Disgrifiad o'r nwyddau neu'r gwasanaethau sydd eu hangen
Disgrifiad o’r gwasanaethau sy'n ofynnol o'r contract:
Gofal Cymdeithasol Cymru sy’n rheoleiddio’r gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru. Rydym yn cofrestru ymarferwyr, yn pennu safonau ymarfer ac yn sicrhau bod gweithwyr yn addas i ymarfer. Rydym hefyd yn gyfrifol am ddatblygu a gwella’r gweithlu gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar a gofal plant, yn gwella gwasanaethau ac yn cefnogi pobl i ddefnyddio ymchwil a data. Cawn ein cyllido gan Lywodraeth Cymru.
Mae ein cynllun cydraddoldeb strategol (cynllun cydraddoldeb) yn dangos ymrwymiad Gofal Cymdeithasol Cymru i ddod yn sefydliad sy’n bwrw ati o ddifri i wella bywydau pobl sydd â nodweddion gwarchodedig drwy:
- fynd i’r afael â gwahaniaethu
- hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth
- creu cymdeithas mwy cynhwysol
Rydym yn cydnabod mai ein rôl yw bod yn arweinydd yn y meysydd hyn mewn gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar, ac i weithio gydag eraill yn y sector i greu newid ystyrlon, go iawn. Rydym yn rhannu nodau ac uchelgais Llywodraeth Cymru i ddatblygu Cymru fel gymdeithas sy’n weithredol wrth-hiliol a gwrth-wahaniaethol. Rydym wedi ymrwymo i weithredu Cynlluniau Gweithredu canlynol Llywodraeth Cymru:
- Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol
- Cynllun Gweithredu LHDTC+
- Cynllun Gweithredu HIV
Fel rhan o’n dyheadau i weithredu’r cynlluniau gweithredu, rydym eisiau datblygu cyfres o adnoddau e-ddysgu o ansawdd uchel y gellir eu cyflwyno ar draws y sector gofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gofal plant yng Nghymru. Bydd yr adnoddau yn rhan o raglen Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) a fydd yn canolbwyntio ar ymarfer gwrth-wahaniaethol yn y sector.
Strwythur y tendr/contract
Bydd y tendr/contract yn cael ei rannu’n dair Lot a bydd Gofal Cymdeithasol Cymru yn penodi un cyflenwr ar gyfer pob Lot:
~ Lot 1
Datblygu cynnwys e-ddysgu dwyieithog ar wrth-hiliaeth ar gyfer y sector gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar a gofal plant yng Nghymru
- Rhaid i unrhyw gynnwys a ddatblygir fod yn gyson â chynllun gweithredu Gwrth-hiliaeth Llywodraeth Cymru Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth (gov.wales)
- Rhaid i unrhyw gynnwys gael ei gyd-gynhyrchu gan bobl sydd â phrofiad bywyd ac arbenigedd bywyd yng Nghymru.
- Dylai’r cynnwys hyrwyddo gwrth-hiliaeth yn ogystal â mynd i’r afael ag effaith hiliaeth drwy brofiadau go iawn. Dylai'r rhain gynnwys dealltwriaeth o effaith troseddau casineb difrifol ac achosion o droseddau casineb yng Nghymru yn ogystal ag effaith pob math o hiliaeth, fel micro-ymosodiadau yn y gweithle.
- Byddem hefyd eisiau i'r adnodd e-ddysgu ddechrau dangos sut gallwn ddarparu gofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gofal plant gwrth-hiliaeth yng Nghymru.
- Byddem hefyd yn disgwyl i'r adnodd ddangos y cysylltiadau rhwng ymddygiad hiliol ac addasrwydd person i ymarfer yn y maes gofal cymdeithasol yng Nghymru.
- Bydd yr adnodd hefyd yn cynnwys ymarfer myfyriol parhaus ar gyfer cyfranogwyr i’w galluogi i fyfyrio, i herio eu meddwl eu hunain ac i rannu’r hyn a ddysgwyd gyda chydweithwyr.
