Skip to main content

Rydym wedi cadw rhai ffeiliau o'r enw cwcis ar eich dyfais. Y cwcis hyn yw:

  • Hanfodol ar gyfer y safle i weithio
  • Helpu i wella ein gwefan drwy gasglu ac adrodd gwybodaeth am sut rydych chi'n ei defnyddio

Hoffem hefyd arbed rhai cwcis i helpu i deilwra cyfathrebu.

BETA
Rydych yn edrych ar fersiwn wedi'i ddiweddaru o'r gwasanaeth hwn - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hysbysiad o Gontract

Community Consultant (Corsydd Calon Môn)

  • Cyhoeddwyd gyntaf: 27 Tachwedd 2024
  • Wedi'i addasu ddiwethaf: 27 Tachwedd 2024
  • Efallai na fydd y ffeil hon yn gwbl hygyrch.

  •  

Rydych yn gweld hysbysiad sydd wedi dod i ben.

Cynnwys

Crynodeb

OCID:
ocds-kuma6s-146209
Cyhoeddwyd gan:
North Wales Wildlife Trust
ID Awudurdod:
AA80047
Dyddiad cyhoeddi:
27 Tachwedd 2024
Dyddiad Cau:
06 Ionawr 2025
Math o hysbysiad:
Hysbysiad o Gontract
Mae ganddo ddogfennau:
Nac Ydi
Wedi SPD:
Nac Ydi
Mae ganddo gynllun lleihau carbon:
Yndi

Crynodeb

Cyflwyniad: Mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, fel partner arweiniol Partneriaeth Corsydd Calon Môn (CCM), yn chwilio am Ymgynghorydd Ymgysylltu Cymunedol ar gyfer rôl contract 12 mis yn gweithio gyda chymunedau yn ardal ein prosiect ni ar Ynys Môn. Mae’r rôl hon yn rhan o gyfnod datblygu 2 flynedd y prosiect a bydd yn helpu fel sail i’r cyfnod cyflawni. Cefndir y prosiect: Mae Ynys Môn yn gartref i'r ail gorsdir mwyaf yn y DU. Mae’r cynefinoedd unigryw a phrin yma’n storio hyd at wyth gwaith yn fwy o garbon na choedwig law o’r un maint, gan chwarae rhan hanfodol wrth frwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd. Ond mae dyfodol y llecynnau arbennig yma a’r dreftadaeth ddiwylliannol sydd ganddynt mewn perygl. Mae llawer o’r cysylltiadau rhwng Corsydd Môn a’u cymunedau lleol (e.e. ar gyfer pori, dŵr a gwellt) wedi cael eu torri yn ystod y ganrif ddiwethaf. Gyda llai o bobl yn eu defnyddio o sectorau llai cynrychioliadol o gymdeithas, mae’r ymdeimlad o’u ‘gwerth’ wedi lleihau. Bydd Corsydd Calon Môn (CCM) yn gweithio gyda’r cymunedau lleol i’r corsydd i edrych ar eu hanghenion a’u dyheadau, treialu a gwerthuso gwaith sy’n cefnogi byd natur a chymunedau, a chreu cynllun datblygu cynulleidfa. Bydd hyn yn dangos sut gall grŵp mwy amrywiol o bobl gymryd camau ystyrlon i gefnogi safleoedd y corsydd a'r cymunedau cyfagos. Themâu allweddol y prosiect? Gweithio gyda ffermwyr, perchnogion tir, grwpiau treftadaeth, ysgolion a chymunedau lleol i gyflawni’r canlynol: • codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd y corsydd i bobl ac i fyd natur. • cefnogi ffermydd lleol gydag arferion cynaliadwy sy'n meithrin gwytnwch ac yn gwarchod tir a bywoliaeth ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. • archwilio a chofnodi treftadaeth y corsydd, gan ddathlu'r diwylliant a'r hanes sydd wedi'u gwreiddio yn y dirwedd. • gwella cyflwr cynefinoedd presennol y corsdir a chreu cysylltiadau cryfach rhyngddynt ar gyfer ecosystemau gwytnach. • gwneud y safleoedd yn fwy hygyrch fel bod mwy o bobl yn gallu eu profi a'u mwynhau. • darparu cyfleoedd ar gyfer gwirfoddoli, hyfforddiant sgiliau, a gweithgareddau lles cymunedol. Pwy sy'n cymryd rhan? Mae Corsydd Calon Môn yn bartneriaeth rhwng Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, Dŵr Cymru, Undeb Amaethwyr Cymru, Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr Cymru, Menter Môn a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Sut mae'r prosiect yn cael ei gyllido? Mae prosiect Corsydd Calon Môn yn cael ei gyllido diolch i chwaraewyr y loteri drwy Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, gydag arian ychwanegol i gefnogi’r prosiect gan Sefydliad Esmée Fairbairn.

