Disgrifiad o'r nwyddau neu'r gwasanaethau sydd eu hangen
Rydym angen i’r contractwr buddugol wneud gwaith ymchwil ar adnodd ‘pecyn cymorth’ a chynhyrchu un dwyieithog. Bydd hwn yn adnodd hirdymor a fydd yn etifeddiaeth o brosiect Catalydd Cymru: Ehangu Gorwelion, ac yn helpu mudiadau treftadaeth na wnaeth gymryd rhan yn y prosiect i hefyd ‘ehangu eu gorwelion’. Trwy’r pecyn cymorth hwn, rydym yn gobeithio y bydd effaith y prosiect hwn, a’r hyn a ddysgwyd ohono, yn parhau y tu hwnt i’w oes.
Dylai’r pecyn cymorth terfynol fod yn adnodd digidol html; unwaith y bydd wedi’i gwblhau, bydd ar gael drwy Hwb Gwybodaeth Cefnogi Trydydd Sector Cymru (TSSW) (https://thirdsectorsupport.wales/cy/). Dylai gynnwys astudiaethau achos sy’n dangos profiadau’r mudiadau a gymerodd ran yn y gweithgareddau a’r hyn y gwnaethant eu dysgu o’r gweithgareddau hyn, wrth iddynt geisio gwneud eu mudiadau a/neu eu safleoedd treftadaeth yn fwy hygyrch i gymunedau amrywiol. Gellir hefyd cynnwys cyngor ac arweiniad arall sy’n seiliedig ar dystiolaeth er mwyn gwneud y pecyn cymorth yn adnodd defnyddiol.
Bydd tîm Catalydd Cymru yn darparu cefndir a gwybodaeth werthuso am y gweithgareddau sydd wedi’u cynnal. Byddwn hefyd yn cynorthwyo’r contractwr i gysylltu â chyfranogwyr Ehangu Rhwydweithiau i gael mewnwelediadau i’r hyn y maen nhw wedi’u dysgu o’u profiadau, ac i glywed yr argymhellion y byddent yn eu gwneud i fudiadau treftadaeth eraill i ddod yn fwy hygyrch.
Gofynion
Ymchwilio i becynnau cymorth a datblygu, dylunio a chyflwyno pecyn cymorth digidol dwyieithog ar ffurf html:
• Bydd y pecyn cymorth yn darparu cyngor ac arweiniad, yn cyfeirio at adnoddau (fel y bo’n berthnasol) ac yn cyflwyno astudiaethau achos ar sut y gall mudiadau treftadaeth wneud eu mudiadau/safleoedd treftadaeth yn fwy hygyrch i gymunedau amrywiol
• Byddwch yn gwneud argymhellion i dîm Catalydd Cymru ac yna’n cytuno ar fformat ac ymddangosiad y pecyn cymorth, gan sicrhau bod y pecyn cymorth ei hun yn hygyrch ac yn glynu at frand Catalydd Cymru a Safonau Cymraeg CGGC
• Byddwch yn sicrhau bod yr holl weithgareddau a wneir i ddatblygu’r pecyn cymorth, a’r pecyn cymorth ei hun, yn cydymffurfio â’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) a’r ddeddfwriaeth ar ddiogelu data, ac yn cyfeirio at sut y bydd manylion cyfranogwyr yn cael eu defnyddio a’u storio
• Byddwch yn dod i gyfarfod dechrau prosiect ac yn cyfathrebu’n rheolaidd yn ystod cyfnod y prosiect (i’w gadarnhau yn y cyfarfod dechrau prosiect)
NODER: Ewch i'r Wefan yn https://www.sell2wales.gov.wales/Search/Search_Switch.aspx?ID=138012 i gofrestru eich diddordeb yn yr hysbysiad hwn a chael unrhyw wybodaeth ychwanegol.
Mae'r awdurdod dyfarnu wedi nodi y bydd yn derbyn ymatebion electronig i'r hysbysiad hwn drwy'r cyfleuster 'Blwch Postio Cyflwyno Tendrau'. Mae rhagor o fanylion am y cyfleuster hwn ar gael yn https://www.sell2wales.gov.wales/sitehelp/help_guides.aspx.
Cynghorir cyflenwyr i ganiatáu digon o amser i lanlwytho dogfennau ac anfon yr ymateb electronig ymhell cyn yr amser cau er mwyn osgoi unrhyw broblemau munud olaf.
|