Skip to main content

Rydym wedi cadw rhai ffeiliau o'r enw cwcis ar eich dyfais. Y cwcis hyn yw:

  • Hanfodol ar gyfer y safle i weithio
  • Helpu i wella ein gwefan drwy gasglu ac adrodd gwybodaeth am sut rydych chi'n ei defnyddio

Hoffem hefyd arbed rhai cwcis i helpu i deilwra cyfathrebu.

BETA
Rydych yn edrych ar fersiwn wedi'i ddiweddaru o'r gwasanaeth hwn - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hysbysiad o Gontract

BRIFF TENDR ARCHWILWYR ANTUR WAUNFAWR

  • Cyhoeddwyd gyntaf: 17 Gorffennaf 2026
  • Wedi'i addasu ddiwethaf: 17 Gorffennaf 2026
  • Fersiwn: N/A
  • Cofnodi Diddordeb

     

  • Efallai na fydd y ffeil hon yn gwbl hygyrch.

  •  

Eicon Gwybodaeth

Mae dogfennau ar gyfer yr hysbysiad hwn ar gael i gyflenwyr sydd wedi nodi diddordeb yn unig.

I gael mynediad at y dogfennau, cliciwch y botwm "Nodi Diddordeb" uchod i ychwanegu'r hysbysiad hwn at eich Hysbysiadau Cyfredol.

Cynnwys

Crynodeb

OCID:
ocds-kuma6s-167605
Cyhoeddwyd gan:
Antur Waunfawr
ID Awudurdod:
AA73535
Dyddiad cyhoeddi:
17 Gorffennaf 2026
Dyddiad Cau:
31 Gorffennaf 2026
Math o hysbysiad:
Hysbysiad o Gontract
Mae ganddo ddogfennau:
Yndi
Wedi SPD:
Nac Ydi
Mae ganddo gynllun lleihau carbon:
Nac Ydi

Crynodeb

Mae Antur Waunfawr yn fenter gymunedol sydd yn darparu cyfleoedd iechyd a lles, gwaith a chefnogaeth o fewn y gymuned i unigolion ag anableddau dysgu. Rydym yn gwahodd cwmnïau i dendro am ddarparu gwasanaeth ddigidol ar gyfer ein holl safleoedd. Mae Antur Waunfawr yn gwahodd ymgymerwyr i dendro ar gyfer darparu gwasanaeth archwilio datganiadau ariannol Antur Waunfawr a chynghori ar holl faterion perthnasol yr adran Gyllid. NODER Mae’r briff hwn ar gyfer darparu gwasanaeth archwilio datganiadau ariannol Antur Waunfawr Y GWASANAETH Bydd angen darparu’r gwasanaethau isod: Bydd yn hanfodol bod y Cwmni llwyddiannus yn meddu yn y Gymraeg ac yn gallu darparu adroddiadau yn y Gymraeg. Bydd gofyn i’r gwasanaeth a roddir ymateb i holl anghenion yr adran Gyllid, yn cynnwys gwirio a chynorthwyo hefo dychweliadau TAW chwarterol, yn ogystal â chreu cyfrifon Blynyddol, a chadw rhestr asedau a dibrisiant ar gyfer cyllidebau blynyddol Bydd yn ofynnol i’r Cwmni llwyddiannus baratoi adroddiad i gynnwys y datganiad o weithredoedd ariannol, y fantolen, y datganiad ynghylch llif arian a’r nodiadau i’r datganiadau ariannol, a chrynodeb o’r polisïau cyfrifo sylweddol. Bydd yr adroddiad yn rhoi golwg wir a theg ar gyflwr materion y cwmni elusennol ac am yr adnoddau cyllid a’r adnoddau a ddefnyddiwyd yn cynnwys yr incwm a’r gwariant, am y flwyddyn Rhagweithiol i’n harwain a chynghori ar anghenion cyllidebol y Cwmni megis materion TAW Cymhleth Sicrhau trefnu cyfarfod gyda’r swyddogion perthnasol mewn amserlen ddigonol ymlaen llaw, mewnbynnu cyfrifon blynyddol ar wefan y Comisiwn Elusennau a ffeilio ar wefan Tŷ’r Cwmnïau Rhoi arweiniad ac archwilio rheolau a holl drefniadau ariannol y Cwmni ac adrodd ar y canlyniadau, gan amlinellu argymhellion Sicrhau cydymffurfio â’r holl Ddeddfau a’r rheoliadau perthnasol, gan gynnwys polisïau perthnasol Antur Waunfawr, seilwaith cydymffurfiad ariannol a safonau proffesiynol eraill perthnasol Meithrin perthynas waith a dealltwriaeth dda gyda'r Rheolwr Cyllid a swyddogion eraill yr Antur i sicrhau gwasanaeth effeithiol a phartneriaeth waith ragorol Bod ar gael i arwain a rhoi cyngor ar unrhyw fater sy’n codi o dan y Polisïau wyneb yn wyneb, dros y ffon neu dros e-bost a sicrhau bod gennych aelod dynodedig ar gyfer rhoi arweiniad a chyngor Yn ddibynnol ar gyfnod prawf, bydd y Tendr hwn yn rhedeg am gyfnod o 3 mlynedd gyda phosibilrwydd am estyniad pellach yn flynyddol

