Skip to main content

Rydym wedi cadw rhai ffeiliau o'r enw cwcis ar eich dyfais. Y cwcis hyn yw:

  • Hanfodol ar gyfer y safle i weithio
  • Helpu i wella ein gwefan drwy gasglu ac adrodd gwybodaeth am sut rydych chi'n ei defnyddio

Hoffem hefyd arbed rhai cwcis i helpu i deilwra cyfathrebu.

BETA
Rydych yn edrych ar fersiwn wedi'i ddiweddaru o'r gwasanaeth hwn - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hysbysiad o Gontract

Gwerthuso'r Cwtsh Creadigol

  • Cyhoeddwyd gyntaf: 27 Ionawr 2023
  • Wedi'i addasu ddiwethaf: 27 Ionawr 2023

Cynnwys

Crynodeb

OCID:
ocds-kuma6s-128483
Cyhoeddwyd gan:
Arts Council Of Wales
ID Awudurdod:
AA0543
Dyddiad cyhoeddi:
27 Ionawr 2023
Dyddiad Cau:
15 Chwefror 2023
Math o hysbysiad:
Hysbysiad o Gontract
Mae ganddo ddogfennau:
Yndi
Wedi SPD:
Nac Ydi
Mae ganddo gynllun lleihau carbon:
Nac Ydi

Crynodeb

Cafodd y Cwtsh Creadigol ei greu fel ymateb uniongyrchol i'r pandemig a'r effaith yr oedd yn ei chael ar staff gofal iechyd a oedd yn delio â phwysau gwaith wrth y talcen caled a oedd yn arwain at flinder, colli’r awydd i gario ymlaen a straen difrifol. Mewn ymgynghoriad â'n partneriaid o fewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a chan weithio gydag amrywiaeth eang o artistiaid ar draws Cymru, datblygodd Cyngor y Celfyddydau adnoddau llesiant creadigol pwrpasol ac ar-lein ar gyfer y gweithlu Gofal Iechyd yng Nghymru.  Adnoddau dwyieithog ar-lein yw’r Cwtsh Creadigol sydd wedi'i gymeradwyo gan Wella Addysg Iechyd Cymru.  Mae wedi'i ysbrydoli gan gorff cynyddol o dystiolaeth sy'n dangos yr effaith gadarnhaol y gall y celfyddydau ei chael ar ein hiechyd meddwl a'n lles.  Mae'r Cwtsh Creadigol yn llawn gweithgareddau hwyliog ac yn gwahodd cydweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol i droi cefn am eiliad ar eu gwaith, darganfod eu creadigrwydd a manteision lles. Mae'r adnoddau unigryw a gafodd eu creu, mewn ymgynghoriad â Gwella Addysg Iechyd Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru, yn cynnwys gweithgareddau byrion gan rai o artistiaid blaenllaw Cymru. Ei nod yw rhoi hwb i iechyd a lles drwy'r celfyddydau gan gynnig ychydig o ysbrydoliaeth a hwyl, cysur, cyfle i ymlacio a dod at eich coed eto. Mae gweithgareddau yn amrywio o beintio portreadau ac ysgrifennu creadigol i archwilio natur, dawnsio Bollywood, canu, tynnu ffotos, jyglo ac animeiddio. Mae'r holl gynnwys ar fideo ac mae mynediad ato’n rhad ac am ddim. I gael gwybod rhagor, ewch i cwtshcreadigol.cymru 4. Yr esboniad Rydym yn bwriadu comisiynu gwerthusiad o'r Cwtsh Creadigol. Ddwy flynedd ers ei datblygu’n gyntaf, rydym am asesu i ba raddau y mae'n cyflawni ei nod o gefnogi lles gweithlu gofal iechyd Cymru. Yn benodol, rydym am ddarganfod: - sut mae'r adnoddau ar-lein hyn yn cael eu defnyddio gan staff sy'n gweithio yn y GIG a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru a'r manteision a'r effaith y mae'n eu cael ar eu lles - ble a sut mae'r gynulleidfa'n defnyddio'r wefan - proffil demograffig y defnyddwyr - pa mor gyfarwydd yw’r gweithlu ag ef ac i ba raddau mae’n hysbys yn eu plith - ffactorau sy'n atal staff rhag defnyddio'r Cwtsh Creadigol - profiad y defnyddwyr a sut y gellid ei wella - gwerth y cynnwys a gomisiynwyd gan y prosiect i staff gofal iechyd a pha gynnwys sy'n apelio fwyaf at y defnyddwyr a beth sy'n llai llwyddiannus a llai defnyddiol - syniadau ar gyfer datblygu cynnwys yn y dyfodol yn seiliedig ar adborth, anghenion a gofynion y defnyddwyr - beth mae’r defnyddwyr yn ei feddwl am frand a hunaniaeth y Cwtsh Creadigol Rydym yn disgwyl i'r gwerthusiad roi data meintiol ac ansoddol i gefnogi ei ganfyddiadau. Rydym yn rhagweld y bydd grwpiau ffocws o ddefnyddwyr yn elfen bwysig o'r gwaith. Dylai'r gwerthusiad hefyd archwilio a oes galw ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol am gynnal yr adnoddau i gefnogi lles staff yn y tymor hwy a sut olwg y gallai fod ar fodel ariannol cynaliadwy yn y dyfodol. Byddwn yn defnyddio canfyddiadau ac argymhellion y gwerthusiad i lywio ein strategaeth yn y dyfodol mewn perthynas â'r Cwtsh Creadigol. Byddwn hefyd yn ei ddefnyddio i lywio ein proses o gomisiynu cynnwys a dylunio a datblygu gwefannau yn y dyfodol.