Testun llawn y rhybydd

HYSBYSIAD O GONTRACT - CENEDLAETHOL

SERVICES

1 Manylion yr Awdurdod

1.1

Enw a Chyfeiriad yr Awdurdod


North Wales Wildlife Trust

Corsydd Calon Môn, Llys Garth, Bangor,

Bangor

LL57 2RT

UK

Neil Dunsire

+44 1248351541

neildunsire@nwwt.org.uk

http://www.northwaleswildlifetrust.org.uk
http://www.sell2wales.gov.wales
http://www.sell2wales.gov.wales

1.2

Cyfeiriad ar gyfer cael dogfennaeth


North Wales Wildlife Trust

Corsydd Calon Môn, Llys Garth, Bangor,

Bangor

LL57 2RT

UK

Neil Dunsire

+44 1248351541

neildunsire@nwwt.org.uk

http://www.northwaleswildlifetrust.org.uk

1.3

Mae'n rhaid dychwelyd dogfennau wedi'u cwblhau at:


North Wales Wildlife Trust

Corsydd Calon Môn, Llys Garth, Bangor,

Bangor

LL57 2RT

UK

Neil Dunsire

+44 1248351541

neildunsire@nwwt.org.uk

http://www.northwaleswildlifetrust.org.uk

2 Manylion y Contract

2.1

Teitl

Community Consultant (Corsydd Calon Môn)

2.2

Disgrifiad o'r nwyddau neu'r gwasanaethau sydd eu hangen

Cyflwyniad:

Mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, fel partner arweiniol Partneriaeth Corsydd Calon Môn (CCM), yn chwilio am Ymgynghorydd Ymgysylltu Cymunedol ar gyfer rôl contract 12 mis yn gweithio gyda chymunedau yn ardal ein prosiect ni ar Ynys Môn. Mae’r rôl hon yn rhan o gyfnod datblygu 2 flynedd y prosiect a bydd yn helpu fel sail i’r cyfnod cyflawni.

Cefndir y prosiect:

Mae Ynys Môn yn gartref i'r ail gorsdir mwyaf yn y DU. Mae’r cynefinoedd unigryw a phrin yma’n storio hyd at wyth gwaith yn fwy o garbon na choedwig law o’r un maint, gan chwarae rhan hanfodol wrth frwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd. Ond mae dyfodol y llecynnau arbennig yma a’r dreftadaeth ddiwylliannol sydd ganddynt mewn perygl.

Mae llawer o’r cysylltiadau rhwng Corsydd Môn a’u cymunedau lleol (e.e. ar gyfer pori, dŵr a gwellt) wedi cael eu torri yn ystod y ganrif ddiwethaf. Gyda llai o bobl yn eu defnyddio o sectorau llai cynrychioliadol o gymdeithas, mae’r ymdeimlad o’u ‘gwerth’ wedi lleihau.

Bydd Corsydd Calon Môn (CCM) yn gweithio gyda’r cymunedau lleol i’r corsydd i edrych ar eu hanghenion a’u dyheadau, treialu a gwerthuso gwaith sy’n cefnogi byd natur a chymunedau, a chreu cynllun datblygu cynulleidfa. Bydd hyn yn dangos sut gall grŵp mwy amrywiol o bobl gymryd camau ystyrlon i gefnogi safleoedd y corsydd a'r cymunedau cyfagos.

Themâu allweddol y prosiect?

Gweithio gyda ffermwyr, perchnogion tir, grwpiau treftadaeth, ysgolion a chymunedau lleol i gyflawni’r canlynol:

• codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd y corsydd i bobl ac i fyd natur.

• cefnogi ffermydd lleol gydag arferion cynaliadwy sy'n meithrin gwytnwch ac yn gwarchod tir a bywoliaeth ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

• archwilio a chofnodi treftadaeth y corsydd, gan ddathlu'r diwylliant a'r hanes sydd wedi'u gwreiddio yn y dirwedd.

• gwella cyflwr cynefinoedd presennol y corsdir a chreu cysylltiadau cryfach rhyngddynt ar gyfer ecosystemau gwytnach.

• gwneud y safleoedd yn fwy hygyrch fel bod mwy o bobl yn gallu eu profi a'u mwynhau.

• darparu cyfleoedd ar gyfer gwirfoddoli, hyfforddiant sgiliau, a gweithgareddau lles cymunedol.

