Skip to main content

Rydym wedi cadw rhai ffeiliau o'r enw cwcis ar eich dyfais. Y cwcis hyn yw:

  • Hanfodol ar gyfer y safle i weithio
  • Helpu i wella ein gwefan drwy gasglu ac adrodd gwybodaeth am sut rydych chi'n ei defnyddio

Hoffem hefyd arbed rhai cwcis i helpu i deilwra cyfathrebu.

BETA
Rydych yn edrych ar fersiwn wedi'i ddiweddaru o'r gwasanaeth hwn - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hysbysiad o Gontract

Leasehire Equipment for Growers Powys

  • Cyhoeddwyd gyntaf: 08 Tachwedd 2022
  • Wedi'i addasu ddiwethaf: 08 Tachwedd 2022

Cynnwys

Crynodeb

OCID:
ocds-kuma6s-126347
Cyhoeddwyd gan:
Social Farms and Gardens
ID Awudurdod:
AA78256
Dyddiad cyhoeddi:
08 Tachwedd 2022
Dyddiad Cau:
29 Tachwedd 2022
Math o hysbysiad:
Hysbysiad o Gontract
Mae ganddo ddogfennau:
Yndi
Wedi SPD:
Nac Ydi
Mae ganddo gynllun lleihau carbon:
AMH

Crynodeb

CYFLWYNIAD I A CHEFNDIR Y PROSIECT Nod Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol, y Rhwydwaith Bwyd Agored, Cultivate, Cymdeithas Ymddiriedolaethau Datblygu Cymru a Foothold Cymru, trwy weithio mewn partneriaeth yw dangos y GALL y sector cyhoeddus gaffael yn effeithlon gan gynhyrchwyr lleol trwy ddefnyddio dulliau sydd o fudd i’r amgylchedd lleol a ffyniant lleol. Trwy gydweithio gyda Swyddogion Lleoedd Bwyd Cynaliadwy Gogledd Powys a Sir Gâr, mae dau Hyb Caffael yn prynu gan dyfwyr bach lleol, gan gydgrynhoi’r cyflenwad ac yn darparu cynnyrch ar gyfer y sector cyhoeddus sy’n bodloni (neu’n rhagori ar) gofynion o safbwynt hwylustod, cost a chynaliadwyedd. CEFNOGI TYFWYR Nod y prosiect yw: • Creu swyddi newydd yn yr economi lleol. • Uwchsgilio tyfwyr • Darparu marchnadoedd cyson ar gyfer tyfwyr a chynhyrchwyr garddwriaeth presennol. • Darparu hyfforddiant mewn arferion ffermio amaethecolegol yn ogystal â chefnogi mentrau. • Cynyddu capasiti tyfwyr i fodloni galw cynyddol gan y cyhoedd yn Gogledd Powys. Bydd y prosiect peilot hwn yn wely prawf ar gyfer tyfwyr, Hybiau a chaffaelwyr y dyfodol. Bydd yn paratoi busnesau bach gwledig yn well i ddatblygu mentrau mwy cynaliadwy a hyfyw. Ein strategaeth hirdymor yw defnyddio’r hyn a ddysgir o’r peilot hwn i ddatblygu’r model, gan gynnwys datblygiadau technolegol, ehangu tyfwyr/cynhyrchwyr a grymuso hyrwyddwyr caffael lleol o fewn y sector cyhoeddus. Byddwn yn buddsoddi mewn tyfwyr lleol trwy hyfforddiant, rhwydweithiau a thrwy ddarparu offer cyfalaf. AMLINELLIAD CRYNO Rydym yn chwilio am sefydliad unigol, sydd â’r awydd, capasiti a gwybodaeth i ddarparu offer i’w hurio ar brydles ar gyfer tyfwyr er mwyn cynyddu eu gallu i gyflenwi’r sector cyhoeddus yn Gogledd Powys ac i dyfu mewn ffyrdd sy’n fuddiol i natur. Yn y lle cyntaf, rhoddir blaenoriaeth o ran mynediad at yr offer i gynhyrchwyr amaethecolegol bach, sy’n cyfrannu at brosiect peilot yr hyb caffael ar fwyd (hyd at 10 tyfwr). Yn y tymor hwy, hwyrach y bydd tyfwyr eraill yn gymwys i hurio offer gan y darparwr. Ein dyhead yw cael “llyfrgell offer” a reolir yn dda, sydd ar gael i dyfwyr Gogledd Powys a’r ardal ar raddfa enwol. Gellir prydlesu offer ar sail hirdymor i dyfwyr penodol a/neu gellir cynnig trefniadau prydlesu tymor byr. Bydd yr offer yn: • Helpu tyfwyr i ddefnyddio dulliau mwy cyfeillgar i natur • Helpu tyfwyr i fod yn fwy cynhyrchiol • Helpu tyfwyr i ddatblygu a thyfu ystod cynnyrch ehangach • Helpu tyfwyr i drin eu cynnyrch i sicrhau ei fod yn addas ar gyfer marchnad y sector cyhoeddus • Helpu tyfwyr i gludo eu cynnyrch Bydd gofyn i ddeiliad y contract: • Weithio gyda’r Cydlynydd Lleoedd Bwyd Cynaliadwy a’r Hyb Caffael Bwyd i asesu anghenion blaenoriaeth tyfwyr lleol, o fewn fframwaith y prosiect hwn. • Prynu offer gan ddilyn gofynion tendro cystadleuol a rhagweld pa mor hir bydd y “llyfrgell” yn parhau. • Darparu cytundeb hurio ar brydles i gynnwys gwaith cynnal a chadw ar y safle. Noder: bydd Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol yn darparu templed o fframwaith cyfreithiol ar gyfer hurio ar brydles. • Trefnu a goruchwylio cyflenwi, gosod, defnydd cychwynnol a delio gydag unrhyw broblemau sy’n codi wedyn o ran yr offer a gyflenwir. • Cadw’r holl gofnodion ariannol angenrheidiol mewn perthynas â’r offer: o Dyddiad prynu o Disgrifiad o’r offer o Pris a dalwyd (gan gynnwys TAW net adenilladwy) o Cyfeirnodau / rhifau adnabod o Lleoliad yr offer o Dyddiad cael gwared ar unrhyw offer o Gwerthu unrhyw offer heb DAW DS - Ni chaniateir cael gwared ar unrhyw offer, na’i drosglwyddo neu ei wasgaru cyn Medi 2028 heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol (WG IoA 36.) Dylai’r llyfrgell offer fod yn hygyrch i dyfwyr yn Gogledd Powys.