Testun llawn y rhybydd

HYSBYSIAD O GONTRACT - CENEDLAETHOL

SERVICES

1 Manylion yr Awdurdod

1.1

Enw a Chyfeiriad yr Awdurdod


Arts Council Of Wales

Bute Place,

Cardiff

CF10 5AL

UK

Sally Lewis

+44 2920441326

culturalcwtsh@arts.wales

+44 2920441400
http://www.artswales.org.uk
www.sell2wales.gov.wales
www.sell2wales.gov.wales

1.2

Cyfeiriad ar gyfer cael dogfennaeth


Arts Council Of Wales

Bute Place,

Cardiff

CF10 5AL

UK

Sally Lewis

+44 2920441326

culturalcwtsh@arts.wales

+44 2920441400
http://www.artswales.org.uk

1.3

Mae'n rhaid dychwelyd dogfennau wedi'u cwblhau at:


Arts Council Of Wales

Bute Place,

Cardiff

CF10 5AL

UK

Sally Lewis

+44 2920441326

culturalcwtsh@arts.wales

+44 2920441400
http://www.artswales.org.uk

2 Manylion y Contract

2.1

Teitl

Gwerthuso'r Cwtsh Creadigol

2.2

Disgrifiad o'r nwyddau neu'r gwasanaethau sydd eu hangen

Cafodd y Cwtsh Creadigol ei greu fel ymateb uniongyrchol i'r pandemig a'r effaith yr oedd yn ei chael ar staff gofal iechyd a oedd yn delio â phwysau gwaith wrth y talcen caled a oedd yn arwain at flinder, colli’r awydd i gario ymlaen a straen difrifol. Mewn ymgynghoriad â'n partneriaid o fewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a chan weithio gydag amrywiaeth eang o artistiaid ar draws Cymru, datblygodd Cyngor y Celfyddydau adnoddau llesiant creadigol pwrpasol ac ar-lein ar gyfer y gweithlu Gofal Iechyd yng Nghymru.

 Adnoddau dwyieithog ar-lein yw’r Cwtsh Creadigol sydd wedi'i gymeradwyo gan Wella Addysg Iechyd Cymru.

 Mae wedi'i ysbrydoli gan gorff cynyddol o dystiolaeth sy'n dangos yr effaith gadarnhaol y gall y celfyddydau ei chael ar ein hiechyd meddwl a'n lles.

 Mae'r Cwtsh Creadigol yn llawn gweithgareddau hwyliog ac yn gwahodd cydweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol i droi cefn am eiliad ar eu gwaith, darganfod eu creadigrwydd a manteision lles.

Mae'r adnoddau unigryw a gafodd eu creu, mewn ymgynghoriad â Gwella Addysg Iechyd Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru, yn cynnwys gweithgareddau byrion gan rai o artistiaid blaenllaw Cymru. Ei nod yw rhoi hwb i iechyd a lles drwy'r celfyddydau gan gynnig ychydig o ysbrydoliaeth a hwyl, cysur, cyfle i ymlacio a dod at eich coed eto. Mae gweithgareddau yn amrywio o beintio portreadau ac ysgrifennu creadigol i archwilio natur, dawnsio Bollywood, canu, tynnu ffotos, jyglo ac animeiddio. Mae'r holl gynnwys ar fideo ac mae mynediad ato’n rhad ac am ddim.

