Disgrifiad o'r nwyddau neu'r gwasanaethau sydd eu hangen
Canolfan Mileniwm Cymru (y Ganolfan) yw cartref Cymru i’r celfyddydau perfformio, ac mae wedi’i lleoli yng nghanol Bae Caerdydd. Ers agor yn 2004, mae wedi bod yn llwyddiannus tu hwnt. Mae ganddi enw da fel un o ganolfannau dihafal Ewrop ar gyfer y celfyddydau perfformio ac mae’n lleoliad diwylliannol eiconig i’r celfyddydau. Canolfan Mileniwm Cymru yw atyniad mwyaf poblogaidd Cymru i ymwelwyr, mae’n un o brif atyniadau diwylliannol y DU ac mae wedi croesawu dros 16.5 miliwn o ymwelwyr ers agor. Mae’r Bwrdd a’r Tîm Gweithredol yn ymrwymedig i gyflawni eu nod o Ysbrydoli’r Genedl, Creu Argraff ar y Byd, Tanio’r Dychymyg gan greu profiadau ysbrydoledig sy’n newid bywydau ac sy’n ehangu gorwelion. Nod Canolfan Mileniwm Cymru yw:
• Creu gwaith arloesol sy’n arddangos Cymru i’r byd
• Codi dyheadau pob person ifanc yng Nghymru
• Bod yn hygyrch i bawb yng Nghymru
• Cael ei hadnabod fel un o’r prif ganolfannau celfyddydau perfformio yn y byd
Fel rhan o waith adnewyddu a gynlluniwyd, mae bellach angen i Ganolfan Mileniwm Cymru greu gofodau swyddfa sydd wedi’u cynllunio mewn ffordd arloesol ac sy’n cefnogi dulliau gweithio ystwyth a chydweithredol i’n timau, gan ganolbwyntio ar ddarparu amgylchedd gwaith sy’n galluogi ein pobl anhygoel i weithio yn y ffordd orau.
Mae’r tabl isod yn dangos yr amserlen ar gyfer y broses. Cysylltwch â Helen John helen.john@wmc.org.uk i ofyn am y dogfennau tendro a’r lluniadau a’r amserlen gysylltiedig.
Proses dendro Dyddiad Amser
Hysbysiad contract GwerthwchiGymru 4/11/22 Dd/g
Cyflwyno dogfennau tendro 7/11/22 Dd/g
Ymweliad safle 11/11/22 Dd/g
Cyflwyno ymholiadau tendro 15/11/22 12:00 hanner nos
Ymatebion i ymholiadau tendro 18/11/22 12:00 hanner nos
Cyflwyno cynigion tendro 24/11/22 9:00am
Cyfweliad ar y safle 29 neu 29/11/22 Drwy wahoddiad
Penderfyniad 2/12/22 Dd/g
NODER: Ewch i'r Wefan yn https://www.sell2wales.gov.wales/Search/Search_Switch.aspx?ID=126270 i gofrestru eich diddordeb yn yr hysbysiad hwn a chael unrhyw wybodaeth ychwanegol.
|