Disgrifiad o'r nwyddau neu'r gwasanaethau sydd eu hangen
Mae Frân Wen yn awyddus i benodi ymgynghorydd neu dîm o ymgynghorwyr gyda phrofiad helaeth o gynllunio busnes o fewn sector y celfyddydau, a datblygiadau cyfalaf yn benodol, i gydweithio â nhw i ddatblygu eu gweledigaeth ar gyfer dyfodol cynaliadwy.
Yn dilyn cwblhau Astudiaeth Dichonolrwydd llwyddiannus, mae Frân Wen yn awyddus i ddatblygu model busnes sydd yn ymgorffori ei ddatblygiad cyfalaf arfaethedig ‘Nyth’.
Ystyrir y Cynllun Busnes fel un o elfennau pwysicaf y cynllun ac mae ei lwyddiant yn allweddol i sicrhau cyflawni’r prosiect cyfalaf arfaethedig. Bydd yn gynsail i geisiadau nawdd a bydd yn sefydlu rhagolygon gwaelodlin fydd yn sefydlu model gweithredu cynaliadwy am 3 mlynedd yn dilyn cwblhau Nyth; i gynnwys rhaglennu, gweithredu o ddydd i ddydd, rheolaeth a llywodraethiant yr adeilad a Frân Wen fel cwmni theatr.
Bydd yr ymgynghorydd (wyr) yn cyflawni’r canlynol:
• Cynnal trafodaethau manwl gyda Frân Wen a’r prif randdeiliaid er mwyn cael dealltwriaeth cyflawn o’r sefydliad, ei amcanion strategol ac uchelgais ar gyfer y dyfodol gan gynnwys datblygiad arfaethedig NYTH.
• Asesiad o gryfderau, gwendidau, cyfleon a bygythiadau y cwmni.
• Asesiad o natur Frân Wen a’i ddull o weithredu a chapasiti y sefydliad i gyflawni prosiect cyfalaf sylweddol.
• Adolygu a herio’r Cynllun Busnes presennol gan werthuso perfformiad ariannol diweddar a rhagolygon ar gyfer y dyfodol.
• Adnabod yn glir y cyfleon a’r potensial o ffynonellau incwm newydd posib yn sgil y prosiect cyfalaf gan gynnwys llogi a gweithgareddau masnachol.
• