Disgrifiad o'r nwyddau neu'r gwasanaethau sydd eu hangen
Mae CBC y Gogledd yn ceisio caffael cefnogaeth mewn amrywiaeth o arbenigeddau a fydd yn cefnogi cynhyrchu cynlluniau statudol, y RTP a'r SDP.
Bydd caffael partner i ymgymryd â'r gwaith hwn yn sicrhau dull cyson a chost-effeithiol ac yn galluogi agwedd ac aliniad strategol ar draws agweddau cyd gysylltiedig o'r ddau gynllun.
Mae cwmpas y gwaith yn cynnwys astudiaethau ecolegol, amgylcheddol ac eraill fel ansawdd aer a sŵn, yn ogystal ag asesu effaith ar allyriadau carbon, lles a'r amgylchedd. Mae tudalen 12, adran 4.4.5 Canllawiau Llywodraeth Cymru i Gyd-bwyllgorau Corfforedig ar Gynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol yn nodi'r gofynion yn fanylach.
Bydd angen cydlynu a hwyluso ymgynghori ac ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol (addysg, iechyd a'r trydydd sector – ac eraill)
Mae Llwybr Newydd – Strategaeth Trafnidiaeth Cymru 2021 , yn nodi'r weledigaeth ar gyfer system drafnidiaeth hygyrch, gynaliadwy ac effeithlon yng Nghymru. Y mecanweithiau cyflawni i wireddu'r uchelgeisiau hyn yw Cynllun Cyflawni Trafnidiaeth Cenedlaethol Cymru 2022-2027 ac ar lefel ranbarthol y Cynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol.
Bydd paratoi Cynllun Datblygu Strategol (SDP) yn galluogi dull mwy cyson, cost-effeithiol ac effeithlon o gynllunio, gyda phenderfyniadau allweddol yn cael eu gwneud unwaith ar y lefel strategol. Bydd hyn yn caniatáu i faterion mwy na rhai lleol, megis graddfa twf tai, swyddi a dosbarthiad gofodol, ar draws nifer o ardaloedd cynllunio lleol gael eu hystyried mewn ffordd integredig a chynhwysfawr.
Ledled Cymru, mae'r CBC ar wahanol gamau wrth eu gweithredu. Ar hyn o bryd mae'r Gogledd yn gweithio gyda'r cynghorau lleol i sefydlu pwyllgorau/strwythurau llywodraethu i fwrw ymlaen â'r gwaith ar yr RTP a'r SDP. Un o'r prif uchelgeisiau yw gwneud seilwaith rhanbarthol mor gadarn a gwydn â phosibl fel ei fod yn parhau i fod yn lle deniadol i fyw, gweithio ac ymweld ag ef. Bydd cynllunio ar gyfer datblygu'r seilwaith mewn ffordd strategol ac integredig yn cryfhau atyniad y rhanbarth ymhellach i fuddsoddwyr sector preifat sy'n creu cyfleoedd cyflogaeth cyffrous, hygyrch a chynaliadwy i bobl yn y Gogledd nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
NODER: Ewch i'r Wefan yn https://www.sell2wales.gov.wales/Search/Search_Switch.aspx?ID=139727 i gofrestru eich diddordeb yn yr hysbysiad hwn a chael unrhyw wybodaeth ychwanegol.
Mae'r awdurdod dyfarnu wedi nodi y bydd yn derbyn ymatebion electronig i'r hysbysiad hwn drwy'r cyfleuster 'Blwch Postio Cyflwyno Tendrau'. Mae rhagor o fanylion am y cyfleuster hwn ar gael yn https://www.sell2wales.gov.wales/sitehelp/help_guides.aspx.
Cynghorir cyflenwyr i ganiatáu digon o amser i lanlwytho dogfennau ac anfon yr ymateb electronig ymhell cyn yr amser cau er mwyn osgoi unrhyw broblemau munud olaf.
|