Disgrifiad o'r nwyddau neu'r gwasanaethau sydd eu hangen
Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn cychwyn ar Gam 1 ein prosiect creadigol newydd – Gofodau Creu.
Wrth wraidd cyflawni cenhadaeth ganolog Canolfan Mileniwm Cymru mae ein rhaglen ddysgu greadigol, i ysbrydoli’r genedl drwy roi llais i bobl ifanc a gwneud argraff ar y byd drwy fwyhau eu lleisiau i adrodd straeon Cymraeg unigryw. Diben y rhaglen yw cyflawni hyder, hunangred a sgiliau bywyd a gwaith hanfodol drwy ymgysylltu diwylliannol a chreu, a gwasanaethu llesiant pobl ifanc drwy gydol eu bywydau. Mae’r prosiect Gofodau Creu yn rhan hanfodol o hyn.
Beth yw Gofod Creu?
Lle i ddylunio, profi, arbrofi, archwilio, adeiladu, arloesi a chydweithio i greu rhywbeth yw Gofod Creu. Gallai fod yn stiwdio recordio neu’n gegin, ond yn wahanol i ofod cynhyrchu rheolaidd, mae wedi’i ddylunio i wasanaethu’r broses o ddatblygu sgiliau’r cyfranogwr.
Ein gweledigaeth yw cyfres liwgar o ofodau wedi’u hadeiladu’n bwrpasol, wedi’u cyd-ddylunio gyda phobl ifanc ac sy’n cael eu rhedeg gan bobl ifanc, ac sy’n le i ‘fod’ (yn iach, yn ddiogel, yn barod) a ‘chreu’ sy’n gwasanaethu llesiant pobl ifanc. Y diben yw eu bod yn gweithredu fel sbardun ar gyfer eu huchelgeisiau i’r dyfodol. Mae tystiolaeth yn dangos bod llawer o bobl ifanc, yn enwedig y rhai y mae profiadau niweidiol wedi effeithio arnyn nhw, yn aml yn colli allan ar y cyfle i ddatblygu sgiliau a gyrfaoedd creadigol.
Felly, er bod yr ateb yn syml, mae’r cyfle yn arwyddocaol. Er y bydd gwerth uniongyrchol y gofodau i bobl ifanc yn greadigol ac yn addysgol, mae eu byd yn fwyfwy cyfnewidiol, ansicr, cymhleth ac amwys – o bandemig a newid yn yr hinsawdd i ragolwg economaidd heriol. Bydd y Gofodau Creu yn cael eu dylunio i ddarparu’r sgiliau a’r galluoedd fydd eu hangen arnyn nhw i lywio’r byd yma a chyfrannu at fenter ac entrepreneuriaeth Cymru.
Bydd y rhain yn ofodau sy’n gallu swyno dechreuwyr, ymgysylltu â phobl dalentog ac ysbrydoli’r genedl.
NODER: Ewch i'r Wefan yn https://www.sell2wales.gov.wales/Search/Search_Switch.aspx?ID=131511 i gofrestru eich diddordeb yn yr hysbysiad hwn a chael unrhyw wybodaeth ychwanegol.
|