Disgrifiad o'r nwyddau neu'r gwasanaethau sydd eu hangen
Mae Cyngor Gwynedd angen comisiynu darparwr i ddarparu
Hyfforddiant Perswadio a Dylanwadu i'w rheolwyr ac arweinyddion tîm.
Mae gallu perswadio a dylanwadu yn sgil allweddol yn y gweithle. Mae’n
galluogi unigolion i gyflwyno syniadau’n effeithiol, ennill cefnogaeth gan eraill a chyflawni canlyniadau cadarnhaol. Mae’r sgiliau hyn yn cryfhau cydweithio, helpu i adeiladu ymddiriedaeth, ac annog pobl i ystyried safbwyntiau newydd. Trwy ddefnyddio dulliau perswadiol sy’n barchus ac yn glir, gall ein rheolwyr ac arweinyddion lywio trafodaethau, datrys problemau’n fwy effeithiol, a chyfrannu at benderfyniadau gwell.
Yn y pen draw, mae gallu dylanwadu’n gadarnhaol yn cryfhau
perthnasoedd gwaith ac yn gwella effeithiolrwydd personol a thîm.
Mae gan Gyngor Gwynedd bolisi dwyieithrwydd (Cymraeg a Saesneg). O
ganlyniad, mae’r Cyngor yn dymuno penodi darparwr all gyflwyno'r
hyfforddiant yn y Gymraeg a’r Saesneg. Fodd bynnag, os nad oes
darparwyr dwyieithog addas yna byddwn yn ystyried darparwyr
Saesneg.
NODER: Ewch i'r Wefan yn https://www.sell2wales.gov.wales/Search/Search_Switch.aspx?ID=165790 i gofrestru eich diddordeb yn yr hysbysiad hwn a chael unrhyw wybodaeth ychwanegol.
Mae'r awdurdod dyfarnu wedi nodi y bydd yn derbyn ymatebion electronig i'r hysbysiad hwn drwy'r cyfleuster 'Blwch Postio Cyflwyno Tendrau'. Mae rhagor o fanylion am y cyfleuster hwn ar gael yn https://www.sell2wales.gov.wales/sitehelp/help_guides.aspx.
Cynghorir cyflenwyr i ganiatáu digon o amser i lanlwytho dogfennau ac anfon yr ymateb electronig ymhell cyn yr amser cau er mwyn osgoi unrhyw broblemau munud olaf.
|