Skip to main content

Rydym wedi cadw rhai ffeiliau o'r enw cwcis ar eich dyfais. Y cwcis hyn yw:

  • Hanfodol ar gyfer y safle i weithio
  • Helpu i wella ein gwefan drwy gasglu ac adrodd gwybodaeth am sut rydych chi'n ei defnyddio

Hoffem hefyd arbed rhai cwcis i helpu i deilwra cyfathrebu.

BETA
Rydych yn edrych ar fersiwn wedi'i ddiweddaru o'r gwasanaeth hwn - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hysbysiad o Gontract

Measuring Carbon Impact - Food Hubs

  • Cyhoeddwyd gyntaf: 08 Tachwedd 2022
  • Wedi'i addasu ddiwethaf: 08 Tachwedd 2022

Cynnwys

Crynodeb

OCID:
ocds-kuma6s-126350
Cyhoeddwyd gan:
Social Farms and Gardens
ID Awudurdod:
AA78256
Dyddiad cyhoeddi:
08 Tachwedd 2022
Dyddiad Cau:
07 Rhagfyr 2022
Math o hysbysiad:
Hysbysiad o Gontract
Mae ganddo ddogfennau:
Yndi
Wedi SPD:
Nac Ydi
Mae ganddo gynllun lleihau carbon:
AMH

Crynodeb

Caffael Bwyd Cynaliadwy er Ffyniant Lleol MESUR A DANGOS POTENSIAL BUDDION O RAN CARBON MEWN PERTHYNAS Â DEFNYDDIO HYBIAU BWYD LLEOL I GYFLENWI LLEOLIADAU SECTOR CYHOEDDUS CYFLWYNIAD I A CHEFNDIR Y PROSIECT Nod Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol, y Rhwydwaith Bwyd Agored, Cultivate, Cymdeithas Ymddiriedolaethau Datblygu Cymru a Foothold Cymru, trwy weithio mewn partneriaeth yw dangos y GALL y sector cyhoeddus gaffael yn effeithlon gan gynhyrchwyr lleol trwy ddefnyddio dulliau sydd o fudd i’r amgylchedd lleol a ffyniant lleol. Trwy gydweithio gyda Swyddogion Lleoedd Bwyd Cynaliadwy Gogledd Powys a Sir Gâr, mae dau Hyb Caffael yn prynu gan dyfwyr bach lleol, gan gydgrynhoi’r cyflenwad ac yn darparu cynnyrch ar gyfer y sector cyhoeddus sy’n bodloni (neu’n rhagori ar) gofynion o safbwynt hwylustod, cost a chynaliadwyedd. DANGOS BUDD Nod y prosiect yw: • Darparu data sy’n dangos effaith ehangach i awdurdodau lleol a chyrff sector cyhoeddus eraill o brynu gan dyfwyr lleol. • Darparu data sy’n dangos effaith ehangach i awdurdodau lleol a chyrff sector cyhoeddus eraill o brynu gan dyfwyr sy’n defnyddio dulliau amaethecolegol. • Darparu data sy’n dangos y gwerth ehangach i awdurdodau lleol a chyrff sector cyhoeddus eraill o ddefnyddio model hyb bwyd lleol. Rydym wedi comisiynu dau ymgynghorydd i gofnodi data mewn perthynas â: - Dwysedd maetholion cynnyrch lleol (a dyfir mewn dull amaethecolegol). - Cynaliadwyedd effaith hybiau caffael bwyd lleol, a leolir yn y gymuned sy’n cael eu hasesu ar sail fframwaith DLlCD . Mae darn olaf o ddata yr hoffem ei gofnodi yn ymwneud ag effaith y model o safbwynt carbon. Yn ogystal, rydym wedi comisiynu Partneriaeth BRO i werthuso’r prosiect a byddwn yn cynnwys y dystiolaeth a ddarperir gan y contractwr sy’n asesu effaith o safbwynt carbon yn yr adroddiad gwerthuso terfynol. AMLINELLIAD CRYNO Oherwydd maint sampl bach y prosiect peilot hwn, a’r amserlenni tynn sy’n berthnasol, nid ydym yn rhagweld casglu data cadarn i’w ddefnyddio i brofi effaith eang y model hwn. Er hynny, anelir ein gweithgaredd casglu data at gynyddu ymwybyddiaeth a gwybodaeth am dyfwyr, cwsmeriaid sector cyhoeddus a’r hyb ei hun i adnabod gwelliannau o ran arferion a thechnegau monitro syml i gofnodi data’n barhaus. Caiff yr holl ddata ei integreiddio i blatfform y Rhwydwaith Bwyd Agored (OFN) er mwyn i gwsmeriaid sector cyhoeddus weld gwerth ychwanegol y cynnyrch maent yn eu prynu. Dylid defnyddio’r holl ddata a gesglir i ddangos sut gall y model hwn helpu cyrff sector cyhoeddus yn Sir Gâr a Gogledd Powys i wireddu eu nodau mewn perthynas â charbon, bioamrywiaeth, iechyd a’r economi lleol. Ein strategaeth hirdymor yw defnyddio’r hyn a ddysgir o’r prosiect peilot hwn i ddatblygu’r model, gan gynnwys datblygiadau technolegol, ehangu tyfwyr/cynhyrchwyr, a grymuso hyrwyddwyr caffael lleol o fewn y sector cyhoeddus. Bydd gofyn i’r contractwr: • Weithio gyda thyfwyr sy’n rhan o’r prosiect peilot yn Sir Gâr a Gogledd Powys. • Deall blaenoriaethau’r sector cyhoeddus (gan gynnwys awdurdodau lleol, byrddau iechyd, byrddau gwasanaethau cyhoeddus a Llywodraeth Cymru) o ran bodloni targedau carbon. • Darparu hyfforddiant i’r sefydliadau amrywiol sy’n rhan o’r peilot ar sut i fesur effaith ar garbon. • Cefnogi tri thyfwr ym mhob ardal i fesur eu heffaith ar garbon. • Darparu cyngor ac arweiniad i dyfwyr ynghylch sut i leihau eu heffaith ar garbon. • Coladu a dehongli data mewn fformat defnyddiol er mwyn o Ei integreiddio i blatfform yr OFN, ac i o Gael ei ddefnyddio gan gyrff sector cyhoeddus i ddangos sut gall y model hwn helpu bodloni eu targedau o Ei integreiddio i werthusiad o’r prosiect peilot Yn ogystal, hwyrach y bydd y contractwr yn gallu: • Rhannu technegau ac arbenigedd o ran mesur effaith amgylcheddol ehangach megis bioamrywiaeth. • Rhannu data gwaelodlin i’w ddefnyddio i ddangos effaith dulliau tyfu amgen a gweithio’n lleol.

