Disgrifiad o'r nwyddau neu'r gwasanaethau sydd eu hangen
Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn ceisio comisiynu darparwr profiadol a chymwys addas i ddylunio, datblygu a chyflwyno cwrs strwythuredig a addysgir modiwl 20 credyd wedi'i fapio i'r cymhwyster Lefel 4 Paratoi ar gyfer Arweinyddiaeth a Rheolaeth mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant a'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (NOS) perthnasol.
Disgwylir i bob cwrs fod dros gyfnod o 10 mis gydag un sesiwn y mis.
Bydd y rhaglen beilot a gomisiynwyd yn darparu cyfleoedd dysgu hyblyg o ansawdd uchel, hygyrch a hyblyg i gefnogi dysgwyr cymwys i ymgymryd â'r cwrs a chwblhau'r cwrs yn llwyddiannus.
Bwriad y gwaith hwn yw mynd rhywfaint o’r ffordd i fynd i'r afael â heriau'r gweithlu trwy ddatblygu a chryfhau arweinyddiaeth, gwybodaeth, sgiliau, gallu a chefnogi dilyniant i rolau rheoli, a darparu llwybr gyrfa clir a hygyrch. Bydd yn cyfrannu at well sefydlogrwydd y gweithlu, mwy o gadw, a gwell gwytnwch y sector.
Bydd hefyd yn cefnogi datblygiad gweithlu sydd â sgiliau priodol, cymwys ac addas i'r diben, gan alinio â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru i ehangu darpariaeth blynyddoedd cynnar a gofal plant hygyrch o ansawdd uchel ac i sicrhau gweithlu cynaliadwy, hyderus a galluog sy'n gallu cwrdd â'r galw presennol ac yn y dyfodol.
Plis welwch yr Ymgysylltu a'r Farchnad Rhagarweiniol am gybodaeth pellach.
Cyfanswm amcangyfrifwyd y gwerth :£29,999 (yn cynnwys TAW)
Bydd y gontract yn rhedeg o 10 Awst 2026 tan 31 Rhagfyw 2027.
NODER: Ewch i'r Wefan yn https://www.sell2wales.gov.wales/Search/Search_Switch.aspx?ID=166585 i gofrestru eich diddordeb yn yr hysbysiad hwn a chael unrhyw wybodaeth ychwanegol. |