Disgrifiad o'r nwyddau neu'r gwasanaethau sydd eu hangen
Cyflwyniad
Mae Prosiect Modiwlau Gyrfaol Realiti Estynedig (XR) yn fenter gydweithredol rhwng Gofalwn Cymru, y Tîm Datblygu Ymarfer yng Nghyngor Sir Powys, y Ffrwd Waith Recriwtio a Chadw yn Rhanbarth Gorllewin Cymru (sy’n cwmpasu Awdurdodau Lleol Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro), a’r cyflenwr fydd yn ennill y contract hwn.
Cefndir
Ar hyn o bryd, mae’r sectorau gofal cymdeithasol a gofal plant yn wynebu heriau sylweddol o ran ymgysylltu â phobl ifanc a’u recriwtio. Yn aml, mae dulliau traddodiadol o hyrwyddo gyrfa yn cael trafferth denu myfyrwyr ysgol uwchradd neu gyfleu dyfnder ac effaith rolau yn y meysydd hanfodol hyn. Mae angen cynyddol am ddulliau blaengar, deniadol, sy’n darparu cipolwg realistig, ysbrydoledig i yrfaoedd mewn gofal cymdeithasol a gofal plant.
Bydd Prosiect Modiwlau Gyrfaoedd Realiti Estynedig yn darparu adnodd blaengar a phwrpasol ar gyfer Gofalwn Cymru, Cyngor Sir Powys a Chyngor Sir Caerfyrddin, gan wella ansawdd, cysondeb ac apêl ymdrechion hyrwyddo gyrfaoedd. Trwy fanteisio ar dechnoleg realiti estynedig, nod y prosiect yw gwella ansawdd, cysondeb ac apêl ymdrechion hyrwyddo gyrfa. Bydd y prosiect yn cynnig profiad ymarferol ysgogol i fyfyrwyr sy’n adeiladu ymwybyddiaeth o yrfa, yn meithrin empathi a datblygu sgiliau, ac yn dyfnhau eu dealltwriaeth o heriau’r byd go iawn a buddion sy’n gysylltiedig â gyrfaoedd gofal cymdeithasol a gofal plant.
Nodau ac amcanion
Nod y prosiect yw gwella sut caiff pobl ifanc eu denu a’u recriwtio i yrfaoedd yn y sectorau gofal cymdeithasol, iechyd a gofal plant gan ddefnyddio grym technoleg realiti estynedig. Trwy ddatblygu modiwlau trochol a rhyngweithiol, nod y prosiect yw cefnogi llwybr gyrfaol clir i fyfyrwyr o Flwyddyn 7 i Flwyddyn 12.
Amcanion y prosiect yw:
- Gwella Ymwybyddiaeth Gyrfaol: Defnyddio technoleg realiti estynedig i greu modiwlau trochol a rhyngweithiol sy’n rhoi dealltwriaeth realistig i fyfyrwyr o yrfaoedd yn y sectorau gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar a gofal plant i’w helpu i ddelweddu a gwerthfawrogi’r rolau a’r cyfrifoldebau cysylltiedig.
- Cynyddu Ymgysylltiad: Datblygu senarios hyfforddiant difyr, priodol i oedran, sy’n cipio sylw myfyrwyr ysgol uwchradd ac yn eu hannog i gymryd rhan yn weithgar er mwyn gwneud y profiad dysgu yn bleserus ac yn gofiadwy.
- Hyrwyddo Datblygiad Sgiliau: Darparu senarios realistig sy’n caniatáu i fyfyrwyr ymarfer a datblygu sgiliau hanfodol sy’n ofynnol mewn gofal cymdeithasol a gofal plant, fel empathi, cyfathrebu a datrys problemau, mewn amgylchedd diogel a rheoledig.
- Dysgu Trochol: Ymgysylltu â senarios realistig sy’n adlewyrchu heriau a chyfrifoldebau dyddiol pob rôl.
- Safoni Gwybodaeth Gyrfaol: Sicrhau gwybodaeth gyson a chywir am yrfaoedd gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar a gofal plant ar draws pob modiwl, gan helpu myfyrwyr i wneud penderfyniadau gwybodus am eu llwybrau gyrfaol yn y dyfodol.
- Cefnogi Dysgu Parhaus: Hwyluso dysgu ac archwilio parhaus trwy ddarparu mynediad i fodiwlau realiti estynedig y gellir mynd yn ôl atynt, fel y bo angen. Bydd hyn yn caniatáu i fyfyrwyr ddyfnhau eu dealltwriaeth o yrfaoedd gofal cymdeithasol a gofal plant, a’u diddordeb ynddynt.
- Gwella Sgiliau Digidol: Gwella cymhwysedd, hyder a sgiliau digidol myfyrwyr trwy eu hymgysylltiad â thechnoleg realiti estynedig, gan eu paratoi nhw ar gyfer y defnydd cynyddol o offer digidol mewn amrywiol broffesiynol.
- Cynyddu Empathi a Dealltwriaeth: Cynyddu dealltwriaeth myfyrwyr o’r heriau y mae unigolion a theuluoedd sydd angen gofal cymdeithasol yn eu hwynebu i helpu chwalu’r rhwystrau rhag ymgysylltu a meithrin empathi a thrugaredd
- Llwybrau Gyrfaol: Ysbrydoli a hysbysu’r rhai sy’n ystyried gyrfa mewn Gofal Cymdeithasol, gan eu hysbysu am wahanol lwybrau ac opsiynau hyfforddiant i ategu eu dewisiadau gyrfaol.
Gweler Manyleb am fwy o wybodaeth
NODER: Ewch i'r Wefan yn https://www.sell2wales.gov.wales/Search/Search_Switch.aspx?ID=151900 i gofrestru eich diddordeb yn yr hysbysiad hwn a chael unrhyw wybodaeth ychwanegol.
Mae'r awdurdod dyfarnu wedi nodi y bydd yn derbyn ymatebion electronig i'r hysbysiad hwn drwy'r cyfleuster 'Blwch Postio Cyflwyno Tendrau'. Mae rhagor o fanylion am y cyfleuster hwn ar gael yn https://www.sell2wales.gov.wales/sitehelp/help_guides.aspx.
Cynghorir cyflenwyr i ganiatáu digon o amser i lanlwytho dogfennau ac anfon yr ymateb electronig ymhell cyn yr amser cau er mwyn osgoi unrhyw broblemau munud olaf.
|