Disgrifiad o'r contract
Cafodd y Cwtsh Creadigol ei greu fel ymateb uniongyrchol i'r pandemig a'r effaith yr oedd yn ei chael ar staff gofal iechyd a oedd yn delio â phwysau gwaith wrth y talcen caled a oedd yn arwain at flinder, colli’r awydd i gario ymlaen a straen difrifol. Mewn ymgynghoriad â'n partneriaid o fewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a chan weithio gydag amrywiaeth eang o artistiaid ar draws Cymru, datblygodd Cyngor y Celfyddydau adnoddau llesiant creadigol pwrpasol ac ar-lein ar gyfer y gweithlu Gofal Iechyd yng Nghymru.
Adnoddau dwyieithog ar-lein yw’r Cwtsh Creadigol sydd wedi'i gymeradwyo gan Wella Addysg Iechyd Cymru.
Mae wedi'i ysbrydoli gan gorff cynyddol o dystiolaeth sy'n dangos yr effaith gadarnhaol y gall y celfyddydau ei chael ar ein hiechyd meddwl a'n lles.
Mae'r Cwtsh Creadigol yn llawn gweithgareddau hwyliog ac yn gwahodd cydweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol i droi cefn am eiliad ar eu gwaith, darganfod eu creadigrwydd a manteision lles.
Mae'r adnoddau unigryw a gafodd eu creu, mewn ymgynghoriad â Gwella Addysg Iechyd Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru, yn cynnwys gweithgareddau byrion gan rai o artistiaid blaenllaw Cymru. Ei nod yw rhoi hwb i iechyd a lles drwy'r celfyddydau gan gynnig ychydig o ysbrydoliaeth a hwyl, cysur, cyfle i ymlacio a dod at eich coed eto. Mae gweithgareddau yn amrywio o beintio portreadau ac ysgrifennu creadigol i archwilio natur, dawnsio Bollywood, canu, tynnu ffotos, jyglo ac animeiddio. Mae'r holl gynnwys ar fideo ac mae mynediad ato’n rhad ac am ddim.
I gael gwybod rhagor, ewch i cwtshcreadigol.cymru
4. Yr esboniad
Rydym yn bwriadu comisiynu gwerthusiad o'r Cwtsh Creadigol. Ddwy flynedd ers ei datblygu’n gyntaf, rydym am asesu i ba raddau y mae'n cyflawni ei nod o gefnogi lles gweithlu gofal iechyd Cymru. Yn benodol, rydym am ddarganfod:
- sut mae'r adnoddau ar-lein hyn yn cael eu defnyddio gan staff sy'n gweithio yn y GIG a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru a'r manteision a'r effaith y mae'n eu cael ar eu lles
- ble a sut mae'r gynulleidfa'n defnyddio'r wefan
- proffil demograffig y defnyddwyr
- pa mor gyfarwydd yw’r gweithlu ag ef ac i ba raddau mae’n hysbys yn eu plith
- ffactorau sy'n atal staff rhag defnyddio'r Cwtsh Creadigol
- profiad y defnyddwyr a sut y gellid ei wella
- gwerth y cynnwys a gomisiynwyd gan y prosiect i staff gofal iechyd a pha gynnwys sy'n apelio fwyaf at y defnyddwyr a beth sy'n llai llwyddiannus a llai defnyddiol
- syniadau ar gyfer datblygu cynnwys yn y dyfodol yn seiliedig ar adborth, anghenion a gofynion y defnyddwyr
- beth mae’r defnyddwyr yn ei feddwl am frand a hunaniaeth y Cwtsh Creadigol
Rydym yn disgwyl i'r gwerthusiad roi data meintiol ac ansoddol i gefnogi ei ganfyddiadau. Rydym yn rhagweld y bydd grwpiau ffocws o ddefnyddwyr yn elfen bwysig o'r gwaith.
Dylai'r gwerthusiad hefyd archwilio a oes galw ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol am gynnal yr adnoddau i gefnogi lles staff yn y tymor hwy a sut olwg y gallai fod ar fodel ariannol cynaliadwy yn y dyfodol.
Byddwn yn defnyddio canfyddiadau ac argymhellion y gwerthusiad i lywio ein strategaeth yn y dyfodol mewn perthynas â'r Cwtsh Creadigol. Byddwn hefyd yn ei ddefnyddio i lywio ein proses o gomisiynu cynnwys a dylunio a datblygu gwefannau yn y dyfodol.
|