Disgrifiad o'r nwyddau neu'r gwasanaethau sydd eu hangen
HYSBYSIAD GWYBODAETH – CRONFA FFYNIANT BRO CAERGYBI
HYD Y GWAITH – IONAWR 2023 – MAWRTH 2025
1. PWRPAS YR HYSBYSIAD
Hoffai Cyngor Sir Ynys Môn, mewn partneriaeth â llu o bartneriaid cyflawni lleol, ddod o hyd i gontractwyr sydd â diddordeb mewn cyflwyno tendr ffurfiol i gyflawni prosiectau cyfalaf gwerth £22.5 miliwn fel rhan o Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU yn nhref Caergybi.
Er mwyn eich galluogi i ddeall y prosiectau unigol yn well, yr amserlenni a’r gwasanaethau sydd eu hangen, hoffai Cyngor Sir Ynys Môn wahodd contractwyr i ddigwyddiad “Cwrdd â’r Prynwr” yn Gwesty Bae Trearddur (LL65 2UN), ar 6 Gorffennaf 2023.
Cynhelir y digwyddiad ymgysylltu hwn gan dîm cyflawni Cronfa Ffyniant Bro’r Cyngor Sir ynghyd â’i bartneriaid, a bydd yn gyfle i gontractwyr gael sgwrs anffurfiol ynglŷn â’r gwahanol brosiectau ac amserlenni cyn cyflwyno tendr.
2. CYD-DESTUN A MANYLION AM Y GWAITH
Ym mis Ionawr 2023, llwyddodd Cyngor Sir Ynys Môn i sicrhau £22.5 miliwn o gyllid o Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU, er mwyn dadwneud y dirywiad yng Nghanol Tref Caergybi drwy fuddsoddi mewn sefydliadau lleol.
Mae’r partneriaid cyflawni sy’n rhan o’r prosiect yn cynnwys:
• Canolfan Ucheldre - codi estyniad sylweddol i ddarparu cyfleusterau gwell a mwy o gapasiti fel y gall y sefydliad diwylliannol allweddol hwn dyfu a chyrraedd mwy o bobl.
• Yr Eglwys yng Nghymru – (1) Adnewyddu Eglwys Cybi Sant, adeilad rhestredig Gradd 1 ac un o brif asedau treftadaeth Caergybi, er mwyn sefydlu hwb cymunedol i helpu pobl leol a dod a mwy o fwrlwm i ganol y dref (2) Adnewyddu Eglwys y Bedd, a throi’r gofod hanesyddol yn gaffi modern i ddarparu cyflogaeth a chyfleoedd hyfforddi ym maes lletygarwch ac arlwyo
• Cyngor Tref Caergybi – (1) Estyniad sylweddol i Hwylfan Canolfan Empire, prif atyniad dan do’r dref, i ymorol am y galw cynyddol (2) Traeth Newry - ddarparu cyfleusterau gwell i bobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd, fel y gallant fwynhau’r traeth chael mynediad hwylus ato.
• Môn CF - Rhaglen Eiddo Gwag - mae Môn CF wedi prynu dau adeilad gwag mwyaf ac amlycaf y dref a bydd yn eu hadnewyddu i greu mannau cymunedol bywiog newydd.
• Cyngor Sir Ynys Môn – (1) Trawsnewid Treflun, ymestyn y rhaglen hynod lwyddiannus i adnewyddu adeiladau treftadaeth adfeiliedig yng nghanol y dref - dadwneud y dirywiad yng nghanol y dref (2) y Gaer Rufeinig a Sgwâr Swift – trawsnewid yr ardal gyhoeddus o amgylch Eglwys Cybi Sant er mwyn darparu cyfleusterau gwell i ymwelwyr yn cynnwys golygfan.
GWYBODAETH BELLACH AR GAEL YMA: https://www.anglesey.gov.wales/documents/Docs-en/Business/Levelling-Up-Fund/Holyhead-A-culture-and-heritage-driven-transformation.pdf
3. Y GWASANAETHAU SYDD EU HANGEN
Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn chwilio am gontractwyr cymwys gyda chapasiti a’r gallu i dendro ar gyfer y gwaith adeiladu yn llawn.
4. MANYLION AM Y DIGWYDDIAD
Cynhelir y digwyddiad agored hwn yn ystafell gyfarfod Gwesty Bae Trearddur rhwng 09:30 a 14:00. Bydd cyflwyniadau gan Swyddogion Cronfa Ffyniant Bro CSYM a phartneriaid darparu yn para rhwng 10:00 a 12:00. Darperir cinio i bawb sy’n mynychu rhwng 12:00 a 13:00 ac yn ystod y cyfnod hwn bydd croeso i gontractwyr siarad â pherchnogion prosiectau er mwyn cael gwell dealltwriaeth o’r prosiect, amserlenni ac unrhyw ofynion eraill cyn mynd allan i dendr. Bydd y digwyddiad yn dod i ben am 14:00.
5. COFRESTRU’CH DIDDORDEB
Os hoffech gofrestru’ch diddordeb neu os hoffech ragor o wybodaeth, anfonwch e-bost at CCGLUF@ynysmon.llyw.cymru a bydd aelod o’r Tîm Ffyniant Bro’n ymateb maes o law. Rhowch eich ymateb erbyn 17:00 ar 28 Mehefin i fod yn bresennol.
NODER: Ewch i'r Wefan yn https://www.sell2wales.gov.wales/Search/Search_Switch.aspx?ID=132380 i gofrestru eich diddordeb yn yr hysbysiad hwn a chael unrhyw wybodaeth ychwanegol. |