Testun llawn y rhybydd

HYSBYSIAD O GONTRACT - CENEDLAETHOL

SERVICES

1 Manylion yr Awdurdod

1.1

Enw a Chyfeiriad yr Awdurdod


Social Farms & Gardens

Top Floor, 9 Broad Street,

Newtown

SY16 2LU

UK

Alison Sheffield

+44 7752542853

alison@farmgarden.org.uk

https://www.farmgarden.org.uk
www.sell2wales.gov.wales

1.2

Cyfeiriad ar gyfer cael dogfennaeth


Social Farms & Gardens

Top Floor, 9 Broad Street,

Newtown

SY16 2LU

UK

Alison Sheffield

+44 7752542853

alison@farmgarden.org.uk

https://www.farmgarden.org.uk

1.3

Mae'n rhaid dychwelyd dogfennau wedi'u cwblhau at:

Fel yn I.1

2 Manylion y Contract

2.1

Teitl

Leasehire Equipment for Growers Powys

2.2

Disgrifiad o'r nwyddau neu'r gwasanaethau sydd eu hangen

CYFLWYNIAD I A CHEFNDIR Y PROSIECT

Nod Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol, y Rhwydwaith Bwyd Agored, Cultivate, Cymdeithas Ymddiriedolaethau Datblygu Cymru a Foothold Cymru, trwy weithio mewn partneriaeth yw dangos y GALL y sector cyhoeddus gaffael yn effeithlon gan gynhyrchwyr lleol trwy ddefnyddio dulliau sydd o fudd i’r amgylchedd lleol a ffyniant lleol.

Trwy gydweithio gyda Swyddogion Lleoedd Bwyd Cynaliadwy Gogledd Powys a Sir Gâr, mae dau Hyb Caffael yn prynu gan dyfwyr bach lleol, gan gydgrynhoi’r cyflenwad ac yn darparu cynnyrch ar gyfer y sector cyhoeddus sy’n bodloni (neu’n rhagori ar) gofynion o safbwynt hwylustod, cost a chynaliadwyedd.