I gael gwybod rhagor, ewch i cwtshcreadigol.cymru

4. Yr esboniad

Rydym yn bwriadu comisiynu gwerthusiad o'r Cwtsh Creadigol. Ddwy flynedd ers ei datblygu’n gyntaf, rydym am asesu i ba raddau y mae'n cyflawni ei nod o gefnogi lles gweithlu gofal iechyd Cymru. Yn benodol, rydym am ddarganfod:

- sut mae'r adnoddau ar-lein hyn yn cael eu defnyddio gan staff sy'n gweithio yn y GIG a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru a'r manteision a'r effaith y mae'n eu cael ar eu lles

- ble a sut mae'r gynulleidfa'n defnyddio'r wefan

- proffil demograffig y defnyddwyr

- pa mor gyfarwydd yw’r gweithlu ag ef ac i ba raddau mae’n hysbys yn eu plith

- ffactorau sy'n atal staff rhag defnyddio'r Cwtsh Creadigol

- profiad y defnyddwyr a sut y gellid ei wella

- gwerth y cynnwys a gomisiynwyd gan y prosiect i staff gofal iechyd a pha gynnwys sy'n apelio fwyaf at y defnyddwyr a beth sy'n llai llwyddiannus a llai defnyddiol

- syniadau ar gyfer datblygu cynnwys yn y dyfodol yn seiliedig ar adborth, anghenion a gofynion y defnyddwyr

- beth mae’r defnyddwyr yn ei feddwl am frand a hunaniaeth y Cwtsh Creadigol

Rydym yn disgwyl i'r gwerthusiad roi data meintiol ac ansoddol i gefnogi ei ganfyddiadau. Rydym yn rhagweld y bydd grwpiau ffocws o ddefnyddwyr yn elfen bwysig o'r gwaith.

Dylai'r gwerthusiad hefyd archwilio a oes galw ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol am gynnal yr adnoddau i gefnogi lles staff yn y tymor hwy a sut olwg y gallai fod ar fodel ariannol cynaliadwy yn y dyfodol.

Byddwn yn defnyddio canfyddiadau ac argymhellion y gwerthusiad i lywio ein strategaeth yn y dyfodol mewn perthynas â'r Cwtsh Creadigol. Byddwn hefyd yn ei ddefnyddio i lywio ein proses o gomisiynu cynnwys a dylunio a datblygu gwefannau yn y dyfodol.

NODER: Ewch i'r Wefan yn https://www.sell2wales.gov.wales/Search/Search_Switch.aspx?ID=128484 i gofrestru eich diddordeb yn yr hysbysiad hwn a chael unrhyw wybodaeth ychwanegol.

Mae'r awdurdod dyfarnu wedi nodi y bydd yn derbyn ymatebion electronig i'r hysbysiad hwn drwy'r cyfleuster 'Blwch Postio Cyflwyno Tendrau'. Mae rhagor o fanylion am y cyfleuster hwn ar gael yn https://www.sell2wales.gov.wales/sitehelp/help_guides.aspx.

Cynghorir cyflenwyr i ganiatáu digon o amser i lanlwytho dogfennau ac anfon yr ymateb electronig ymhell cyn yr amser cau er mwyn osgoi unrhyw broblemau munud olaf.

2.3

Cod a Dosbarthiad yr Hysbysiad

79419000 Evaluation consultancy services
85140000 Miscellaneous health services
100 DU - Holl
1000 CYMRU
1010 Gorllewin Cymru a'r Cymoedd
1011 Ynys Môn
1012 Gwynedd
1013 Conwy a Sir Ddinbych
1014 De-orllewin Cymru (Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro, Ceredigion)
1015 Cymoedd Canalog (Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf)
1016 Cymoedd Gwent (Torfaen, Blaenau Gwent, Caerffili)
1017 Pen-y-bont ar Ogwr a Castell-Nedd Port Talbot
1018 Abertawe
1020 Dwyrain Cymru
1021 Sir Fynwy a Chasnewydd
1022 Caerdydd a Bro Morgannwg
1023 Sir y Fflint a Wrecsam
1024 Powys

2.4

Cyfanswm maint neu gwmpas y tendr

hyd £20,000 (eithrio TAW) cytundeb 6 mis

3 Amodau ar gyfer Cymryd Rhan

3.1

Safonau gofynnol a'r cymhwyster sydd ei angen

Bydd ceisiadau llwyddiannus yn rhoi tystiolaeth argyhoeddiadol o'r canlynol:

• Hanes cryf o werthuso prosiectau ar raddfa debyg o fewn lleoliadau'r GIG a Gofal Cymdeithasol.

• Sgiliau rheoli prosiectau cryf a hanes o gynnal prosiectau tebyg yn ôl amserlen a chan gadw at y gyllideb.

• Gwybodaeth a phrofiad o ddefnyddio amrywiaeth o fethodolegau ymchwil.

• Sgiliau rhwydweithio a chyfathrebu llafar hynod ddatblygedig a'r gallu i berswadio staff prysur i gynnig adborth

• Dull dychmygus o gynnal gwerthusiad ac ymchwil o fewn systemau GIG a gofal cymdeithasol sy'n dangos ymwybyddiaeth o'r problemau o’i wneud ymhlith defnyddwyr mewn amgylcheddau mor gymhleth a phrysur ac sy'n cynnig atebion i’r anawsterau.

