Disgrifiad o'r nwyddau neu'r gwasanaethau sydd eu hangen
Mae partneriaeth gydweithredol ‘Dyfodol Gwyrdd Glân’ Awdurdodau Lleol Cymru a Llywodraeth Cymru wedi ymuno â Dŵr Cymru i geisio dod o hyd i ddatrysiad trin/ailgylchu ar gyfer cynnyrch hylendid amsugnol (AHP) a sgrinio mewnfeydd dŵr gwastraff.
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf, ar ran y bartneriaeth Dyfodol Gwyrdd Glân, yn gwahodd cwmnïau neu sefydliadau o’r sector preifat, y sector cyhoeddus a’r trydydd sector i gyflwyno cynigion i ddatblygu datrysiadau arloesol neu’n seiliedig ar ymchwil ymchwil ar gyfer trin/ailgylchu cynnyrch AHP a sgrinio mewnfeydd gwastraff er mwyn ceisio bodloni gofynion prosesu gwastraff AHP ledled Cymru.
Mae partneriaeth Dyfodol Gwyrdd Glân yn ceisio datblygu syniadau a thechnoleg trwy ddau gam a ariennir gan SBRI sy’n cefnogi dichonoldeb, datblygiad a phroses brofi ar gyfer datrysiad arloesol i brosesu AHP. Mae partneriaeth Dyfodol Gwyrdd Glân yn chwilio am syniadau y mae modd eu comisiynu a’u contractio i brosesu AHP ledled Cymru ar gyfer gwastraff AHP Awdurdodau Lleol fel lleiafswm, ond ar gyfer sgrinio mewnfeydd dŵr gwastraff hefyd.
Mae dau gam i’r gystadleuaeth yma:
Cam 1 - Dichonoldeb - Contractau Dichonoldeb a datblygiad (Y&D) SBRI ar gyfer prosiectau gyda chostau hyd at £50,000 gan gynnwys TAW. Bydd hyd at chwe Ymgeisydd yn cael eu dewis ar gyfer Cam 1
Cam 2 – Datblygu a Gwerthuso Prototeip – Contractau ymchwil diwydiannol a busnes SBRI ar gyfer prosiectau gyda chostau cymwys o hyd at £1,000,000 gan gynnwys TAW ar gyfer datblygu a gwerthuso prototeip/Dylunio Peirianneg Pen Blaen (yn amodol ar gyllid).
Bydd penderfyniad i fwrw ymlaen â Cham 2 yn dibynnu ar ganlyniadau Cam 1, argaeledd cyllid pellach ac asesiad o gais ar wahân ar gyfer cystadleuaeth cam 2 dilynol. Dim ond ymgeiswyr llwyddiannus o Gam 1 fydd yn cael gwneud cais i gymryd rhan yng Ngham 2.
Yn dilyn Cam 2, ac yn amodol ar y canlyniadau, bydd y Cleient yn penderfynu ar y llwybr caffael mwyaf priodol i gontractio ac yn comisiynu ateb cwbl weithredol i gyflawni dymuniadau'r Her. Mae’n bosibl y bydd unrhyw ddatrysiadau sy'n deillio o'r gystadleuaeth yma sy'n cael eu mabwysiadu a'u gweithredu fod yn destun ymarfer caffael cystadleuol ar wahân. Fel arall, bydd modd i'r Cleient ystyried dyfarniad uniongyrchol gan nodi y bydd angen cydymffurfio â'r rheoliadau caffael.
Nod y Cynllun
Ein nod yn y pen draw o hyd yw datblygu’r economi gylchol a chyflawni cymdeithas ddiwastraff erbyn 2050. Nod y Prosiect yw ceisio datrysiad ar gyfer Awdurdodau Lleol Cymru a Dŵr Cymru sy’n:
- Lleihau gwastraff gweddilliol ac yn ailgylchu gwastraff AHP i greu cynnyrch terfynol
- Cyflawni cyfradd ailgylchu mae modd ei mesur sy mor isel â phosibl
- Lleihau effaith carbon ar Gymru
- Cefnogi'r economi werdd, gan greu buddion cymunedol a chreu cyflogaeth yng Nghymru
- Fforddiadwy i gynifer o Awdurdodau Lleol (ALl) sy'n cymryd rhan ag sy'n bosibl.
NODYN: Mae’r awdurdod yn defnyddio eDendro Cymru i gynnal y broses gaffael hon. I gael rhagor o wybodaeth mynegwch eich diddordeb ar GwerthwchiGymru ar https://www.sell2wales.gov.wales/search/search_switch.aspx?ID=117639
|