Disgrifiad o'r nwyddau neu'r gwasanaethau sydd eu hangen
Cyflwyniad
Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn datblygu rhaglen beilot i gefnogi dilyniant gyrfaol i bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru sy’n dod o gefndiroedd ethnig leiafrifol.
Rydym yn gwybod o’r data ar y gweithlu fod llai o bobl o gefndir ethnig leiafrifol mewn rolau arwain a rheoli. Nod y rhaglen yw cefnogi pobl sy’n gweithio mewn gwasanaethau gofal uniongyrchol (nad yw’n cynnwys gwaith cymdeithasol) i gymryd eu camau cyntaf i arweinyddiaeth a rheolaeth.
Nodau ac amcanion
Nod y rhaglen yw grymuso gweithwyr ethnig leiafrifol yn y sector gofal cymdeithasol trwy roi iddynt y sgiliau hanfodol a’r adnoddau i ddatblygu eu gyrfa, gan hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant mewn rolau arwain.
Mae’r rhaglen 12 mis yn cynnwys sesiynau i ddatblygu sgiliau arwain, sgiliau anogaeth a chyfleoedd i gysgodi uwch arweinwyr.
Nod y rhaglen yw:
- Cynorthwyo pobl i’w gweld eu hunain fel arweinwyr.
- Darparu llwybrau gweladwy i gyfleoedd arwain yng Nghymru.
- Deall egwyddorion arweinyddiaeth dda.
- Cyfleoedd am brofiad ymarferol o arweinyddiaeth mewn gofal cymdeithasol.
Beth Sydd ei Angen / ‘Y Gofynion’
Mae’r fenter hon yn cefnogi Cymru Wrth-hiliol: Cynllun Gweithredu, a lansiwyd yn 2022.
Rhaglen heb ei hachredu yw hon, sydd wedi’i hanelu at weithwyr gofal cymdeithasol sy’n gymwys ar lefel 3 FfCC.
Bydd y rhaglen yn cefnogi a pharatoi pobl a all ddewis ymgymryd â chymwysterau rheoli lefel 4 a 5 , ar ôl y rhaglen.
Rydym wedi datblygu amlinelliad ar gyfer y rhaglen, a fydd yn cynnwys:
- Sesiynau wedi’u haddysgu
- Anogaeth
- Cysgodi
Ar gyfer pob elfen y rhaglen, rydym wedi datblygu pecynnau cymorth, ar y cyd â phobl sydd â phrofiad bywyd yn y maes, gydag arweiniad i:
- Gyflogwyr sy’n cefnogi staff wrth gyflawni’r rhaglen
- Cyfranogwyr y rhaglen
Bydd y pecynnau hyn ar gael i'r Cyflenwr llwyddiannus.
Bydd y cyflogwyr sy'n cymryd rhan yn y rhaglen yn cael eu cefnogi gyda mynediad at gynllun cymhwysedd diwylliannol. Bydd yr elfen hon yn cael ei darparu gan gyflenwr ar wahân, a fydd yn sicrhau bod y cyflogwyr sy'n cymryd rhan yn y cynllun yn darparu gweithle diogel a diwylliannol cymwys i gyfranogwyr y rhaglen.
Bydd y rhaglen hyfforddiant a datblygiad peilot yn dechrau yn hydref 2025 ac yn para am gyfnod 12 mis.
Rydym yn chwilio am Gyflenwr a all
- Rheoli'r rhaglen yn ei gyfanrwydd a chysylltu â safleoedd peilot i sicrhau darpariaeth llyfn.
- ddatblygu cynnwys a chyflwyno’r sesiynau a addysgir ar arweinyddiaeth
- darparu anogaeth un i un i gyfranogwyr
- Cysylltu â'r sefydliad sy'n darparu'r Cynllun Cymhwysedd Diwylliannol sy'n cefnogi'r safleoedd peilot
- Cyfrannu at ddulliau gwerthuso y cytunwyd arnynt wrth i'r rhaglen gael ei chyflwyno ac yn enwedig ar ddiwedd y rhaglen
Gweler y Manyleb am fwy o wybodaeth
NODER: Ewch i'r Wefan yn https://www.sell2wales.gov.wales/Search/Search_Switch.aspx?ID=152842 i gofrestru eich diddordeb yn yr hysbysiad hwn a chael unrhyw wybodaeth ychwanegol.
Mae'r awdurdod dyfarnu wedi nodi y bydd yn derbyn ymatebion electronig i'r hysbysiad hwn drwy'r cyfleuster 'Blwch Postio Cyflwyno Tendrau'. Mae rhagor o fanylion am y cyfleuster hwn ar gael yn https://www.sell2wales.gov.wales/sitehelp/help_guides.aspx.
Cynghorir cyflenwyr i ganiatáu digon o amser i lanlwytho dogfennau ac anfon yr ymateb electronig ymhell cyn yr amser cau er mwyn osgoi unrhyw broblemau munud olaf.
|