Skip to main content

Rydym wedi cadw rhai ffeiliau o'r enw cwcis ar eich dyfais. Y cwcis hyn yw:

  • Hanfodol ar gyfer y safle i weithio
  • Helpu i wella ein gwefan drwy gasglu ac adrodd gwybodaeth am sut rydych chi'n ei defnyddio

Hoffem hefyd arbed rhai cwcis i helpu i deilwra cyfathrebu.

BETA
Rydych yn edrych ar fersiwn wedi'i ddiweddaru o'r gwasanaeth hwn - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hysbysiad o Ddyfarnu Contract

Tîm Ymgynghorol Busnes

  • Cyhoeddwyd gyntaf: 22 Tachwedd 2017
  • Wedi'i addasu ddiwethaf: 22 Tachwedd 2017

Nid yw'r prynwr yn defnyddio'r wefan hon i weinyddu'r hysbysiad.

I gofnodi eich diddordeb neu gael gwybodaeth neu ddogfennau ychwanegol, darllenwch y cyfarwyddiadau yn Nhestun Llawn yr Hysbysiad. (NODER: Nid oes angen ymateb i Hysbysiadau Dyfarnu Contractau a Hysbysiadau Gwybodaeth Ymlaen Llaw fel arfer)

Cynnwys

Crynodeb

OCID:
ocds-kuma6s-072002
Cyhoeddwyd gan:
Cwmni'r Frân Wen
ID Awudurdod:
AA36485
Dyddiad cyhoeddi:
22 Tachwedd 2017
Dyddiad Cau:
-
Math o hysbysiad:
Hysbysiad o Ddyfarnu Contract
Mae ganddo ddogfennau:
Nac Ydi
Wedi SPD:
Nac Ydi
Mae ganddo gynllun lleihau carbon:
AMH

Crynodeb

Mae Frân Wen yn awyddus i benodi ymgynghorydd neu dîm o ymgynghorwyr gyda phrofiad helaeth o gynllunio busnes o fewn sector y celfyddydau, a datblygiadau cyfalaf yn benodol, i gydweithio â nhw i ddatblygu eu gweledigaeth ar gyfer dyfodol cynaliadwy. Yn dilyn cwblhau Astudiaeth Dichonolrwydd llwyddiannus, mae Frân Wen yn awyddus i ddatblygu model busnes sydd yn ymgorffori ei ddatblygiad cyfalaf arfaethedig ‘Nyth’. Ystyrir y Cynllun Busnes fel un o elfennau pwysicaf y cynllun ac mae ei lwyddiant yn allweddol i sicrhau cyflawni’r prosiect cyfalaf arfaethedig. Bydd yn gynsail i geisiadau nawdd a bydd yn sefydlu rhagolygon gwaelodlin fydd yn sefydlu model gweithredu cynaliadwy am 3 mlynedd yn dilyn cwblhau Nyth; i gynnwys rhaglennu, gweithredu o ddydd i ddydd, rheolaeth a llywodraethiant yr adeilad a Frân Wen fel cwmni theatr. Bydd yr ymgynghorydd (wyr) yn cyflawni’r canlynol: • Cynnal trafodaethau manwl gyda Frân Wen a’r prif randdeiliaid er mwyn cael dealltwriaeth cyflawn o’r sefydliad, ei amcanion strategol ac uchelgais ar gyfer y dyfodol gan gynnwys datblygiad arfaethedig NYTH. • Asesiad o gryfderau, gwendidau, cyfleon a bygythiadau y cwmni. • Asesiad o natur Frân Wen a’i ddull o weithredu a chapasiti y sefydliad i gyflawni prosiect cyfalaf sylweddol. • Adolygu a herio’r Cynllun Busnes presennol gan werthuso perfformiad ariannol diweddar a rhagolygon ar gyfer y dyfodol. • Adnabod yn glir y cyfleon a’r potensial o ffynonellau incwm newydd posib yn sgil y prosiect cyfalaf gan gynnwys llogi a gweithgareddau masnachol. • Asesu cyfleon masnachol, gwerthuso rhaglenni a digwyddiadau peilot er mwyn penderfynu ar fodel busnes addas ar gyfer rhaglennu yn y dyfodol. • Cynnwys, gwerthuso a chydlynu canlyniadau allweddol cynlluniau, prosiectau a strategaethau eraill i un achos busnes cadarn. Mae hyn yn cynnwys perthynas corfforol a strategol Frân Wen gyda datblygiadau eraill ym Mangor gan gynnwys Pontio, Storiel a’r “Ardal Ddiwylliannol” ynghyd â chynllun datblygu / adfywio y ddinas. • Mae posibilrwydd cryf o ostyngiad mewn cyfraniadau refeniw traddodiadol gan ffynonellau allanol yn y blynyddoedd i ddod a bydd angen i’r Cynllun Busnes ddangos bod gweithrediad a rheolaeth y cwmni yn gallu gwrthsefyll hynny’n effeithiol. • Asesiad o’r costau a’r manteision a ddaw yn sgil y prosiect cyfalaf gan gynnwys unrhyw arbedion ac arbedion effeithlonrwydd posib. • Cydweithio gyda’r Tîm Cynllunio i brofi’r rhagdybiaethau sydd wedi eu hamlinellu yn yr astudiaeth dichonolrwydd yn arbennig mewn cysylltiad â chynnal a chadw a chostau rhedeg. • Rhagamcaniad llif arian 5 mlynedd yn cynnwys incwm a gwariant am 2 flynedd yn ystod datblygiad ac adeiladu ynghyd â’r 3 blynedd yn dilyn cwblhau. Unwaith yn rhagor, dylid profi unrhyw rhagdybiaethau. • Amserlen ar gyfer gwireddu’r prosiect gan gynnwys cerrig milltir allweddol a dibyniaethau. • Sefydlu sut fydd y prosiect yn cael ei weithredu a’r effaith ar y sefydliad yn ystod y cyfnod datblygu. • Adnabod risgiau a chyfleon a chynhyrchu Cofrestr Risg. • Cyflwyno argymhellion a chynaliadwyedd ariannol y Cynllun Busnes. • Datblygu, addasu a diweddaru’r Cynllun Busnes cyn unrhyw geisiadau nawdd.