Pwy sy'n cymryd rhan?

Mae Corsydd Calon Môn yn bartneriaeth rhwng Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, Dŵr Cymru, Undeb Amaethwyr Cymru, Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr Cymru, Menter Môn a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Sut mae'r prosiect yn cael ei gyllido?

Mae prosiect Corsydd Calon Môn yn cael ei gyllido diolch i chwaraewyr y loteri drwy Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, gydag arian ychwanegol i gefnogi’r prosiect gan Sefydliad Esmée Fairbairn.

NODER: Ewch i'r Wefan yn https://www.sell2wales.gov.wales/Search/Search_Switch.aspx?ID=146232 i gofrestru eich diddordeb yn yr hysbysiad hwn a chael unrhyw wybodaeth ychwanegol.

Mae'r awdurdod dyfarnu wedi nodi y bydd yn derbyn ymatebion electronig i'r hysbysiad hwn drwy'r cyfleuster 'Blwch Postio Cyflwyno Tendrau'. Mae rhagor o fanylion am y cyfleuster hwn ar gael yn https://www.sell2wales.gov.wales/sitehelp/help_guides.aspx.

Cynghorir cyflenwyr i ganiatáu digon o amser i lanlwytho dogfennau ac anfon yr ymateb electronig ymhell cyn yr amser cau er mwyn osgoi unrhyw broblemau munud olaf.

2.3

Cod a Dosbarthiad yr Hysbysiad

73000000 Gwasanaethau ymchwil a datblygu a gwasanaethau ymgynghori cysylltiedig
98000000 Gwasanaethau cymunedol, cymdeithasol a phersonol eraill
1011 Ynys Môn

2.4

Cyfanswm maint neu gwmpas y tendr

Llinell Amser: Rydym yn edrych ar weithio gydag Ymgynghorydd Ymgysylltu Cymunedol rhwng mis Chwefror 2025 a mis Mehefin 2026 gyda mwyafrif y cyflawni’n digwydd yn ystod y 9 mis cyntaf (Chwefror - Hydref 25).

Cyllideb: Uchafswm y dyraniad cyllid ar gyfer y contract hwn yw: £12,000 gan gynnwys TAW. Bydd hyn yn cynnwys eich amser chi ac unrhyw gostau teithio sy'n gysylltiedig â'r rôl. Bydd cyllideb ychwanegol gan y prosiect ar gyfer cynnal digwyddiadau ac ati.

Nodau / Cwmpas y gwaith:

• Ymgynghori â chymunedau gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau arloesol a chreadigol

• Mapio rhanddeiliaid

• Gwneud gwaith mapio asedau hynod leol

• Cysylltu â grwpiau a sefydliadau cymunedol

• Helpu i ddathlu treftadaeth ac arwyddocâd y safle

• Gweithio ochr yn ochr â thîm cyflawni CCM a gwerthuswr y prosiect

• Darparu diweddariadau rheolaidd i gefnogi datblygiad prosiect ehangach ac ysgrifennu ceisiadau

• Cyfrannu at gynhyrchu cynllun datblygu cynulleidfa manwl erbyn mis Ionawr 2026 gan gynnwys cynigion ymgysylltu ar gyfer cyfnod cyflawni’r prosiect

Adnoddau:

Byddwch yn gweithio ochr yn ochr â Thîm presennol CCM, sy'n cynnwys Rheolwr Prosiect, Gweinyddydd, Swyddog Cyswllt Ffermydd a Gwerthuswr Prosiect annibynnol.

Mae gan grŵp llywio Partneriaeth CCM gynrychiolaeth dda o'r holl bartneriaid ac mae'n cynnwys 4 gweithgor (Ffermio a Pherchnogion Tir, Cymuned a Threftadaeth, Arbenigwyr Technegol, a Mynediad ac Isadeiledd). Felly mae rhwydwaith cadarn yn ei le i helpu gyda datrys problemau, canfasio, rhannu gwybodaeth, ac ati.

Mae'r prosiect yn datblygu adnoddau hyrwyddo ac mae ganddo gyllideb ar gyfer ymgysylltu cymunedol a digwyddiadau a fydd yn cynnwys y celfyddydau, sesiynau blasu, gwyddoniaeth y dinesydd ac ymgysylltu â gwirfoddolwyr.