Testun llawn y rhybydd

HYSBYSIAD O GONTRACT - CENEDLAETHOL

SERVICES

1 Manylion yr Awdurdod

1.1

Enw a Chyfeiriad yr Awdurdod


Social Farms & Gardens

Top Floor, 9 Broad Street,

Newtown

SY16 2LU

UK

Alison Sheffield

+44 7752542853

alison@farmgarden.org.uk

https://www.farmgarden.org.uk
www.sell2wales.gov.wales

1.2

Cyfeiriad ar gyfer cael dogfennaeth


Social Farms & Gardens

Top Floor, 9 Broad Street,

Newtown

SY16 2LU

UK

Alison Sheffield

+44 7752542853

alison@farmgarden.org.uk

https://www.farmgarden.org.uk

1.3

Mae'n rhaid dychwelyd dogfennau wedi'u cwblhau at:

Fel yn I.1

2 Manylion y Contract

2.1

Teitl

Measuring Carbon Impact - Food Hubs

2.2

Disgrifiad o'r nwyddau neu'r gwasanaethau sydd eu hangen

Caffael Bwyd Cynaliadwy er Ffyniant Lleol

MESUR A DANGOS POTENSIAL BUDDION O RAN CARBON MEWN PERTHYNAS Â DEFNYDDIO HYBIAU BWYD LLEOL I GYFLENWI LLEOLIADAU SECTOR CYHOEDDUS

CYFLWYNIAD I A CHEFNDIR Y PROSIECT

Nod Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol, y Rhwydwaith Bwyd Agored, Cultivate, Cymdeithas Ymddiriedolaethau Datblygu Cymru a Foothold Cymru, trwy weithio mewn partneriaeth yw dangos y GALL y sector cyhoeddus gaffael yn effeithlon gan gynhyrchwyr lleol trwy ddefnyddio dulliau sydd o fudd i’r amgylchedd lleol a ffyniant lleol.