~ Lot 2 (Yn amodol ar gymeradwyaeth cyllid)
Datblygu cynnwys e-ddysgu dwyieithog ar hawliau LHDTC+ ar gyfer y sector gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar a gofal plant yng Nghymru
- Rhaid i unrhyw gynnwys a ddatblygir fod yn gyson â chynllun gweithredu LHDTC+ Llywodraeth Cymru – Cynllun Gweithredu LHDTC+ (gov.wales)
- Rhaid i unrhyw gynnwys gael ei gyd-gynhyrchu gan bobl sydd â phrofiad bywyd ac arbenigedd bywyd yng Nghymru.
- Bydd yr adnodd yn edrych ar y gwahaniaethu sy’n wynebu aelodau LHDTC+ yng Nghymru, er enghraifft, homoffobia, deuffobia a thrawsffobia - mewn cymdeithas ac yn y gweithle.
- Byddai’r cynnwys hefyd yn mynd i’r afael ag effaith gwahaniaethu drwy brofiadau go iawn.
- Byddem hefyd yn disgwyl i'r adnodd ddangos y cysylltiadau rhwng ymddygiad gwahaniaethol ac addasrwydd person i ymarfer yn y maes gofal cymdeithasol yng Nghymru.
- Bydd yr adnodd hefyd yn cynnwys ymarfer myfyriol parhaus ar gyfer y cyfranogwyr i’w galluogi i fyfyrio, i herio eu meddwl eu hunain ac i rannu’r hyn a ddysgwyd gyda chydweithwyr.
~ Lot 3 (Yn amodol ar gymeradwyaeth cyllid)
Datblygu cynnwys o ansawdd uchel i ddatblygu adnodd dysgu HIV ar gyfer y sector gofal cymdeithasol/y blynyddoedd cynnar a gofal plant yng Nghymru
- Rhaid i unrhyw gynnwys a ddatblygir fod yn gyson â chynllun gweithredu HIV Llywodraeth Cymru – Cynllun Gweithredu HIV i Gymru 2023-2026 (gov.wales)
- Rhaid i unrhyw gynnwys gael ei gyd-gynhyrchu gan bobl sydd â phrofiad bywyd ac arbenigedd bywyd yng Nghymru.
- Dylai’r cynnwys weithredu fel ffordd o chwalu’r mythau ynglŷn â’r camsyniadau cyffredin am HIV.
- Bydd y cynnwys yn rhoi enghreifftiau go iawn o’r stigma annerbyniol am HIV sy’n wynebu’r rhai sy’n byw gyda HIV yng Nghymru, a lle bo’n bosib, enghreifftiau go iawn o’r stigma sy’n wynebu pobl sy’n derbyn gofal a chymorth yng Nghymru.
- Byddem hefyd eisiau i'r adnodd e-ddysgu ddechrau dangos sut gallwn ddarparu gofal holistig, tosturiol a gwrth-wahaniaethol i bobl â HIV sy’n derbyn gofal a chymorth yng Nghymru.
- Bydd yr adnodd hefyd yn cynnwys ymarfer myfyriol parhaus ar gyfer y cyfranogwyr i’w galluogi i fyfyrio, i herio eu meddwl eu hunain ac i rannu’r hyn a ddysgwyd gyda chydweithwyr.
Ein hagwedd at y prosiect:
Bydd cylch oes y prosiect dros y cyfnodau canlynol:
~ cyfnod un: datblygu cynnwys e-ddysgu dwyieithog
~ cyfnod dau: cynllunio ac adeiladu’r adnoddau digidol dwyieithog pwrpasol mewn fformat a phlatfform y cytunwyd arnynt gyda Gofal Cymdeithasol Cymru yn unol â’n strategaeth ddigidol ac sy’n bodloni’r holl safonau hygyrchedd gofynnol
Rydym yn awyddus i benodi un cyflenwr ar gyfer pob Lot i gyflwyno cam un. Mae croeso i gyflenwyr wneud cais ar gyfer un neu fwy nag un Lot(s).
