Disgrifiad o'r nwyddau neu'r gwasanaethau sydd eu hangen
Manyleb y prosiect
I gyflawni templed cynllun Wordpress newydd ar gyfer gwefannau Archives Wales ac Archifau Cymru, ynghyd â brandio newydd, i hybu a darparu gwybodaeth ar wasanaethau archifau ledled Cymru.
Dylai’r gwefannau Archives Wales / Archifau Cymru fod yn hwb dwyieithog, deinamig ‘sy’n ‘siop un stop’ o wybodaeth, yn cynrychioli gwasanaethau archifau yng Nghymru ar lefel genedlaethol. Bydd yn rhoi mynediad i gatalog yr Hwb Archifau (o Fawrth 2027) gan alluogi defnyddwyr i chwilio adnoddau archifol o unrhyw ystorfa yng Nghymru a’r DU. Bydd y wefan yn darparu gwybodaeth ar ystod o brosiectau cydweithredol ac adnoddau, manylion cyswllt ar gyfer pob gwasanaeth, erthyglau newyddion a chanllawiau ‘sut mae gwneud’, ac ardal gaeedig ar gyfer pecyn cymorth i staff.
Gofynion
Mae cyflawni’r gofynion isod yn hanfodol:
• Templed cynllun dwyieithog sydd yn fodern a hygyrch i bob defnyddiwr ac sydd wedi’i gynllunio i’w ddefnyddio ar safleoedd cyfredol Wordpress.
• Templed fydd yn galluogi golygyddion i ddiweddaru a chynnal cynnwys y gwefan, gyda hyfforddiant wedi’i ddarparu cyn i’r wefan fynd yn fyw.
• Mudo cynnwys cyfredol penodol i’r templed newydd, ac amser neilltuedig i olygyddion ddiweddaru a chreu cynnwys newydd cyn i’r wefan newydd fynd yn fyw.
• Prototeip llwyfannu rhyngweithiol o’r cynllun i alluogi golygyddion a rhanddeiliaid i brofi cynnwys a ffwythiant cyn cyhoeddi’r wefan fyw.
• Ardal Pecyn Cymorth Staff i roi mynediad at adnoddau hyrwyddo a deunyddiau hyfforddi sydd ddim yn weladwy i’r cyhoedd.
• Gwe-lywio hwylus rhwng y gwefannau a thudalennau Cymraeg a Saesneg fel ei gilydd.
• Brandio a logo Archifau Cymru - Archives Wales newydd.
• Dyfynbris am gynnal a chadw a chefnogaeth bellach (cost yr awr)
• Pecyn hyfforddiant ar gyfer staff
• Optimeiddio Peiriannau Chwilio ar gyfer y gwefannau Cymraeg a Saesneg fel ei gilydd.
Ystyriaethau
a. Hygyrchedd
Rhaid i’r wefan gwrdd â safonau hygyrchedd a defnyddioldeb. Rhaid iddi gydweddu ar draws porwyr a dyfeisiau symudol. Mae angen felly iddi fod yn gydweddol â thechnoleg cynorthwyol e.e. darllenwyr sgrîn a chwyddwydrau, darllenwyr digidol a meddalwedd ailchwarae.
Rhaid iddi ddiwallu anghenion a galluoedd amrywiol defnyddwyr a bod yn hygyrch yn unol â Chanllawiau Hygyrchedd y We. http://www.w3.org/WAI/
Rhaid i gyrff y Sector Cyhoeddus gydymffurfio â Rheoliadau Hygyrchedd 2018 Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) a’r Ddeddf Cydraddoldeb 2010 https://www.legislation.gov.uk/uksi/2018/852/made
Rhaid i’r wefan gwrdd â safon WCAG 2.2AA a rhaid darparu datganiad hygyrchedd.
https://www.gov.wales/accessibility-standards-govwales
https://www.gov.uk/government/publications/sample-accessibility-statement
Mae angen i’r rhyngwyneb fod yn hawdd ei ddeall a’i ddefnyddio, ac mae angen i chwilio fod yn gywir ac yn rhwydd.
b. Cynllun a Gosodiad / Ergonomeg
Dylai fod gan y safle newydd gynllun modern, hawdd ei ddefnyddio, sy’n defnyddio lliwiau ac elfennau cynllun i amlygu’r gwaith a’r gwasanaethau a gynigir gan y sector archifau yng Nghymru. Mae’n hanfodol bod ymwelwyr i’r safle yn gallu cael hyd i’r wybodaeth y maen nhw eu hangen yn yr iaith ddewisol drwy we-lywio’r safle yn hawdd.
c. Gofynion iaith Gymraeg
Yn unol â Rheoliadau Safonau Iaith Gymraeg (Rhif. 7) 2018 bydd angen i’r wefan fod ar gael yn Saesneg a’r Gymraeg.
https://business.senedd.wales/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=21301
Mae’r gwefannau Cymraeg a Saesneg ar wahân ar hyn o bryd, gyda’r opsiwn i newid iaith ar y dudalen hafan yn unig, yn hytrach nag ar bob tudalen.
Bydd angen cyfnewid yn ôl parth ac iaith gyd-destunol ar gyfer cynllun y wefan newydd.
d. Prototeip
Bydd y cwmni buddugol yn darparu prototeip rhyngweithiol o’r darpar gynllun i’r golygfeydd isod:
• Prif dudalennau hafan
• Tudalennau glanio ar gyfer pob prif adran
• Pecyn cynllunio ar gyfer pob elfen o fewn tudalen
• Rhyngwyneb sydd yn ymateb i bob un o’r golygfeydd
Rydyn ni’n disgwyl bod cynllun cyntaf pob golygfa yn cael ei gyflwyno, yna cyfle i ni ofyn am newidiadau hyblyg sydd yn gyfystyr ag un ailgread o’r cais gwreiddiol, cyn cyflwyno’r prototeip terfynol. Dylid cynnwys newidiadau ychwanegol ar sail profi gan ddefnyddwyr o fewn y pris. Bydd bob cam yn cael ei gymeradwyo cyn symud ymlaen i’r cam olaf pan gaiff y cynnyrch ei gyflawni.
e. Cyfieithu a phrawf ddarllen
Gofynnwn i’r cynigydd buddugol weithio gyda ni i sicrhau bod pob testun Cymraeg yn cael ei wirio a’i brawf ddarllen cyn i’r cynnwys fynd yn fyw. Os bydd angen newidiadau o’r Saesneg i’r Gymraeg, bydd y cyfieithiadau terfynol yn cael eu penderfynu arnynt gennym ni i sicrhau cywirdeb cyn dychwelyd atoch chi i’w hychwanegu at y wefan.
NODER: Ewch i'r Wefan yn https://www.sell2wales.gov.wales/Search/Search_Switch.aspx?ID=157702 i gofrestru eich diddordeb yn yr hysbysiad hwn a chael unrhyw wybodaeth ychwanegol.
Mae'r awdurdod dyfarnu wedi nodi y bydd yn derbyn ymatebion electronig i'r hysbysiad hwn drwy'r cyfleuster 'Blwch Postio Cyflwyno Tendrau'. Mae rhagor o fanylion am y cyfleuster hwn ar gael yn https://www.sell2wales.gov.wales/sitehelp/help_guides.aspx.
Cynghorir cyflenwyr i ganiatáu digon o amser i lanlwytho dogfennau ac anfon yr ymateb electronig ymhell cyn yr amser cau er mwyn osgoi unrhyw broblemau munud olaf.
|