Disgrifiad o'r nwyddau neu'r gwasanaethau sydd eu hangen
Ddeng mlynedd yn ôl, crewyd yr Egwyddorion Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â'r Cyhoedd yng Nghymru er mwyn helpu mudiadau i ymgysylltu’n gyson ac yn effeithiol â’r cyhoedd. Cafodd yr egwyddorion hyn eu creu ochr yn ochr â chyfres o ganllawiau ac adnoddau ategol, a amlinellwyd isod, a’u cyflwyno ar wefan CGGC, gan gynnwys y Llawlyfr i Ymarferwyr ar gyfer Ymgysylltu â’r Cyhoedd. Mae’r egwyddorion yn cael eu diweddaru ar hyn o bryd i adlewyrchu’r dirwedd ddeddfwriaethol a gwasanaethau cyhoeddus newydd.
• Egwyddorion Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â'r Cyhoedd
• Egwyddorion Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â'r Cyhoedd – poster
• Egwyddorion Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â'r Cyhoedd – PowerPoint
• Egwyddorion Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â'r Cyhoedd – fersiwn hawdd ei darllen
• Egwyddorion Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â'r Cyhoedd – PowerPoint hawdd ei darllen (Saesneg yn unig)
• Egwyddorion Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â'r Cyhoedd – Pecyn Cymorth Gwerthuso
• Egwyddorion Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â'r Cyhoedd – rhestr wirio
• Llawlyfr Ymarferwyr ar gyfer Ymgysylltu â'r Cyhoedd (Saesneg yn unig)
Llawlyfr Ymarferwyr ar gyfer Ymgysylltu â’r Cyhoedd
Datblygwyd y Llawlyfr Ymarferwyr (gweler Atodiad 1) i gefnogi’r gwaith o roi’r egwyddorion ar waith. Cynhyrchwyd y llawlyfr gan Gyfranogaeth Cymru CGGC, ar ran Llywodraeth Cymru, mewn cysylltiad ag ymarferwyr o’r sector cyhoeddus. Daeth prosiect Cyfranogaeth Cymru i ben ym mis Gorffennaf 2018, ond mae’r llawlyfr, ynghyd â’r adnoddau eraill a restrwyd uchod, wedi parhau i gael eu defnyddio a’u gwerthfawrogi gan ymarferwyr o fudiadau trydydd sector a mudiadau’r sector cyhoeddus fel ei gilydd.
Fodd bynnag, cynhyrchwyd y llawlyfr yn 2012 ac mae angen ei ddiweddaru i adlewyrchu newidiadau deddfwriaethol, arferion da, a’r dirwedd bolisi gyfredol. Byddai’n dda o beth hefyd pe bai’n cael ei ail-ddylunio er mwyn ei wneud yn fwy hygyrch a hawdd ei ddefnyddio.
Bydd y llawlyfr diwygiedig yn cael ei osod ar Hwb Gwybodaeth Cefnogi Trydydd Sector Cymru – https://thirdsectorsupport.wales/cy/. Mae’r Hwb Gwybodaeth yn rhoi mynediad hawdd i fudiadau gwirfoddol yng Nghymru at amrywiaeth o wybodaeth, rhwydweithio a dysgu. Gellir gweld enghreifftiau o adnoddau tebyg ar yr Hwb Gwybodaeth - https://thirdsectorsupport.wales/cy/adnoddau-tssw/.
Mae’r gwaith hwn yn cael ei gyllido gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) a’i gomisiynu gan CGGC. Mae’n rhan o gydweithrediad i ddiweddaru nifer o adnoddau gydag CGGC, Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru, Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, Llywodraeth Cymru, Un Llais Cymru ac ymarferwyr cyfranogi ac ymgysylltu.
Bydd CGGC yn cadw’r hawliau ar gyfer yr holl ddeunyddiau a gaiff eu creu gan y cyflenwr i’w defnyddio ar y contract hwn. Bydd y cyflenwr yn cael cydnabyddiaeth ar yr holl ddeunyddiau a gaiff eu hailddefnyddio.
Yr hyn sydd i’w gyflawni
• Rydyn ni’n chwilio am unigolion, ymgynghorwyr a/neu fudiadau i ddiwygio a diweddaru’r Llawlyfr Ymarferwyr ar gyfer Ymgysylltu â’r Cyhoedd.
• Mae gennym ddiddordeb yn eich arbenigedd a’ch syniadau ar gyfer y cynnwys sydd ei angen i ddiweddaru’r adnodd hwn.
• Bydd gan y cyflenwr ddealltwriaeth gynhwysfawr o’r newidiadau deddfwriaethol, yr arferion da, a’r dirwedd bolisi gyfredol er mwyn diweddaru a diwygio’r llawlyfr.
• Bydd y llawlyfr yn darparu gwybodaeth lefel sylfaenol a fydd yn mynd i’r afael â llawer o’r cwestiynau a ofynnir yn aml ar fformat syml, diddorol a hawdd ei ddarllen.
• Dylai’r llawlyfr a gaiff ei ddiweddaru gyfuno gwybodaeth o ffynonellau credadwy lluosog, cyfeirio darllenwyr at ffynonellau o gyngor a chymorth a chael ei ysgrifennu ar gyfer cynulleidfaoedd amrywiol.
• Bydd cynnwys yn cael ei gyflwyno fel dogfen Microsoft Word. Bydd CGGC yn gyfrifol am gyfieithiadau Cymraeg, brandio a dyluniad y llawlyfr. Bydd y cyflenwyr yn gyfrifol am y cynnwys yn unig.
• Bydd angen i’r cyflenwr rannu/cyflwyno fersiwn ddrafft o’r adnodd gyda grŵp o randdeiliaid (a drefnir gan CGGC) cyn cyflwyno’r fersiwn derfynol.
• Bydd y cyflenwr yn anfonebu CGGC mewn modd amserol, gan eitemeiddio pob trafodiad a dyfynnu’r archeb brynu.
NODER: Ewch i'r Wefan yn https://www.sell2wales.gov.wales/Search/Search_Switch.aspx?ID=119228 i gofrestru eich diddordeb yn yr hysbysiad hwn a chael unrhyw wybodaeth ychwanegol.
Mae'r awdurdod dyfarnu wedi nodi y bydd yn derbyn ymatebion electronig i'r hysbysiad hwn drwy'r cyfleuster 'Blwch Postio Cyflwyno Tendrau'. Mae rhagor o fanylion am y cyfleuster hwn ar gael yn https://www.sell2wales.gov.wales/sitehelp/help_guides.aspx.
Cynghorir cyflenwyr i ganiatáu digon o amser i lanlwytho dogfennau ac anfon yr ymateb electronig ymhell cyn yr amser cau er mwyn osgoi unrhyw broblemau munud olaf.
|