Trwy gydweithio gyda Swyddogion Lleoedd Bwyd Cynaliadwy Gogledd Powys a Sir Gâr, mae dau Hyb Caffael yn prynu gan dyfwyr bach lleol, gan gydgrynhoi’r cyflenwad ac yn darparu cynnyrch ar gyfer y sector cyhoeddus sy’n bodloni (neu’n rhagori ar) gofynion o safbwynt hwylustod, cost a chynaliadwyedd.

DANGOS BUDD

Nod y prosiect yw:

• Darparu data sy’n dangos effaith ehangach i awdurdodau lleol a chyrff sector cyhoeddus eraill o brynu gan dyfwyr lleol.

• Darparu data sy’n dangos effaith ehangach i awdurdodau lleol a chyrff sector cyhoeddus eraill o brynu gan dyfwyr sy’n defnyddio dulliau amaethecolegol.

• Darparu data sy’n dangos y gwerth ehangach i awdurdodau lleol a chyrff sector cyhoeddus eraill o ddefnyddio model hyb bwyd lleol.

Rydym wedi comisiynu dau ymgynghorydd i gofnodi data mewn perthynas â:

- Dwysedd maetholion cynnyrch lleol (a dyfir mewn dull amaethecolegol).

- Cynaliadwyedd effaith hybiau caffael bwyd lleol, a leolir yn y gymuned sy’n cael eu hasesu ar sail fframwaith DLlCD .

Mae darn olaf o ddata yr hoffem ei gofnodi yn ymwneud ag effaith y model o safbwynt carbon.

Yn ogystal, rydym wedi comisiynu Partneriaeth BRO i werthuso’r prosiect a byddwn yn cynnwys y dystiolaeth a ddarperir gan y contractwr sy’n asesu effaith o safbwynt carbon yn yr adroddiad gwerthuso terfynol.

AMLINELLIAD CRYNO

Oherwydd maint sampl bach y prosiect peilot hwn, a’r amserlenni tynn sy’n berthnasol, nid ydym yn rhagweld casglu data cadarn i’w ddefnyddio i brofi effaith eang y model hwn. Er hynny, anelir ein gweithgaredd casglu data at gynyddu ymwybyddiaeth a gwybodaeth am dyfwyr, cwsmeriaid sector cyhoeddus a’r hyb ei hun i adnabod gwelliannau o ran arferion a thechnegau monitro syml i gofnodi data’n barhaus.

Caiff yr holl ddata ei integreiddio i blatfform y Rhwydwaith Bwyd Agored (OFN) er mwyn i gwsmeriaid sector cyhoeddus weld gwerth ychwanegol y cynnyrch maent yn eu prynu.

Dylid defnyddio’r holl ddata a gesglir i ddangos sut gall y model hwn helpu cyrff sector cyhoeddus yn Sir Gâr a Gogledd Powys i wireddu eu nodau mewn perthynas â charbon, bioamrywiaeth, iechyd a’r economi lleol.

Ein strategaeth hirdymor yw defnyddio’r hyn a ddysgir o’r prosiect peilot hwn i ddatblygu’r model, gan gynnwys datblygiadau technolegol, ehangu tyfwyr/cynhyrchwyr, a grymuso hyrwyddwyr caffael lleol o fewn y sector cyhoeddus.

Bydd gofyn i’r contractwr:

• Weithio gyda thyfwyr sy’n rhan o’r prosiect peilot yn Sir Gâr a Gogledd Powys.

• Deall blaenoriaethau’r sector cyhoeddus (gan gynnwys awdurdodau lleol, byrddau iechyd, byrddau gwasanaethau cyhoeddus a Llywodraeth Cymru) o ran bodloni targedau carbon.