Testun llawn y rhybydd

HYSBYSIAD O GONTRACT - CENEDLAETHOL

SERVICES

1 Manylion yr Awdurdod

1.1

Enw a Chyfeiriad yr Awdurdod


Antur Waunfawr

Gweinyddol, Bryn Pistyll, Waunfawr,

Caernarfon, Gwynedd

LL55 4BJ

UK

Eleri Jones

+44 1286650721

eleri.jones@anturwaunfawr.cymru

http://www.anturwaunfawr.com
https://www.gwerthwchigymru.llyw.cymru
https://www.gwerthwchigymru.llyw.cymru

1.2

Cyfeiriad ar gyfer cael dogfennaeth

Fel yn I.1

1.3

Mae'n rhaid dychwelyd dogfennau wedi'u cwblhau at:

Fel yn I.1

2 Manylion y Contract

2.1

Teitl

BRIFF TENDR ARCHWILWYR ANTUR WAUNFAWR

2.2

Disgrifiad o'r nwyddau neu'r gwasanaethau sydd eu hangen

Mae Antur Waunfawr yn fenter gymunedol sydd yn darparu cyfleoedd iechyd a lles, gwaith a chefnogaeth o fewn y gymuned i unigolion ag anableddau dysgu. Rydym yn gwahodd cwmnïau i dendro am ddarparu gwasanaeth ddigidol ar gyfer ein holl safleoedd.

Mae Antur Waunfawr yn gwahodd ymgymerwyr i dendro ar gyfer darparu gwasanaeth archwilio datganiadau ariannol Antur Waunfawr a chynghori ar holl faterion perthnasol yr adran Gyllid.

NODER

Mae’r briff hwn ar gyfer darparu gwasanaeth archwilio datganiadau ariannol Antur Waunfawr

Y GWASANAETH

Bydd angen darparu’r gwasanaethau isod:

Bydd yn hanfodol bod y Cwmni llwyddiannus yn meddu yn y Gymraeg ac yn gallu darparu adroddiadau yn y Gymraeg.

Bydd gofyn i’r gwasanaeth a roddir ymateb i holl anghenion yr adran Gyllid, yn cynnwys gwirio a chynorthwyo hefo dychweliadau TAW chwarterol, yn ogystal â chreu cyfrifon Blynyddol, a chadw rhestr asedau a dibrisiant ar gyfer cyllidebau blynyddol

Bydd yn ofynnol i’r Cwmni llwyddiannus baratoi adroddiad i gynnwys y datganiad o weithredoedd ariannol, y fantolen, y datganiad ynghylch llif arian a’r nodiadau i’r datganiadau ariannol, a chrynodeb o’r polisïau cyfrifo sylweddol. Bydd yr adroddiad yn rhoi golwg wir a theg ar gyflwr materion y cwmni elusennol ac am yr adnoddau cyllid a’r adnoddau a ddefnyddiwyd yn cynnwys yr incwm a’r gwariant, am y flwyddyn