Yn ystod cam un, rydym eisiau datblygu cynnwys ar gyfer tri modiwl dysgu sy’n gysylltiedig â chynlluniau gweithredu Llywodraeth Cymru ar wrth-hiliaeth, hawliau LHDTC+ ac ymwybyddiaeth o HIV. Bydd pob modiwl yn cael ei ystyried fel lot unigol. Yng ngham un, rydym am ddatblygu cynnwys, a fydd wedyn yn cael ei addasu’n adnodd e-ddysgu digidol.
Rydym yn disgwyl i’r cyflenwr/cyflenwyr ddarparu cynnwys o ansawdd uchel sy'n bwrpasol ac yn berthnasol i'r sectorau gofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gofal plant yng Nghymru. Yn amodol ar gyllid Llywodraeth Cymru, byddwn yn tendro ar gyfer Cam Dau ym mlwyddyn ariannol 2024/2025.
Mae cyd-ddatblygu gyda phobl â phrofiadau bywyd yn hanfodol i'n ffordd o weithio. Bydd angen i unrhyw gyflenwr allu dangos tystiolaeth o'i allu i ddatblygu’r cynnwys ar y cyd mewn ffordd ystyriol, heb fod yn docenistaidd.
Mae Gofal Cymdeithasol Cymru eisiau:
Rydym yn awyddus i benodi cyflenwr medrus a phrofiadol addas ar gyfer pob Lot a fydd yn:
~ datblygu cynnwys pwrpasol ar gyfer adnoddau e-ddysgu i addysgu a hysbysu’r sectorau gofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gofal plant yng Nghymru yn y tri maes:
- gwrth-hiliaeth,
- hawliau LHDTC+ ac
- ymwybyddiaeth HIV
- bydd y cynnwys yn cael ei gyd-gynhyrchu gydag unigolion sydd â phrofiadau bywyd o ofal cymdeithasol a/neu sefydliadau sydd ag arbenigedd yn y meysydd perthnasol. Mae hon yn elfen nad yw’n agored i drafodaeth ac yn greiddiol i'r gwaith.
- cadw at yr egwyddor o ‘nihil de nobis, sine nobis’ (‘dim byd amdanon ni, hebddon ni'), wrth reoli’r broses o gynhyrchu’r cynnwys gyda phobl â phrofiadau bywyd.
- gan weithio gyda Gofal Cymdeithasol Cymru, datblygu strwythur cyffredin, a gall gynnwys:
~ adran addysgu a hysbysu,
~ adran sy’n cwmpasu effaith gwahaniaethu (gan gynnwys troseddau casineb) ac
~ adran am ystyriaethau allweddol y maes wrth weithio yn y sectorau gofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gofal plant yng Nghymru, gan gynnwys sut i ddarparu gofal o ansawdd uchel i ddefnyddwyr gofal a chymorth.
~ cynnwys y gallu i hyrwyddo ymarfer myfyriol yn ystod y modiwl e-ddysgu yn ogystal â chanllaw i reolwyr/cyflogwyr i helpu rheolwyr i integreiddio'r adnodd e-ddysgu i sesiynau ymarfer myfyriol, fel cyfarfodydd tîm/sesiynau goruchwylio ac arfarniadau staff.
Hyd y contract:
Bydd y contract yn para o fis Medi 2023 tan fis Mawrth 2024.
Cyllideb:
£115,000 gan gynnwys TAW yw’r gyllideb ar gyfer y prosiect hwn. Mae hyn yn cael ei ddadansoddi fel a ganlyn:
- Lot un – gwerth £50,00 (yn cynnwys unrhyw TAW perthnasol)
- Lot dau – gwerth £50,000 (yn cynnwys unrhyw TAW perthnasol)
- Lot tri – gwerth £15,000 (yn cynnwys unrhyw TAW perthnasol)
Gweler ddogfen Hysbysiad Tybiannol am fwy o fanylion
NODER: Ewch i'r Wefan yn https://www.sell2wales.gov.wales/Search/Search_Switch.aspx?ID=132738 i gofrestru eich diddordeb yn yr hysbysiad hwn a chael unrhyw wybodaeth ychwanegol. |