CEFNOGI TYFWYR

Nod y prosiect yw:

• Creu swyddi newydd yn yr economi lleol.

• Uwchsgilio tyfwyr

• Darparu marchnadoedd cyson ar gyfer tyfwyr a chynhyrchwyr garddwriaeth presennol.

• Darparu hyfforddiant mewn arferion ffermio amaethecolegol yn ogystal â chefnogi mentrau.

• Cynyddu capasiti tyfwyr i fodloni galw cynyddol gan y cyhoedd yn Gogledd Powys.

Bydd y prosiect peilot hwn yn wely prawf ar gyfer tyfwyr, Hybiau a chaffaelwyr y dyfodol. Bydd yn paratoi busnesau bach gwledig yn well i ddatblygu mentrau mwy cynaliadwy a hyfyw.

Ein strategaeth hirdymor yw defnyddio’r hyn a ddysgir o’r peilot hwn i ddatblygu’r model, gan gynnwys datblygiadau technolegol, ehangu tyfwyr/cynhyrchwyr a grymuso hyrwyddwyr caffael lleol o fewn y sector cyhoeddus.

Byddwn yn buddsoddi mewn tyfwyr lleol trwy hyfforddiant, rhwydweithiau a thrwy ddarparu offer cyfalaf.

AMLINELLIAD CRYNO

Rydym yn chwilio am sefydliad unigol, sydd â’r awydd, capasiti a gwybodaeth i ddarparu offer i’w hurio ar brydles ar gyfer tyfwyr er mwyn cynyddu eu gallu i gyflenwi’r sector cyhoeddus yn Gogledd Powys ac i dyfu mewn ffyrdd sy’n fuddiol i natur.

Yn y lle cyntaf, rhoddir blaenoriaeth o ran mynediad at yr offer i gynhyrchwyr amaethecolegol bach, sy’n cyfrannu at brosiect peilot yr hyb caffael ar fwyd (hyd at 10 tyfwr). Yn y tymor hwy, hwyrach y bydd tyfwyr eraill yn gymwys i hurio offer gan y darparwr.

Ein dyhead yw cael “llyfrgell offer” a reolir yn dda, sydd ar gael i dyfwyr Gogledd Powys a’r ardal ar raddfa enwol. Gellir prydlesu offer ar sail hirdymor i dyfwyr penodol a/neu gellir cynnig trefniadau prydlesu tymor byr.

Bydd yr offer yn:

• Helpu tyfwyr i ddefnyddio dulliau mwy cyfeillgar i natur

• Helpu tyfwyr i fod yn fwy cynhyrchiol

• Helpu tyfwyr i ddatblygu a thyfu ystod cynnyrch ehangach

• Helpu tyfwyr i drin eu cynnyrch i sicrhau ei fod yn addas ar gyfer marchnad y sector cyhoeddus

• Helpu tyfwyr i gludo eu cynnyrch

Bydd gofyn i ddeiliad y contract:

• Weithio gyda’r Cydlynydd Lleoedd Bwyd Cynaliadwy a’r Hyb Caffael Bwyd i asesu anghenion blaenoriaeth tyfwyr lleol, o fewn fframwaith y prosiect hwn.

• Prynu offer gan ddilyn gofynion tendro cystadleuol a rhagweld pa mor hir bydd y “llyfrgell” yn parhau.

• Darparu cytundeb hurio ar brydles i gynnwys gwaith cynnal a chadw ar y safle. Noder: bydd Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol yn darparu templed o fframwaith cyfreithiol ar gyfer hurio ar brydles.

• Trefnu a goruchwylio cyflenwi, gosod, defnydd cychwynnol a delio gydag unrhyw broblemau sy’n codi wedyn o ran yr offer a gyflenwir.

• Cadw’r holl gofnodion ariannol angenrheidiol mewn perthynas â’r offer:

o Dyddiad prynu

o Disgrifiad o’r offer

o Pris a dalwyd (gan gynnwys TAW net adenilladwy)

o Cyfeirnodau / rhifau adnabod

o Lleoliad yr offer

o Dyddiad cael gwared ar unrhyw offer

o Gwerthu unrhyw offer heb DAW

DS - Ni chaniateir cael gwared ar unrhyw offer, na’i drosglwyddo neu ei wasgaru cyn Medi 2028 heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol (WG IoA 36.)

