Disgrifiad o'r nwyddau neu'r gwasanaethau sydd eu hangen
Mae gan yr Ombwdsmon dair rôl benodol. Y cyntaf yw ystyried cwynion am ddarparwyr gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru; yr ail yw ystyried cwynion bod aelodau o awdurdodau lleol wedi torri'r cod ymddygiad; y trydydd yw pennu safonau ymdrin â chwynion ar gyfer darparwyr gwasanaethau cyhoeddus. Mae'r Ombwdsmon yn annibynnol ar holl gyrff y Llywodraeth ac mae’r gwasanaeth a ddarperir yn rhad ac am ddim. Mae tua 75 o staff yn gweithio gyda'r Ombwdsmon ac maent wedi'u lleoli'n bennaf yn y Swyddfa ym Mhencoed, ger Pen-y-bont ar Ogwr.
Rydym am benodi cyflenwr newydd a fydd yn glanhau'r swyddfa yn gyffredinol. Bydd hyn yn cynnwys glanhau'r swyddfa yn gyffredinol (gan gynnwys desgiau, ceginau a chawodydd) yn ogystal â glanhau'r holl ffenestri mewnol ac offer TG personol.
Mae'r ardal berthnasol a fydd angen eu glanhau yn cynnwys swyddfa cynllun agored ar y llawr gwaelod, a rhan o'r llawr cyntaf a'r ail lawr a ddefnyddir fel ystafelloedd cyfarfod a chynadledda. Mae'r tri llawr yn cynnwys cyfanswm arwynebedd llawr o 16,460 tr2.
Bydd y darparwr gwasanaeth yn darparu gwasanaeth glanhau cynhwysfawr ar draws y swyddfa, gan ymgymryd â’r gwaith mewn modd diogel ac effeithlon. Bydd y darparwr gwasanaeth yn gyfrifol am y canlynol;
Yn ddyddiol/wythnosol
• glanhau holl ardal y swyddfa, gan gynnwys, ond nid yn gyfyngedig i lanhau lloriau, tynnu llwch a sychu arwynebau yn y swyddfa gyffredinol, yr ystafelloedd cyfarfod ac ystafelloedd cynadledda
• glanhau ceginau (gan gynnwys glanhau offer a gwagio biniau sbwriel a biniau ailgylchu)
• glanhau pob eitem ‘a gyffyrddir yn aml’, switsis goleuadau, handlenni drysau a ‘fingerplates’
• glanhau'r cyfleusterau cawod yn y swyddfa
Yn chwarterol
• glanhau pob gwydr mewnol, gan gynnwys y tu mewn i'r holl ffenestri a phartisiynau
Bydd y darparwr gwasanaeth yn gyfrifol am gyflenwi'r holl gynhyrchion glanhau ac offer sydd eu hangen i gyflawni'r swydd. Ni fydd y darparwr gwasanaeth yn gyfrifol am lanhau ardaloedd cymunedol a thoiledau’cr adeilad.
Dylid ymgymryd â’r glanhau y tu allan i oriau, h.y. cyn 8yb neu ar ôl 5:30yh, a bydd y darparwr gwasanaeth yn gyfrifol am fonitro darpariaeth y gwasanaeth yn ddyddiol er mwyn sicrhau y cedwir at safonau glanhau.
Lle bynnag y bo hynny'n ymarferol ac yn bosibl, dylid cwblhau’r holl weithgaredd glanhau yn unol â chanllawiau COVID-19: Cleaning in Non-Healthcare Settings Outside the Home Llywodraeth y DU, yn enwedig y cyngor ynglŷn â chynyddu pa mor aml y glanheir arwynebau a gyffyrddir yn aml.
Ar hyn o bryd, mae gan OGCC ddarparwr ar waith sy'n darparu gwasanaethau glanhau swyddfeydd. Disgwylir i'r cytundeb presennol ddod i ben ym mis Chwefror 2021. Ar hyn o bryd, mae gan y darparwr un aelod o staff sy'n ymwneud â darparu gwasanaethau i OGCC, a allai fod yn ddarostyngedig i drosglwyddiad TUPE pe bai darparwr newydd yn cael y contract newydd. Mae gwybodaeth am TUPE wedi'i darparu fel rhan o'r hysbysiad tendro hwn.
Dyfernir y contract am 3 blynedd o 1 Mawrth 2022, gyda'r dewis i ymestyn y contract am 18 mis arall.
Bydd cyfnod prawf o 6 mis o'r dyddiad y bydd y contract yn cychwyn.
NODER: Ewch i'r Wefan yn https://www.sell2wales.gov.wales/Search/Search_Switch.aspx?ID=116258 i gofrestru eich diddordeb yn yr hysbysiad hwn a chael unrhyw wybodaeth ychwanegol.
|