Disgrifiad o'r nwyddau neu'r gwasanaethau sydd eu hangen
Mae’r Coleg yn dymuno penodi cwmni i ddatblygu fframwaith ymddygiadau a chymwyseddau sy’n alinio’n uniongyrchol â’n cynllun strategol newydd ac sy’n galluogi’r sefydliad i osod disgwyliadau clir, cyson a mesuradwy ar draws ein swyddi ar bob lefel ac sy’n sail gadarn ar gyfer prosesau adnoddau dynol, sef –
• Rheoli perfformiad;
• Recriwtio;
• Rhaglen gynefino;
• Datblygu staff ac arweinyddiaeth; a
• Cynllunio’r gweithlu.
Y fframwaith ymddygiadau a chymwyseddau
Bydd y fframwaith ymddygiadau a chymwyseddau yn:
• diffinio ymddygiadau craidd a chymwyseddau proffesiynol sy’n adlewyrchu ein gwerthoedd, ein hamcanion strategol a’n disgwyliadau o ran perfformiad.
• darparu disgrifiadau swydd clir ar draws lefelau rôl gan gynnwys: Swyddog Gweinyddol, Swyddog, Rheolwr, Uwch Reolwr, Cyfarwyddwr, a Phrif Weithredwr.
• cefnogi prosesau perfformiad, datblygu staff, recriwtio, a llwybrau datblygu arweinyddiaeth.
• darparu canllawiau ar sut y caiff y fframwaith ei weithredu, ei gyfathrebu a’i gynnal yn ymarferol.
Rydym yn chwilio am gwmni sydd ag:
• arbenigedd adnoddau dynol sy’n cynnwys profiad ac arbenigedd cryf mewn:
o datblygu fframweithiau ymddygiadau a chymwyseddau mewn sefydliadau cyhoeddus neu’r trydydd sector
o trefniadau rheoli perfformiad staff a defnyddio fframweithiau ymddygiadau a chymwyseddau i gefnogi’r rhain
o datblygu swydd ddisgrifiadau ar draws gwahanol lefelau (Swyddog, Rheolwr, Uwch Reolwr, Cyfarwyddwr) a sicrhau bod rhain wedi eu halinio gyda’r fframwaith ymddygiadau a chymwyseddau
• gallu i greu fframwaith ymddygiadau a chymwyseddau clir, ymarferol ar draws y chwech
lefel swydd ac yn unol â’n hamcanion strategol sydd wedi eu nodi yn ein cynllun strategol newydd
• gallu cynhyrchu canllawiau ymarferol ar ymgorffori’r fframwaith ymddygiadau a chymwyseddau i staff a chanllaw i reolwyr llinell, ynghyd â deunyddiau hyfforddi i staff sy’n egluro’r fframwaith, y broses rheoli perfformiad a’r disgrifiadau swydd cysylltiedig.
Elfennau unigol
• Rheoli perfformiad
- Defnyddio’r fframwaith ymddygiadau a chymwyseddau i ddatblygu gweithdrefnau a threfniadau, ffurflenni perthnasol, canllaw i staff a chanllaw rheolwyr llinell ac unrhyw brosesau rheoli perfformiad newydd i sicrhau bod y broses yn gymesur gwerthfawr ac yn ymarferol, fel nad yw’n feichus.
- Defnyddio’r fframwaith ymddygiadau a chymwyseddau yn y broses rheoli perfformiad i gadarnhau bod staff yn cyrraedd lefel yr ymddygiadau a chymwyseddau disgwyliedig ar gyfer lefel eu swydd ac wrth ddatblygu staff.
- Bydd amserlen y broses rheoli perfformiad yn dilyn y flwyddyn academaidd (Medi > Awst) .
• Recriwtio
- Gan ddefnyddio’r fframwaith ymddygiadau a chymwyseddau newydd - datblygu prosesau recriwtio i gynnwys templed creu swydd ddisgrifiadau ar bedwar lefel (swyddogion, rheolwyr, uwch reolwyr a chyfarwyddwyr) ffurflen gais ar gyfer ymgeisio am ein swyddi, ffurflen gyfweld i’r panelwyr a chanllaw ar sut i brofi a sgorio’r ymddygiadau a chymwyseddau ar y gwahanol lefelau mewn ffurflenni cais a chyfweliadau.
• Rhaglen gynefino
- Cynnig ar gyfer cynnwys y fframwaith ymddygiadau a chymwyseddau yn sail i raglenni cynefino ar gyfer staff newydd.
• Datblygu staff ac arweinyddiaeth
- Dylai’r fframwaith ymddygiadau a chymwyseddau lywio llwybrau datblygu staff ac arweinyddiaeth ar bob lefel.
• Cynllunio’r gweithlu
- Rhaid i’r fframwaith ymddygiadau a chymwyseddau fod yn adnodd i gefnogi penderfyniadau strategol ynghylch sgiliau, capasiti a datblygiad y gweithlu a sicrhau ei fod wedi ei alinio gyda chynllun strategol newydd y Coleg.
NODER: Ewch i'r Wefan yn https://www.sell2wales.gov.wales/Search/Search_Switch.aspx?ID=168608 i gofrestru eich diddordeb yn yr hysbysiad hwn a chael unrhyw wybodaeth ychwanegol.
|