Dylai’r llyfrgell offer fod yn hygyrch i dyfwyr yn Gogledd Powys.

NODER: Ewch i'r Wefan yn https://www.sell2wales.gov.wales/Search/Search_Switch.aspx?ID=126348 i gofrestru eich diddordeb yn yr hysbysiad hwn a chael unrhyw wybodaeth ychwanegol.

Mae'r awdurdod dyfarnu wedi nodi y bydd yn derbyn ymatebion electronig i'r hysbysiad hwn drwy'r cyfleuster 'Blwch Postio Cyflwyno Tendrau'. Mae rhagor o fanylion am y cyfleuster hwn ar gael yn https://www.sell2wales.gov.wales/sitehelp/help_guides.aspx.

Cynghorir cyflenwyr i ganiatáu digon o amser i lanlwytho dogfennau ac anfon yr ymateb electronig ymhell cyn yr amser cau er mwyn osgoi unrhyw broblemau munud olaf.

2.3

Cod a Dosbarthiad yr Hysbysiad

16000000 Agricultural machinery
16100000 Agricultural and forestry machinery for soil preparation or cultivation
16600000 Specialist agricultural or forestry machinery
42212000 Machinery for processing cereals or dried vegetables
42215200 Food-processing machinery
1024 Powys

2.4

Cyfanswm maint neu gwmpas y tendr

Y Ffi Arfaethedig

Rydym yn bwriadu darparu’r llyfrgell am rwy £15,000. Dylai unrhyw gynnig nodi manylion gwerth am arian, yr offer sy’n debygol o gael ei ddarparu/fydd ar gael. Dylid nodi a fydd trefniadau prydlesu hirdymor neu dymor byr yn cael eu cynnig, a sut y caiff y rhain eu rheoli. Dylid nodi hefyd y trefniadau rheoli a dangos sut bydd y llyfrgell yn gynaliadwy.

3 Amodau ar gyfer Cymryd Rhan

3.1

Safonau gofynnol a'r cymhwyster sydd ei angen

Eich Hanes Blaenorol

Dylech:

- Fod yn gyfarwydd gyda thyfwyr amaethecolegol bach yn Gogledd Powys a deall eu hanghenion.

- Ymgysylltu â’ch partneriaeth Lleoedd Bwyd Cynaliadwy lleol.

- Fod yn gallu asesu anghenion tyfwyr mewn perthynas â gofynion caffael y sector cyhoeddus.

- Meddu ar brofiad o reoli “llyfrgell offer” neu brydlesu offer i ddefnyddwyr bach sy’n gweithio gyda gwirfoddolwyr efallai.

- Meddu ar wybodaeth ynghylch gosod a defnyddio ystod o offer cynhyrchu a ddefnyddir gan dyfwyr bach.

- Bod yn gallu cael mynediad at dyfwyr yn Gogledd Powys a gallu cludo offer a all fod yn fawr.

4 Gwybodaeth Weinyddol

4.1

Math o Weithdrefn

Un cam

4.2

Rhif cyfeirnod a roddwyd i'r hysbysiad gan yr awdurdod contractio

Growers Powys

4.3

Terfynau Amser



Terfyn amser ar gyfer derbyn tendrau wedi'u cwblhau
     29 - 11 - 2022  Amser   12:00

Dyddiad dyfarnu amcangyfrifedig   07 - 12 - 2022

4.5

Yr iaith neu'r ieithoedd y gellir ei/eu defnyddio i lunio tendrau neu geisiadau i gymryd rhan

EN   CY  

4.6

Blwch Postio Cyflwyno Tendrau

Mae'r awdurdod dyfarnu wedi nodi y bydd yn derbyn ymatebion electronig i'r hysbysiad hwn drwy'r Blwch Postio Cyflwyno Tendrau. Mae rhagor o fanylion ar gael yn https://www.sell2wales.gov.wales/sitehelp/help_guides.aspx

5 Gwybodaeth Arall

5.1

Gwybodaeth Ychwanegol

Camau Nesaf

Dylid cyflwyno tendrau trwy GwerthwchiGymru neu’n uniongyrchol trwy’r cyfeiriad ebost isod, erbyn y dyddiadau a nodir. Dylid nodi manylion llawn y costau (gan gynnwys a yw TAW yn berthnasol ai peidio) a dylid egluro sut mae eich hanes blaenorol yn dystiolaeth y gallwch fodloni gofynion y contract hwn.