Rhagweithiol i’n harwain a chynghori ar anghenion cyllidebol y Cwmni megis materion TAW Cymhleth

Sicrhau trefnu cyfarfod gyda’r swyddogion perthnasol mewn amserlen ddigonol ymlaen llaw, mewnbynnu cyfrifon blynyddol ar wefan y Comisiwn Elusennau a ffeilio ar wefan Tŷ’r Cwmnïau

Rhoi arweiniad ac archwilio rheolau a holl drefniadau ariannol y Cwmni ac adrodd ar y canlyniadau, gan amlinellu argymhellion

Sicrhau cydymffurfio â’r holl Ddeddfau a’r rheoliadau perthnasol, gan gynnwys polisïau perthnasol Antur Waunfawr, seilwaith cydymffurfiad ariannol a safonau proffesiynol eraill perthnasol

Meithrin perthynas waith a dealltwriaeth dda gyda'r Rheolwr Cyllid a swyddogion eraill yr Antur i sicrhau gwasanaeth effeithiol a phartneriaeth waith ragorol

Bod ar gael i arwain a rhoi cyngor ar unrhyw fater sy’n codi o dan y Polisïau wyneb yn wyneb, dros y ffon neu dros e-bost a sicrhau bod gennych aelod dynodedig ar gyfer rhoi arweiniad a chyngor

Yn ddibynnol ar gyfnod prawf, bydd y Tendr hwn yn rhedeg am gyfnod o 3 mlynedd gyda phosibilrwydd am estyniad pellach yn flynyddol

NODER: Ewch i'r Wefan yn https://www.sell2wales.gov.wales/Search/Search_Switch.aspx?ID=167605 i gofrestru eich diddordeb yn yr hysbysiad hwn a chael unrhyw wybodaeth ychwanegol.

2.3

Cod a Dosbarthiad yr Hysbysiad

66000000 Gwasanaethau ariannol ac yswiriant
1012 Gwynedd

2.4

Cyfanswm maint neu gwmpas y tendr

CYFEIRIADAU SWYDDFEYDD

Ty Capel Bethel,

Bryn Pistyll,

Waunfawr,

Caernarfon,

Gwynedd

LL55 4BJ

Prif Swyddfa gwasanaeth Antur Waunfawr sydd yn gyfuniad o hen dŷ capel ac adeilad y capel wedi ei adnewyddu a’i drosi’n swyddfeydd.

Prif ffynhonnell incwm y cwmni yw Incwm Cytundebol o’r Awdurdodau Lleol trwy’r Adrannau Gwasanaethau Cymdeithasol. Yn ogystal mae’r Cwmni yn rhan o bartneriaeth ailgylchu ac ailddefnyddio gyda Chyngor Gwynedd a chytundebir gyda’r Cyngor am y gwaith hwn. Mae incwm masnachol o werthu gwasanaeth a chynnyrch Antur Waunfawr, yn dod ag incwm hollbwysig i sicrhau cynaliadwyedd ariannol yr Antur mewn cyfnod heriol yn economaidd.

Beics Antur,

Porth yr Aur,

Caernarfon,

Gwynedd

LL55 4RD

Adeilad newydd ar gyfer hurio, gwerthu, addasu a thrwsio beics yn cynnwys swyddfa. Mae yno ystafell sydd yn cael ei llogi allan ar gyfer gweithgareddau llesiant a chyfarfodydd. Defnyddir system EPOS yma.

Warws Werdd

Parth 4 Stâd Cibyn,

Caernarfon,

Gwynedd

LL55 2BD

Adeilad sydd wedi ei rannu yn sawl gofod gwahanol gan gynnwys siop / storfa / gweithdy / swyddfa / ystafell gyfarfod. Defnyddir System EPOS yma.