• Darparu hyfforddiant i’r sefydliadau amrywiol sy’n rhan o’r peilot ar sut i fesur effaith ar garbon.

• Cefnogi tri thyfwr ym mhob ardal i fesur eu heffaith ar garbon.

• Darparu cyngor ac arweiniad i dyfwyr ynghylch sut i leihau eu heffaith ar garbon.

• Coladu a dehongli data mewn fformat defnyddiol er mwyn

o Ei integreiddio i blatfform yr OFN, ac i

o Gael ei ddefnyddio gan gyrff sector cyhoeddus i ddangos sut gall y model hwn helpu bodloni eu targedau

o Ei integreiddio i werthusiad o’r prosiect peilot

Yn ogystal, hwyrach y bydd y contractwr yn gallu:

• Rhannu technegau ac arbenigedd o ran mesur effaith amgylcheddol ehangach megis bioamrywiaeth.

• Rhannu data gwaelodlin i’w ddefnyddio i ddangos effaith dulliau tyfu amgen a gweithio’n lleol.

NODER: Ewch i'r Wefan yn https://www.sell2wales.gov.wales/Search/Search_Switch.aspx?ID=126352 i gofrestru eich diddordeb yn yr hysbysiad hwn a chael unrhyw wybodaeth ychwanegol.

Mae'r awdurdod dyfarnu wedi nodi y bydd yn derbyn ymatebion electronig i'r hysbysiad hwn drwy'r cyfleuster 'Blwch Postio Cyflwyno Tendrau'. Mae rhagor o fanylion am y cyfleuster hwn ar gael yn https://www.sell2wales.gov.wales/sitehelp/help_guides.aspx.

Cynghorir cyflenwyr i ganiatáu digon o amser i lanlwytho dogfennau ac anfon yr ymateb electronig ymhell cyn yr amser cau er mwyn osgoi unrhyw broblemau munud olaf.

2.3

Cod a Dosbarthiad yr Hysbysiad

90711000 Environmental impact assessment other than for construction
1014 De-orllewin Cymru (Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro, Ceredigion)
1024 Powys

2.4

Cyfanswm maint neu gwmpas y tendr

Y Ffi Arfaethedig

Mae gennym gyllideb o £10,000, gan gynnwys TAW, i gyflawni’r darn gwaith hwn.

Cyflwyno tystiolaeth derfynol: Dydd Gwener 19eg Mai 2023

3 Amodau ar gyfer Cymryd Rhan

3.1

Safonau gofynnol a'r cymhwyster sydd ei angen

Eich Hanes Blaenorol

Dylech:

- Ddeall byd tyfwyr amaethecolegol bach yng Nghymru.

- Meddu ar hanes blaenorol mewn mesur effaith ar garbon.

- Meddu ar ddealltwriaeth dda o dargedau a deddfwriaeth sector cyhoeddus perthnasol.

- Fod yn barod i weithio gyda phartneriaid o’r sector cymunedol.

- Meddu ar hanes blaenorol o ddarparu hyfforddiant mewn mesur a lleihau carbon.

4 Gwybodaeth Weinyddol

4.1

Math o Weithdrefn

Un cam

4.2

Rhif cyfeirnod a roddwyd i'r hysbysiad gan yr awdurdod contractio

PFH Carbon

4.3

Terfynau Amser



Terfyn amser ar gyfer derbyn tendrau wedi'u cwblhau
     07 - 12 - 2022  Amser   12:00

Dyddiad dyfarnu amcangyfrifedig   16 - 12 - 2022

4.5

Yr iaith neu'r ieithoedd y gellir ei/eu defnyddio i lunio tendrau neu geisiadau i gymryd rhan

EN   CY  

4.6

Blwch Postio Cyflwyno Tendrau

Mae'r awdurdod dyfarnu wedi nodi y bydd yn derbyn ymatebion electronig i'r hysbysiad hwn drwy'r Blwch Postio Cyflwyno Tendrau. Mae rhagor o fanylion ar gael yn https://www.sell2wales.gov.wales/sitehelp/help_guides.aspx

5 Gwybodaeth Arall

5.1

Gwybodaeth Ychwanegol

Camau Nesaf

Dylid cyflwyno tendrau trwy GwerthwchiGymru neu’n uniongyrchol trwy’r cyfeiriad ebost isod, erbyn y dyddiadau a nodir. Dylid nodi manylion llawn y costau (gan gynnwys a yw TAW yn berthnasol ai peidio) a dylid egluro sut mae eich hanes blaenorol yn dystiolaeth y gallwch fodloni gofynion y contract hwn.

