Disgrifiad o'r nwyddau neu'r gwasanaethau sydd eu hangen
Mae Cyngor Gwynedd angen comisiynu darparwr i ddarparu Hyfforddiant
Pendantrwydd i’w staff.
Mae llawer o’n staff yn profi anhawster wrth fynegi eu barn neu osod
ffiniau mewn ffordd glir, gan arwain at gamddealltwriaeth, straen neu
orlwytho. Bydd yr hyfforddiant yma yn helpu i ddatblygu hyder a sgiliau cyfathrebu sy’n galluogi unigolion i ddelio â sefyllfaoedd heriol yn bwyllog ac yn barchus.
Drwy gynnig yr hyfforddiant yma mae’r Cyngor yn sicrhau bod staff yn
meddu ar y sgiliau cyfathrebu angenrheidiol i fynegi eu hunain modd
proffesiynol a pharchus. Bydd yr hyfforddiant yn cyfrannu at ddiwylliant gwaith agored ac adeiladol, yn lleihau’r potensial am wrthdaro, ac yn cefnogi llesiant staff drwy feithrin hyder a gwydnwch. Trwy alluogi staff i gyfathrebu’n glir ac yn effeithiol, mae’r sefydliad yn meithrin amgylchedd gwaith mwy cynhyrchiol, cydweithredol ac effeithlon.
Mae’r Cyngor yn cydnabod gwerth yr hyfforddiant i unigolion yn ogystal
a’r sefydliad cyfan.
- Mae gan Gyngor Gwynedd bolisi dwyieithrwydd (Cymraeg a Saesneg). O
ganlyniad, mae’r Cyngor yn dymuno penodi darparwr all gyflwyno'r
hyfforddiant yn y Gymraeg a’r Saesneg. Fodd bynnag, os nad oes
darparwyr dwyieithog addas yna byddwn yn ystyried darparwyr
Saesneg.
NODER: Ewch i'r Wefan yn https://www.sell2wales.gov.wales/Search/Search_Switch.aspx?ID=165785 i gofrestru eich diddordeb yn yr hysbysiad hwn a chael unrhyw wybodaeth ychwanegol.
Mae'r awdurdod dyfarnu wedi nodi y bydd yn derbyn ymatebion electronig i'r hysbysiad hwn drwy'r cyfleuster 'Blwch Postio Cyflwyno Tendrau'. Mae rhagor o fanylion am y cyfleuster hwn ar gael yn https://www.sell2wales.gov.wales/sitehelp/help_guides.aspx.
Cynghorir cyflenwyr i ganiatáu digon o amser i lanlwytho dogfennau ac anfon yr ymateb electronig ymhell cyn yr amser cau er mwyn osgoi unrhyw broblemau munud olaf.
|