Caergylchu,

Uned A16,

Stad Cibyn

Caernarfon,

Gwynedd

LL55 2BD

Mae safle Caergylchu yn berchen i Cyngor Gwynedd, ac oddi yma rydym yn gweithredu ein gwasanaeth Llarpio Cyfrinachol ac yn sortio plastigion y sir yn barod i’w hailgylchu. Mae gan yr Antur swyddfa ar y safle hefyd.

3 Amodau ar gyfer Cymryd Rhan

3.1

Safonau gofynnol a'r cymhwyster sydd ei angen

ACA/ACCA neu gyfwerth

Archwiliwr cofrestredig cymwys

4 Gwybodaeth Weinyddol

4.1

Math o Weithdrefn

Un cam

4.2

Rhif cyfeirnod a roddwyd i'r hysbysiad gan yr awdurdod contractio

N/a

4.3

Terfynau Amser



Terfyn amser ar gyfer derbyn tendrau wedi'u cwblhau
     31 - 07 - 2026  Amser   17:00

Dyddiad dyfarnu amcangyfrifedig   28 - 08 - 2026

4.5

Yr iaith neu'r ieithoedd y gellir ei/eu defnyddio i lunio tendrau neu geisiadau i gymryd rhan

CY  

4.6

Blwch Postio Cyflwyno Tendrau

5 Gwybodaeth Arall

5.1

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae Antur yn defnyddio’r meddalwedd canlynol ar gyfer dibenion cyllidebol:

Rota Cloud

People HR

Sage 50 Account Professional 2010

Sage 50 Payroll 2011

Barclays.net/Iportal

Barclays online banking

Kudos epos system

Sage ACT

Mae’r hysbysiad hwn wedi ei anfon fel hysbysiad ar gyfer rhanbarth penodol. Os na gawsoch rybudd, nid ydych yn y rhanbarth benodol a ddewiswyd gan y prynwr. Dylid cysylltu â’r prynwr os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch cyfyngu’r rhybudd i ranbarth penodol.

(WA Ref:167605)

5.2

Dogfennaeth Ychwanegol

BRIFF TENDR ARCHWILWYR ANTUR WAUNFAWR

5.3

Dyddiad cyhoeddi'r hysbysiad hwn

  17 - 07 - 2026

Codio

Categorïau nwyddau

ID Teitl Prif gategori
66000000 Gwasanaethau ariannol ac yswiriant Cyllid a Gwasanaethau Cysylltiedig

Lleoliadau Dosbarthu

ID Disgrifiad
1012 Gwynedd

Cyfyngiadau Rhanbarthol ar y Rhybuddion

Mae’r prynwr wedi cyfyngu’r rhybuddion ar gyfer yr hysbysiad hwn i gyflenwyr yn y rhanbarthau canlynol.

ID Disgrifiad
6 Gwynedd
5 Wrecsam
4 Sir y Fflint
3 Sir Ddinbych
2 Conwy
1 Ynys Môn

Ynglŷn â'r prynwr

Prif gyswllt:
eleri.jones@anturwaunfawr.cymru
Cyswllt gweinyddol:
N/a
Cyswllt technegol:
N/a
Cyswllt arall:
N/a

Gwybodaeth bellach

Dyddiad Manylion
Nid oes unrhyw wybodaeth bellach wedi'i lanlwytho.

Dogfennau Ychwanegol

Mae'r dogfennau ychwanegol canlynol wedi'u hatodi i'r hysbysiad hwn. I gael y dogfennau hyn, dewiswch enwau'r ffeiliau unigol isod.

Dogfennau cyfredol

Mae dogfennau wedi'u cyfyngu nes i chi nodi diddordeb yn yr hysbysiad hwn. Bydd y dogfennau ar gael i'r cyhoedd ar ôl i'r dyddiad cau ar gyfer ymateb basio.

Nid oes unrhyw ddogfennau wedi'u hatodi i'r ddogfen hon

Dogfennau wedi'u disodli

Nid oes unrhyw fersiynau blaenorol o'r dogfennau hyn


0800 222 9004

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.

We welcome calls in Welsh.