Dylai cynigion gynnwys atodlen arfaethedig o weithgareddau, gan gynnwys mesur, gweithdai ac adrodd.

Asesu Tendrau

Bydd panel o staff Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol ac aelod(au) Grŵp Llywio PFH yn asesu’r tendrau. Seilir asesiad o’r tendrau ar eu gallu i ddiwallu’r meini prawf a nodwyd, ac a ydynt yn cynnig gwerth am arian.

GWYBODAETH BELLACH

Alison Sheffield, Cydlynydd y Prosiect, Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol

alison@farmgarden.org.uk, 07752 542 853

(WA Ref:126352)

Mae'n ymwneud â'r prosiect/rhaglen ganlynol a ariennir gan Gronfeydd Cymunedol yr UE: RDP - Collaborative Growing and Innovative Approaches.

Mae'r prynwr yn ystyried bod y contract hwn yn addas ar gyfer ceisiadau consortia.

5.2

Dogfennaeth Ychwanegol

5.3

Dyddiad cyhoeddi'r hysbysiad hwn

  08 - 11 - 2022

Codio

Categorïau nwyddau

ID Teitl Prif gategori
90711000 Asesu effeithiau amgylcheddol heblaw ar gyfer adeiladu Rheoli amgylcheddol

Lleoliadau Dosbarthu

ID Disgrifiad
1014 De-orllewin Cymru (Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro, Ceredigion)
1024 Powys

Cyfyngiadau Rhanbarthol ar y Rhybuddion

Mae’r prynwr wedi cyfyngu’r rhybuddion ar gyfer yr hysbysiad hwn i gyflenwyr yn y rhanbarthau canlynol.

ID Disgrifiad
Nid oes cyfyngiadau ar y rhybuddion ar gyfer yr hysbysiad hwn.

Ynglŷn â'r prynwr

Prif gyswllt:
alison@farmgarden.org.uk
Cyswllt gweinyddol:
alison@farmgarden.org.uk
Cyswllt technegol:
N/a
Cyswllt arall:
N/a

Gwybodaeth bellach

Dyddiad Manylion
Nid oes unrhyw wybodaeth bellach wedi'i lanlwytho.

Blwch Post

Mae'r awdurdod dyfarnu wedi nodi y bydd yn derbyn ymatebion electronig i'r hysbysiad hwn drwy'r Blwch Postio Cyflwyno Tendrau.

Cyflwyno eich ymateb i'r tendr yn electronig mewn amgylchedd diogel.

Er mwyn creu ymateb electronig, cliciwch ar y botwm "Ychwanegu at fy rhestr Diddordeb" ar frig y dudalen.

Am ragor o wybodaeth am y Blwch Postio, darllenwch y canllaw i ddefnyddwyr:

Cwestiynau ac Atebion

Gofyn unrhyw gwestiynau y gall fod gennych ynghylch yr hysbysiad hwn i'r prynwr. Er mwyn gofyn cwestiwn neu gwestiynau i'r prynwr cliciwch ar y botwm "Gweld Cwestiynau ac Atebion".

Dogfennau Ychwanegol

Mae'r dogfennau ychwanegol canlynol wedi'u hatodi i'r hysbysiad hwn. I gael y dogfennau hyn, dewiswch enwau'r ffeiliau unigol isod.

Dogfennau cyfredol

docx
docx680.81 KB
Gofyn am fformat gwahanol.
docx
docx684.39 KB
Gofyn am fformat gwahanol.

Dogfennau wedi'u disodli

Nid oes unrhyw fersiynau blaenorol o'r dogfennau hyn


0800 222 9004

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.

We welcome calls in Welsh.