Testun llawn y rhybydd

HYSBYSIAD O DDYFARNU CONTRACT - CENEDLAETHOL

SERVICES

1 Manylion yr Awdurdod

1.1

Enw a Chyfeiriad yr Awdurdod


Cwmni'r Frân Wen

Yr Hen Ysgol Gynradd, Ffordd Pentraeth ,

Porthaethwy

LL59 5HS

UK

Nia Jones

+44 1248715048

nia@franwen.com

http://www.franwen.com

2 Manylion y Contract

2.1

Teitl

Tîm Ymgynghorol Busnes

2.2

Disgrifiad o'r contract

Mae Frân Wen yn awyddus i benodi ymgynghorydd neu dîm o ymgynghorwyr gyda phrofiad helaeth o gynllunio busnes o fewn sector y celfyddydau, a datblygiadau cyfalaf yn benodol, i gydweithio â nhw i ddatblygu eu gweledigaeth ar gyfer dyfodol cynaliadwy.

Yn dilyn cwblhau Astudiaeth Dichonolrwydd llwyddiannus, mae Frân Wen yn awyddus i ddatblygu model busnes sydd yn ymgorffori ei ddatblygiad cyfalaf arfaethedig ‘Nyth’.

Ystyrir y Cynllun Busnes fel un o elfennau pwysicaf y cynllun ac mae ei lwyddiant yn allweddol i sicrhau cyflawni’r prosiect cyfalaf arfaethedig. Bydd yn gynsail i geisiadau nawdd a bydd yn sefydlu rhagolygon gwaelodlin fydd yn sefydlu model gweithredu cynaliadwy am 3 mlynedd yn dilyn cwblhau Nyth; i gynnwys rhaglennu, gweithredu o ddydd i ddydd, rheolaeth a llywodraethiant yr adeilad a Frân Wen fel cwmni theatr.

Bydd yr ymgynghorydd (wyr) yn cyflawni’r canlynol:

• Cynnal trafodaethau manwl gyda Frân Wen a’r prif randdeiliaid er mwyn cael dealltwriaeth cyflawn o’r sefydliad, ei amcanion strategol ac uchelgais ar gyfer y dyfodol gan gynnwys datblygiad arfaethedig NYTH.

• Asesiad o gryfderau, gwendidau, cyfleon a bygythiadau y cwmni.

• Asesiad o natur Frân Wen a’i ddull o weithredu a chapasiti y sefydliad i gyflawni prosiect cyfalaf sylweddol.

• Adolygu a herio’r Cynllun Busnes presennol gan werthuso perfformiad ariannol diweddar a rhagolygon ar gyfer y dyfodol.

• Adnabod yn glir y cyfleon a’r potensial o ffynonellau incwm newydd posib yn sgil y prosiect cyfalaf gan gynnwys llogi a gweithgareddau masnachol.

• Asesu cyfleon masnachol, gwerthuso rhaglenni a digwyddiadau peilot er mwyn penderfynu ar fodel busnes addas ar gyfer rhaglennu yn y dyfodol.

• Cynnwys, gwerthuso a chydlynu canlyniadau allweddol cynlluniau, prosiectau a strategaethau eraill i un achos busnes cadarn. Mae hyn yn cynnwys perthynas corfforol a strategol Frân Wen gyda datblygiadau eraill ym Mangor gan gynnwys Pontio, Storiel a’r “Ardal Ddiwylliannol” ynghyd â chynllun datblygu / adfywio y ddinas.

• Mae posibilrwydd cryf o ostyngiad mewn cyfraniadau refeniw traddodiadol gan ffynonellau allanol yn y blynyddoedd i ddod a bydd angen i’r Cynllun Busnes ddangos bod gweithrediad a rheolaeth y cwmni yn gallu gwrthsefyll hynny’n effeithiol.

