Disgrifiad o'r nwyddau neu'r gwasanaethau sydd eu hangen
Mae Priffyrdd Peirianneg ac YGC Cyngor Gwynedd yn dymuno trefnu cytundeb fframwaith ar gyfer Triniaeth Berchnogol. Mae'r atodlenni atodedig yn nodi'r mathau o wasanaethau a nwyddau sydd eu hangen ac yn manylu ar y trefniadau galw i ffwrdd o fewn y 3 ardal ddaearyddol ddynodedig.
A Ardal Arfon Lot 1 – Is Lot 1.1 – 1.6
D Ardal Dwyfor Lot 2 – Is Lot 2.1 – 2.6
M Ardal Meirionnydd Lot 3 – Is Lot 3.1 – 3.6
Mae’r Gwasanaethau wedi eu rhannu i’r pecynnau Is Lot canlynol:
(1.1, 2.1, 3.1) Cwrs Arwyneb Tenau
(1.2, 2.2, 3.2) Arwyneb Ffrithiant Uchel
(1.3, 2.3, 3.3) Wyneb Slyri Ffyrdd Cerbyd yn cynnwys Micro-wyneb
(1.4, 2.4, 3.4) Arwynebu Slyri Troedffyrdd
(1.5, 2.5, 3.5) Rheoli Traffig
(1.6, 2.6, 3.6) Eitemau Ategol
(b) Gall yr Awdurdod ddyfarnu'r holl Lotiau (nid is-lotiau) i un Tendrwr. Fodd bynnag, bydd contractau ar wahân ar gyfer pob un neu unrhyw gyfuniad o'r Lotiau yn cael eu dyfarnu i Dendrwyr ar wahân os yw'n fwy manteisiol yn economaidd i wneud hynny.
(c) Ni chaiff yr Awdurdod ddyfarnu'r Lot os nad yw'n fanteisiol yn economaidd i wneud hynny.
Gwahoddir tendrwr i gynnig am y cyfan neu unrhyw rai o'r Lotiau uchod.
NODYN: Mae’r awdurdod yn defnyddio eDendro Cymru i gynnal y broses gaffael hon. I gael rhagor o wybodaeth mynegwch eich diddordeb ar GwerthwchiGymru ar https://www.sell2wales.gov.wales/search/search_switch.aspx?ID=140127
|