• Y gallu i ddechrau'r gwaith yn gyflym ac i weithio'n ddwys i gyflawni’r gwaith cyn y dyddiad cau.

• Cynnig sy'n cynrychioli gwerth da am arian.

• Y sgiliau yn eich tîm i allu gwerthuso adnoddau dwyieithog ac ymgysylltu â grwpiau o ddefnyddwyr Cymraeg

4 Gwybodaeth Weinyddol

4.1

Math o Weithdrefn

Un cam

4.2

Rhif cyfeirnod a roddwyd i'r hysbysiad gan yr awdurdod contractio

N/a

4.3

Terfynau Amser



Terfyn amser ar gyfer derbyn tendrau wedi'u cwblhau
     15 - 02 - 2023  Amser   12:00

Dyddiad dyfarnu amcangyfrifedig   15 - 03 - 2023

4.5

Yr iaith neu'r ieithoedd y gellir ei/eu defnyddio i lunio tendrau neu geisiadau i gymryd rhan

EN   CY  

4.6

Blwch Postio Cyflwyno Tendrau

Mae'r awdurdod dyfarnu wedi nodi y bydd yn derbyn ymatebion electronig i'r hysbysiad hwn drwy'r Blwch Postio Cyflwyno Tendrau. Mae rhagor o fanylion ar gael yn https://www.sell2wales.gov.wales/sitehelp/help_guides.aspx

5 Gwybodaeth Arall

5.1

Gwybodaeth Ychwanegol

(WA Ref:128484)

5.2

Dogfennaeth Ychwanegol

5.3

Dyddiad cyhoeddi'r hysbysiad hwn

  27 - 01 - 2023

Codio

Categorïau nwyddau

ID Teitl Prif gategori
79419000 Gwasanaethau ymgynghori ar brisio Gwasanaethau ymgynghori ar fusnes a rheoli

Lleoliadau Dosbarthu

ID Disgrifiad
1018 Abertawe
1022 Caerdydd a Bro Morgannwg
1013 Conwy a Sir Ddinbych
1015 Cymoedd Canalog (Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf)
1016 Cymoedd Gwent (Torfaen, Blaenau Gwent, Caerffili)
1000 CYMRU
1014 De-orllewin Cymru (Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro, Ceredigion)
100 DU - I gyd
1020 Dwyrain Cymru
1010 Gorllewin Cymru a'r Cymoedd
1012 Gwynedd
1017 Pen-y-bont ar Ogwr a Castell-Nedd Port Talbot
1024 Powys
1021 Sir Fynwy a Chasnewydd
1023 Sir y Fflint a Wrecsam
1011 Ynys Môn

Cyfyngiadau Rhanbarthol ar y Rhybuddion

Mae’r prynwr wedi cyfyngu’r rhybuddion ar gyfer yr hysbysiad hwn i gyflenwyr yn y rhanbarthau canlynol.

ID Disgrifiad
Nid oes cyfyngiadau ar y rhybuddion ar gyfer yr hysbysiad hwn.

Ynglŷn â'r prynwr

Prif gyswllt:
culturalcwtsh@arts.wales
Cyswllt gweinyddol:
N/a
Cyswllt technegol:
N/a
Cyswllt arall:
N/a

Gwybodaeth bellach

Dyddiad Manylion
Nid oes unrhyw wybodaeth bellach wedi'i lanlwytho.

Blwch Post

Mae'r awdurdod dyfarnu wedi nodi y bydd yn derbyn ymatebion electronig i'r hysbysiad hwn drwy'r Blwch Postio Cyflwyno Tendrau.

Cyflwyno eich ymateb i'r tendr yn electronig mewn amgylchedd diogel.

Er mwyn creu ymateb electronig, cliciwch ar y botwm "Ychwanegu at fy rhestr Diddordeb" ar frig y dudalen.

Am ragor o wybodaeth am y Blwch Postio, darllenwch y canllaw i ddefnyddwyr:

Cwestiynau ac Atebion

Gofyn unrhyw gwestiynau y gall fod gennych ynghylch yr hysbysiad hwn i'r prynwr. Er mwyn gofyn cwestiwn neu gwestiynau i'r prynwr cliciwch ar y botwm "Gweld Cwestiynau ac Atebion".

Dogfennau Ychwanegol

Mae'r dogfennau ychwanegol canlynol wedi'u hatodi i'r hysbysiad hwn. I gael y dogfennau hyn, dewiswch enwau'r ffeiliau unigol isod.

Dogfennau cyfredol

pdf
pdf245.39 KB
Gofyn am fformat gwahanol.
pdf
pdf230.08 KB
Gofyn am fformat gwahanol.

Dogfennau wedi'u disodli

Nid oes unrhyw fersiynau blaenorol o'r dogfennau hyn


0800 222 9004

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.

We welcome calls in Welsh.