• Asesiad o’r costau a’r manteision a ddaw yn sgil y prosiect cyfalaf gan gynnwys unrhyw arbedion ac arbedion effeithlonrwydd posib.

• Cydweithio gyda’r Tîm Cynllunio i brofi’r rhagdybiaethau sydd wedi eu hamlinellu yn yr astudiaeth dichonolrwydd yn arbennig mewn cysylltiad â chynnal a chadw a chostau rhedeg.

• Rhagamcaniad llif arian 5 mlynedd yn cynnwys incwm a gwariant am 2 flynedd yn ystod datblygiad ac adeiladu ynghyd â’r 3 blynedd yn dilyn cwblhau. Unwaith yn rhagor, dylid profi unrhyw rhagdybiaethau.

• Amserlen ar gyfer gwireddu’r prosiect gan gynnwys cerrig milltir allweddol a dibyniaethau.

• Sefydlu sut fydd y prosiect yn cael ei weithredu a’r effaith ar y sefydliad yn ystod y cyfnod datblygu.

• Adnabod risgiau a chyfleon a chynhyrchu Cofrestr Risg.

• Cyflwyno argymhellion a chynaliadwyedd ariannol y Cynllun Busnes.

• Datblygu, addasu a diweddaru’r Cynllun Busnes cyn unrhyw geisiadau nawdd.

2.3

Cod a Dosbarthiad yr Hysbysiad

66000000 Financial and insurance services
73000000 Research and development services and related consultancy services
79000000 Business services: law, marketing, consulting, recruitment, printing and security
92000000 Recreational, cultural and sporting services
1011 Isle of Anglesey

2.4

Amcangyfrif o Gyfanswm Gwerth

3 Gweithdrefn

3.1

Math o Weithdrefn

Un cam

4 Dyfarnu Contract

4.1

Cynigwyr Llwyddiannus

4.1.1

Enw a Chyfeiriad y cyflenwr, contractwr neu ddarparwr gwasanaeth llwyddiannus





Dan Haul Cyf

Penfras Isaf, Llwyndyrys,

Pwllheli

LL536NG

UK








Ymgynghori Marc Consultancy

10 Heol Y Dwr, Penygroes,

Caernarfon

LL54 6LR

UK




5 Gwybodaeth Arall

5.1

Rhif cyfeirnod a roddwyd i'r hysbysiad gan yr awdurdod contractio

N/a

5.2

Dyddiad Dyfarnu'r Contract

  21 - 11 - 2017

5.3

Nifer y tendrau a dderbyniwyd

7

5.4

Gwybodaeth Arall

(WA Ref:73517)

5.5

Dogfennaeth Ychwanegol

Dd/g

5.6

Dyddiad cyhoeddi'r hysbysiad hwn:

  22 - 11 - 2017

Codio

Categorïau nwyddau

ID Teitl Prif gategori
92000000 Gwasanaethau ardal hamdden Gwasanaethau eraill
66000000 Gwasanaethau ariannol ac yswiriant Cyllid a Gwasanaethau Cysylltiedig
79000000 Gwasanaethau busnes: y gyfraith, marchnata, ymgynghori, recriwtio, argraffu a diogelwch Gwasanaethau eraill
73000000 Gwasanaethau ymchwil a datblygu a gwasanaethau ymgynghori cysylltiedig Ymchwil a Datblygu

Lleoliadau Dosbarthu

ID Disgrifiad
1011 Ynys Môn

Cyfyngiadau Rhanbarthol ar y Rhybuddion

Mae’r prynwr wedi cyfyngu’r rhybuddion ar gyfer yr hysbysiad hwn i gyflenwyr yn y rhanbarthau canlynol.

ID Disgrifiad
Nid oes cyfyngiadau ar y rhybuddion ar gyfer yr hysbysiad hwn.

Teulu dogfennau

Manylion hysbysiad
Dyddiad cyhoeddi:
12 Hydref 2017
Dyddiad Cau:
08 Tachwedd 2017 00:00
Math o hysbysiad:
Hysbysiad o Gontract
Enw Awdurdod:
Cwmni'r Frân Wen
Dyddiad cyhoeddi:
22 Tachwedd 2017
Math o hysbysiad:
Hysbysiad o Ddyfarnu Contract
Enw Awdurdod:
Cwmni'r Frân Wen
Dyddiad cyhoeddi:
22 Tachwedd 2017
Math o hysbysiad:
Hysbysiad o Ddyfarnu Contract
Enw Awdurdod:
Cwmni'r Frân Wen

Ynglŷn â'r prynwr

Prif gyswllt:
nia@franwen.com
Cyswllt gweinyddol:
N/a
Cyswllt technegol:
N/a
Cyswllt arall:
N/a

Gwybodaeth bellach

Dyddiad Manylion
Nid oes unrhyw wybodaeth bellach wedi'i lanlwytho.

0800 222 9004

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.

We welcome calls in Welsh.