Cynulleidfa:

Cynulleidfaoedd allweddol y prosiect yw'r bobl a'r cymunedau o amgylch y safleoedd corsdir allweddol. Mae map sy’n dangos ardal y prosiect ar ein tudalen we ni yma:

https://www.northwaleswildlifetrust.org.uk/what-we-do-landing-page/wildlife-conservation/living-landscapes/corsydd-calon-mon

Mae'r prosiect yn ceisio gweithio gyda chynghorau cymuned, grwpiau treftadaeth ac ysgolion ac ati ac, o fewn hynny, hoffai ganolbwyntio'n benodol ar gefnogi pobl sy’n wynebu rhwystrau ychwanegol efallai sy’n eu hatal rhag cymryd rhan neu leisio eu barn. Felly gall ein cynulleidfa darged gynnwys y canlynol:

• Plant 0 i 11 oed (gan gynnwys gofalwyr ifanc)

• Pobl ifanc 12 i 18 oed (gan gynnwys NEET a gofalwyr ifanc)

• Pobl ag anableddau

• Pobl sy'n profi iechyd meddwl a chorfforol gwael

• Pobl hŷn

• Siaradwyr Cymraeg

• Pobl sy'n byw mewn tlodi

• Ffoaduriaid

• Pobl sy'n profi unigedd ac a all fod yn ddihyder

• Pobl sy'n profi lefelau isel o les a hunan-effeithiolrwydd

• Trigolion y gymuned o bob oed

• Ffermwyr a theuluoedd fferm

• Asiantaethau a sefydliadau sy'n gweithio gyda chymunedau

• Grwpiau cymunedol, yn enwedig grwpiau diddordeb arbennig a'r rhai sy'n gweithio gyda gwirfoddolwyr

• Busnesau, gan gynnwys twristiaeth, amgylcheddol, y celfyddydau ac addysg

• Ymchwilwyr academaidd ac arbenigol

• Twristiaid

• Ysgolion

I wneud cais:

Drwy flwch post GwerthwchiGymru, uwchlwythwch CV neu CVs cyfredol, neu grynodeb o’r sefydliad ynghyd â 3 enghraifft berthnasol o brosiectau ymgysylltu cymunedol ymgynghorol rydych chi wedi’u cyflawni, gan grynhoi amcanion y prosiect, eich rôl, y gweithgareddau a gyflwynwyd gennych chi a’r canlyniadau. Gwnewch yn siŵr nad yw eich cyflwyniad chi’n fwy na 4 tudalen o hyd. Efallai y byddwn yn gofyn am fanylion cyswllt dau ganolwr felly gwnewch yn siŵr eich bod yn hapus gyda hynny ac yn gallu darparu'r rhain os oes angen.

SYLWER: I gofrestru eich diddordeb yn yr hysbysiad hwn a chael unrhyw wybodaeth ychwanegol, ewch i Wefan GwerthwchiGymru yn https://www.sell2wales.gov.wales/Search/Search_Switch.aspx?ID=142076.

Mae'r prynwr wedi nodi y bydd yn derbyn ymatebion electronig i'r hysbysiad hwn drwy'r cyfleuster Blwch Postio. Mae canllaw defnyddiwr ar gael yn https://www.sell2wales.gov.wales/sitehelp/help_guides.aspx.

Cynghorir cyflenwyr i ganiatáu digon o amser i uwchlwytho dogfennau ac i anfon yr ymateb electronig ymhell cyn yr amser cau er mwyn osgoi unrhyw broblemau munud olaf.

3 Amodau ar gyfer Cymryd Rhan

3.1

Safonau gofynnol a'r cymhwyster sydd ei angen

Sgiliau ymgysylltu cymunedol rhagorol a phrofiad o weithio gyda phlant a phobl ifanc mewn lleoliadau cymunedol

Sgiliau cadw cofnodion a chyflwyno prosiectau rhagorol

Profiad da o ymgynghori a chydgynhyrchu cymunedol

Gwybodaeth dda am gymunedau Ynys Môn

Gallu cyfathrebu yn y Gymraeg ac yn Saesneg yn hanfodol

Dylai’r ymgeisydd fod ag yswiriant atebolrwydd cyhoeddus hyd at o leiaf £5m

Gyda chyllid ychwanegol, byddwch yn agored i barhau i gyflawni’r prosiect os caiff ei ymestyn am 5 mlynedd arall (2026 – 2031).

