| 
					Disgrifiad o'r nwyddau neu'r gwasanaethau sydd eu hangen
				Rydym eisiau penodi contractwr i ddarparu gwasanaethau monitro a gwerthuso parhaus mewn perthynas â'r Gronfa Ddatgarboneiddio ac Adfer Covid. Mae hwn yn gynllun arloesol a ariennir gan Is-adran Bwyd Llywodraeth Cymru ac a ddarperir gan Menter a Busnes. Nod y gronfa yw ariannu prosiectau cydweithredol a all ddarparu atebion arloesol mewn perthynas â'r agenda datgarboneiddio, gan helpu i adfer sector bwyd a diod Cymru sydd wedi cael ei effeithio’n andwyol gan y pandemig. Bydd y prosiect hwn yn cael ei arwain gan yr amcanion strategol a thematig canlynol a bydd angen iddo gyfrannu at y rhain: ●	Helpu i wireddu gweledigaeth Bwyd a Diod Cymru, sef - ‘Creu sector bwyd a diod cryf a bywiog yng Nghymru gydag enw da yn fyd-eang am ragoriaeth, gydag un o’r cadwyni cyflenwi mwyaf cyfrifol yn amgylcheddol ac yn gymdeithasol yn y byd’. ●	Mae bwyd a diod o Gymru yn sector â blaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Llwyddodd ein cynllun gweithredu blaenorol 'Tuag at Dwf Cynaliadwy' i gyflawni ei brif amcan allweddol, sef cynyddu gwerth y diwydiant bwyd i dros £7bn erbyn y flwyddyn 2020. ●	Mae'r pandemig presennol wedi effeithio ar fywydau llawer o'n pobl ac mae'n bygwth dyfodol llawer o'n busnesau sy'n brwydro i oroesi. Mae Llywodraeth Cymru, dan arweiniad Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru a rhanddeiliaid allweddol, wedi cymryd camau i gefnogi pob busnes y mae'r pandemig wedi effeithio arno’n uniongyrchol. Rydym wedi cyhoeddi amcanion clir o ran sut rydym yn anelu at gymryd y camau cyntaf tuag at adferiad o fewn Cynllun Adfer Covid-19:  https://bit.ly/3htznTk Sefydlwyd y gronfa her fel ymateb uniongyrchol i fapiau llwybrau strategol ar gyfer pontio’r UE ac adfer wedi Covid, i arwain twf pellach yn y DU a marchnadoedd allforio allweddol. Mae’n rhaid i bob cynnig prosiect ar gyfer y Gronfa Ddatgarboneiddio a Her Covid ddangos arloesedd mewn un neu fwy o’r meysydd canlynol: ●	Atebion Ynni ●	Dal a Storio Carbon ●	Carbon Net ●	Datgarboneiddio Logisteg ●	Twf Gwyrdd drwy egwyddorion BCORP ●	Datblygu Brand Masnach y DU ac Allforio ●	Deallusrwydd Artiffisial (neu AI) mewn cynaliadwyedd i'r gadwyn Cyflenwi Bwyd. Yn ogystal, mae’n rhaid i ymgeiswyr hefyd ddangos sut y bydd eu prosiect yn: ●	Hyrwyddo a datblygu sector bwyd a diod bywiog yng Nghymru; ●	Datblygu arloesedd mewn rhwydwaith cydweithredol; ●	Ymrwymo i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Bydd yn ofynnol i'r contractwr ddarparu tri phecyn gwaith penodol fel yr amlinellir isod. Rhagwelir y bydd angen lefelau uchel o fewnbwn rhwng Medi - Rhagfyr 2021 wrth i'r prosiect fynd yn ei flaen ac wrth i systemau gael eu datblygu: Sefydlu Gwaelodlin a Gweithgareddau Monitro: Datblygu ein systemau monitro ac adrodd Gwerthusiad Canol Tymor: cyflawniadau yn erbyn amcanion ac allbynnau Gwerthusiad Terfynol: Os oes tystiolaeth o angen sut y dylid datblygu a chynnal Cronfeydd Her y dyfodol NODER: Ewch i'r Wefan yn https://www.sell2wales.gov.wales/Search/Search_Switch.aspx?ID=112594 i gofrestru eich diddordeb yn yr hysbysiad hwn a chael unrhyw wybodaeth ychwanegol. Mae'r awdurdod dyfarnu wedi nodi y bydd yn derbyn ymatebion electronig i'r hysbysiad hwn drwy'r cyfleuster 'Blwch Postio Cyflwyno Tendrau'. Mae rhagor o fanylion am y cyfleuster hwn ar gael yn https://www.sell2wales.gov.wales/sitehelp/help_guides.aspx. Cynghorir cyflenwyr i ganiatáu digon o amser i lanlwytho dogfennau ac anfon yr ymateb electronig ymhell cyn yr amser cau er mwyn osgoi unrhyw broblemau munud olaf. |