strongly encourage bidders to actively explore opportunities for collaboration with a diverse range of stakeholders.
Proposed timeline
2026
• Beginning of March: Online information session hosted by Adnodd’s commissioning and quality team.
• Early March: Tenders issued via Proactis portal
• Early April: Tender response deadline
• Early May: Contracts awarded
• Early September: Publication of first issue
• Late December: Publication of second issue
2027
• Late March: Publication of third issue
Adnodd’s commissioning and quality team will run an information session on 4th March 2026 at 11am.
If you are interested in attending these information sessions, please email your details to thomaj11@caerphilly.gov.uk.