Disgrifiad o'r nwyddau neu'r gwasanaethau sydd eu hangen
Mae Uchelgais Gogledd Cymru yn ceisio caffael ymgynghorydd sydd â phrofiad mewn cynllunio trafnidiaeth i gefnogi datblygiad rhaglen Cronfa Drafnidiaeth Ranbarthol Gogledd
Cymru
Amcan y Prosiect
Mae Uchelgais Gogledd Cymru yn ceisio caffael ymgynghorydd i:
•
Sicrhau gweithrediad llwyddiannus o bolisïau a dyheadau Cynllun Trafnidiaeth
Rhanbarthol Gogledd Cymru, gydag ymrwymiadau a mentrau cysylltiedig;
•
Goruchwylio gweithrediad rhaglen Blwyddyn 1 dan arweiniad yr awdurdodau lleol
mewn cysylltiad â dyfarniad y Gronfa Drafnidiaeth Ranbarthol (a gymeradwywyd ar 18
Mawrth 2026), yn unol â Chynllun Cyflawni Trafnidiaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru;
•
Gweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod cynlluniau sy'n cael eu hariannu y tu
allan i'r Gronfa Drafnidiaeth Ranbarthol ond sy'n ymddangos yng Nghynllun Cyflawni
Trafnidiaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru yn cael eu gweithredu’n llwyddiannus, gydag
ymgysylltiadau â rhanddeiliaid a phartneriaid cyflenwi cysylltiedig;
•
Ymgymryd â gwaith i fodloni eich gofynion monitro a gwerthuso ac adrodd
ehangach mewn cysylltiad ag unrhyw amodau a osodir ar ddyfarniadau'r Gronfa
Drafnidiaeth Ranbarthol, a gofynion Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru,
Cynllun Cyflawni, Arfarniad Llesiant Integredig, a Chynllun Monitro a Gwerthuso (yn y
flwyddyn gyntaf ar ôl eu mabwysiadu);
•
Ymgysylltu â chydweithwyr cynllunio defnydd tir rhanbarthol i helpu sicrhau bod y
Cynllun Datblygu Strategol yn ymwybodol o'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol
•
Paratoi'r cais i Lywodraeth Cymru am raglen Blwyddyn 2 o gynlluniau mewn
cysylltiad â'r Gronfa Drafnidiaeth Ranbarthol, yn unol â Chynllun Cyflawni Trafnidiaeth
Rhanbarthol Gogledd Cymru, gan gynnwys cydlynu mewnbwn awdurdodau lleol ac
ymgysylltu ag arweinwyr moddol yn Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru; ac
Page 4 of 15
•
Paratoi a hwyluso cyfarfodydd parhaus y Cyd-bwyllgor Corfforaethol, yr Is
bwyllgor Trafnidiaeth Strategol, grŵp swyddogion rhanbarthol, a Llywodraeth Cymru.
NODER: Ewch i'r Wefan yn https://www.sell2wales.gov.wales/Search/Search_Switch.aspx?ID=166834 i gofrestru eich diddordeb yn yr hysbysiad hwn a chael unrhyw wybodaeth ychwanegol.
Mae'r awdurdod dyfarnu wedi nodi y bydd yn derbyn ymatebion electronig i'r hysbysiad hwn drwy'r cyfleuster 'Blwch Postio Cyflwyno Tendrau'. Mae rhagor o fanylion am y cyfleuster hwn ar gael yn https://www.sell2wales.gov.wales/sitehelp/help_guides.aspx.
Cynghorir cyflenwyr i ganiatáu digon o amser i lanlwytho dogfennau ac anfon yr ymateb electronig ymhell cyn yr amser cau er mwyn osgoi unrhyw broblemau munud olaf.
|