Safonau gofynnol a'r cymhwyster sydd ei angen
Cwestiynau a matrics sgorio:
Rhowch atebion i’r cwestiynau canlynol ar draws dwy adran.
Bydd eich atebion yn cael eu sgorio fesul canran fel y nodir ym mhob cwestiwn er mwyn caniatáu matrics sgorio.
Adran 1: Pris - bydd hyn yn cyfrif am 30% o sgôr y cynnig.
Yn seiliedig ar ganolfan gyrfa ffuglennol wedi’i lleoli yn y Trallwng, Cymru, darparwch un pris ar gyfer yr holl elfennau a restrir isod.
Cynhwyswch y gost ar gyfer ymweliadau â’r safle, cynhyrchu a gosod.
I gyfeirio ato, gweler atodiad A sy’n cynnwys lluniau o ganolfannau presennol gyda’r brandio cyfredol ac enghreifftiau o’r elfennau a grybwyllir isod.
A: Ymweliad â safle Trallwng.
B: Tynnu lawr a newid y brandio presennol gan gynnwys y canlynol:
Allanol:
• Arwydd bwrdd: Maint: 5000mm o led x 1000mm o uchder. Deunydd awgrymedig: Bwrdd arwydd wedi’i wneud o alwminiwm gyda mewnosodiad finyl.
• Ffenestri: Maint: 5000mm x 3000mm o uchder. Deunydd awgrymedig: Ffilm ffenestr golwg unffordd.
Mewnol:
• Swigod siarad (mae angen chwech o’r rhain): Maint pob un: 750mm x 750mm. Deunydd awgrymedig: Argraffu Inkjet Epson ar finyl wal hunanludo - laminad gweadog wedi’i dorri a’i chwynnu.
• Finyl wal ‘Croeso i’: Maint: 2000mm o led x 1500mm o uchder. Deunydd awgrymedig: Argraffu inc ar orchudd wal Digimura.
• Rhifau drysau (mae angen pedwar o’r rhain): Maint pob un: 51.8cm x 18.9cm. Deunydd awgrymedig: Argraffu Inkjet Epson ar finyl hunanludo monomerig clir sgleiniog wedi’i osod o’r cefn i acrylig clir 3mm gyda chefn sbwng PVC 3mm VHB.
• Ffenestr batrymog (mae angen dau o’r rhain): Maint 1: 1730mm o uchder x 2300mm o led. Maint 2: 575mm o uchder x 2300mm o led. Deunydd awgrymedig: Finyl: Ffilm ffenestr gwydr ysgythredig grisial arian.
Adran 2: Ansawdd - bydd hyn yn cyfrif am 70% o sgôr y cynnig.
A: Profiad perthnasol o weithio ar brosiectau tebyg - bydd hyn yn cyfrif am 30% o sgôr y cynnig.
Rhowch fanylion enghraifft mewn dim mwy na 300 o eiriau, gan gynnwys delweddau lle bo’n berthnasol o ble rydych chi wedi gweithio ar brosiectau tebyg.
B: Personél - bydd hyn yn cyfrif am 10% o sgôr y cynnig.
Rhowch fanylion profiad, mewn dim mwy na 300 o eiriau gan gynnwys tystiolaeth, yr personél a fydd yn gweithio ar y briff a’r prosiect hwn.
C: Amgylchedd - bydd hyn yn cyfrif am 10% o sgôr y cynnig.
Mae Gyrfa Cymru yn cofleidio egwyddorion datblygu cynaliadwy ym mhob agwedd ar gaffael er mwyn sicrhau bod ffactorau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd yn cael eu hystyried o fewn fframwaith y gwerth am arian. Mewn dim mwy na 200 gair, rhowch fanylion unrhyw dystysgrifau amgylcheddol sydd gennych a chynnwys disgrifiad byr o sut rydych chi yn:
• lleihau gwastraff i safleoedd tirlenwi
• ailgylchu deunyddiau
• lleihau’r defnydd o ddŵr
• rheoli milltiroedd busnes
D: Cyflogaeth foesegol - bydd hyn yn cyfrif am 10% o sgôr y cynnig.
Disgrifiwch mewn dim mwy na 200 gair sut y byddwch yn ymrwymo i arferion gwaith teg i weithwyr sy’n ymwneud â chyflawni’r contract hwn (gan gynnwys unrhyw weithwyr asiantaeth neu is-gontractwyr).
E: Sero Net - bydd hyn yn cyfrif am 10% o sgôr y cynnig.
Rhowch fanylion mewn dim mwy na 200 o eiriau am eich ymrwymiadau i leihau carbon, gan roi enghreifftiau o sut y byddech chi’n lleihau’r ôl troed carbon wrth ddarparu’r gwasanaeth.
Sgorio
Bydd y contract yn cael ei ddyfarnu yn seiliedig ar y fethodoleg sgorio ganlynol:
Adran A: Pris 30%
Bydd y pris isaf a gyflwynir yn cael sgôr o 30 am bris yn unig, gyda thendrwyr wedi hynny yn cael sgôr gymharol a fydd 30 marc a llai namyn y gwahaniaeth canran rhwng eu pris hwy a’r pris isaf.
Er enghraifft, y pris isaf yw £4000 a’r nesaf isaf yw £5000, byddai’r ail dendr isaf yn sgorio 30 – (1000/4000 x 30) = 7.5 = sgôr o 22.5.
Bydd y sgôr hwn yn cael ei gyfuno â’r sgôr ansawdd i roi sgôr gyffredinol i bob tendrwr.
Adran B: Ansawdd 70%
Mae’r marciau canlynol yn cael eu dyrannu i bob adran:
• Profiad 30%
• Personél 10%
• Amgylchedd 10%
• Cyflogaeth foesegol 10%
• Sero Net 10%
1. Cyflwyniad da iawn neu gwbl gydymffurfiol sy’n bodloni’r holl ofynion ac wedi’i egluro’n llawn mewn manylder cynhwysfawr = rhwng 80 a 100% o’r marciau sydd ar gael.
2. Cyflwyniad da neu gwbl gydymffurfiol sy’n bodloni’r holl ofynion ac wedi’i egluro’n rhesymol o fanwl = rhwng 60% ac 80% o’r marciau sydd ar gael
3. Cyflwyniad boddhaol neu gydymffurfiol sy’n bodloni’r gofynion hanfodol ac wedi’i egluro’n ddigon manwl = 40% a 60% o’r marciau sydd ar gael.
4. Cyflwyniad gwan neu rannol gydymffurfiol (materion bach) lle mae rhai meysydd yn methu â chyflawni’r gofynion ac wedi’u egluro’n wael = 20% a 40% o’r marciau sydd ar gael.
5. Cyflwyniad annerbyniol neu anghydffurfiol (materion mawr) sy’n methu â bodloni’r gofynion ac nad yw’n cael ei egluro = hyd at 20% o’r marciau sydd ar gael.
Bydd y sgoriau cyffredinol yn cael eu cyfuno i roi sgôr gyffredinol i bob tendrwr. Dyfernir y tendr i’r cwmni sy’n cyflawni’r sgôr uchaf allan o uchafswm o 100%.
|