4 Gwybodaeth Weinyddol

4.1

Math o Weithdrefn

Un cam

4.2

Rhif cyfeirnod a roddwyd i'r hysbysiad gan yr awdurdod contractio

N/a

4.3

Terfynau Amser



Terfyn amser ar gyfer derbyn tendrau wedi'u cwblhau
     06 - 01 - 2025  Amser   09:00

Dyddiad dyfarnu amcangyfrifedig   10 - 01 - 2025

4.5

Yr iaith neu'r ieithoedd y gellir ei/eu defnyddio i lunio tendrau neu geisiadau i gymryd rhan

EN   CY  

4.6

Blwch Postio Cyflwyno Tendrau

Mae'r awdurdod dyfarnu wedi nodi y bydd yn derbyn ymatebion electronig i'r hysbysiad hwn drwy'r Blwch Postio Cyflwyno Tendrau. Mae rhagor o fanylion ar gael yn https://www.sell2wales.gov.wales/sitehelp/help_guides.aspx

5 Gwybodaeth Arall

5.1

Gwybodaeth Ychwanegol

I wneud cais:

Drwy flwch post GwerthwchiGymru, uwchlwythwch CV neu CVs cyfredol, neu grynodeb o’r sefydliad ynghyd â 3 enghraifft berthnasol o brosiectau ymgysylltu cymunedol ymgynghorol rydych chi wedi’u cyflawni, gan grynhoi amcanion y prosiect, eich rôl, y gweithgareddau a gyflwynwyd gennych chi a’r canlyniadau. Gwnewch yn siŵr nad yw eich cyflwyniad chi’n fwy na 4 tudalen o hyd. Efallai y byddwn yn gofyn am fanylion cyswllt dau ganolwr felly gwnewch yn siŵr eich bod yn hapus gyda hynny ac yn gallu darparu'r rhain os oes angen.

SYLWER: I gofrestru eich diddordeb yn yr hysbysiad hwn a chael unrhyw wybodaeth ychwanegol, ewch i Wefan GwerthwchiGymru yn https://www.sell2wales.gov.wales/Search/Search_Switch.aspx?ID=142076.

Mae'r prynwr wedi nodi y bydd yn derbyn ymatebion electronig i'r hysbysiad hwn drwy'r cyfleuster Blwch Postio. Mae canllaw defnyddiwr ar gael yn https://www.sell2wales.gov.wales/sitehelp/help_guides.aspx.

Cynghorir cyflenwyr i ganiatáu digon o amser i uwchlwytho dogfennau ac i anfon yr ymateb electronig ymhell cyn yr amser cau er mwyn osgoi unrhyw broblemau munud olaf.

(WA Ref:146232)

Mae'r prynwr yn ystyried bod y contract hwn yn addas ar gyfer ceisiadau consortia.

5.2

Dogfennaeth Ychwanegol

5.3

Dyddiad cyhoeddi'r hysbysiad hwn

  27 - 11 - 2024

Codio

Categorïau nwyddau

ID Teitl Prif gategori
98000000 Gwasanaethau cymunedol, cymdeithasol a phersonol eraill Gwasanaethau eraill
73000000 Gwasanaethau ymchwil a datblygu a gwasanaethau ymgynghori cysylltiedig Ymchwil a Datblygu

Lleoliadau Dosbarthu

ID Disgrifiad
1011 Ynys Môn

Cyfyngiadau Rhanbarthol ar y Rhybuddion

Mae’r prynwr wedi cyfyngu’r rhybuddion ar gyfer yr hysbysiad hwn i gyflenwyr yn y rhanbarthau canlynol.

ID Disgrifiad
Nid oes cyfyngiadau ar y rhybuddion ar gyfer yr hysbysiad hwn.

Ynglŷn â'r prynwr

Prif gyswllt:
neildunsire@nwwt.org.uk
Cyswllt gweinyddol:
neildunsire@nwwt.org.uk
Cyswllt technegol:
N/a
Cyswllt arall:
neildunsire@nwwt.org.uk

Gwybodaeth bellach

Dyddiad Manylion
Nid oes unrhyw wybodaeth bellach wedi'i lanlwytho.

Blwch Post

Mae'r awdurdod dyfarnu wedi nodi y bydd yn derbyn ymatebion electronig i'r hysbysiad hwn drwy'r Blwch Postio Cyflwyno Tendrau.

Cyflwyno eich ymateb i'r tendr yn electronig mewn amgylchedd diogel.

Er mwyn creu ymateb electronig, cliciwch ar y botwm "Ychwanegu at fy rhestr Diddordeb" ar frig y dudalen.

Am ragor o wybodaeth am y Blwch Postio, darllenwch y canllaw i ddefnyddwyr:

Cwestiynau ac Atebion

Gofyn unrhyw gwestiynau y gall fod gennych ynghylch yr hysbysiad hwn i'r prynwr. Er mwyn gofyn cwestiwn neu gwestiynau i'r prynwr cliciwch ar y botwm "Gweld Cwestiynau ac Atebion".


0800 222 9004

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.

We welcome calls in Welsh.