Asesu Tendrau

Bydd panel o staff Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol ac aelod(au) Grŵp Llywio PFH yn asesu’r tendrau. Seilir asesiad o’r tendrau ar eu gallu i ddiwallu’r meini prawf a nodwyd, ac a ydynt yn cynnig gwerth am arian.

GWYBODAETH BELLACH

Alison Sheffield, Cydlynydd y Prosiect, Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol

alison@farmgarden.org.uk, 07752 542 853

Mae’r hysbysiad hwn wedi ei anfon fel hysbysiad ar gyfer rhanbarth penodol. Os na gawsoch rybudd, nid ydych yn y rhanbarth benodol a ddewiswyd gan y prynwr. Dylid cysylltu â’r prynwr os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch cyfyngu’r rhybudd i ranbarth penodol.

(WA Ref:126348)

Mae'n ymwneud â'r prosiect/rhaglen ganlynol a ariennir gan Gronfeydd Cymunedol yr UE: Relates to the following project/programme financed by EU Community Funds: Rural Development Fund. CSCDS Innovative Approaches and Collaborative Growing.

5.2

Dogfennaeth Ychwanegol

5.3

Dyddiad cyhoeddi'r hysbysiad hwn

  08 - 11 - 2022

Codio

Categorïau nwyddau

ID Teitl Prif gategori
16600000 Cynwysyddion symudol at ddibenion arbennig Peiriannau amaethyddol
16000000 Peiriannau amaethyddol Technoleg ac Offer
16100000 Peiriannau amaethyddol a choedwigaeth ar gyfer paratoi neu drin pridd Peiriannau amaethyddol
42212000 Peiriannau ar gyfer prosesu grawnfwydydd neu lysiau sych Peiriannau prosesu bwyd, diodydd a thybaco
42215200 Peiriannau prosesu bwyd Peiriannau ar gyfer paratoi neu weithgynhyrchu bwyd neu ddiod yn ddiwydiannol

Lleoliadau Dosbarthu

ID Disgrifiad
1024 Powys

Cyfyngiadau Rhanbarthol ar y Rhybuddion

Mae’r prynwr wedi cyfyngu’r rhybuddion ar gyfer yr hysbysiad hwn i gyflenwyr yn y rhanbarthau canlynol.

ID Disgrifiad
8 Powys

Ynglŷn â'r prynwr

Prif gyswllt:
alison@farmgarden.org.uk
Cyswllt gweinyddol:
alison@farmgarden.org.uk
Cyswllt technegol:
N/a
Cyswllt arall:
N/a

Gwybodaeth bellach

Dyddiad Manylion
Nid oes unrhyw wybodaeth bellach wedi'i lanlwytho.

Blwch Post

Mae'r awdurdod dyfarnu wedi nodi y bydd yn derbyn ymatebion electronig i'r hysbysiad hwn drwy'r Blwch Postio Cyflwyno Tendrau.

Cyflwyno eich ymateb i'r tendr yn electronig mewn amgylchedd diogel.

Er mwyn creu ymateb electronig, cliciwch ar y botwm "Ychwanegu at fy rhestr Diddordeb" ar frig y dudalen.

Am ragor o wybodaeth am y Blwch Postio, darllenwch y canllaw i ddefnyddwyr:

Cwestiynau ac Atebion

Gofyn unrhyw gwestiynau y gall fod gennych ynghylch yr hysbysiad hwn i'r prynwr. Er mwyn gofyn cwestiwn neu gwestiynau i'r prynwr cliciwch ar y botwm "Gweld Cwestiynau ac Atebion".

Dogfennau Ychwanegol

Mae'r dogfennau ychwanegol canlynol wedi'u hatodi i'r hysbysiad hwn. I gael y dogfennau hyn, dewiswch enwau'r ffeiliau unigol isod.

Dogfennau cyfredol

docx
docx681.10 KB
Gofyn am fformat gwahanol.
docx
docx685.01 KB
Gofyn am fformat gwahanol.

Dogfennau wedi'u disodli

Nid oes unrhyw fersiynau blaenorol o'r dogfennau hyn


0800 222 9004

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.

We welcome calls in Welsh.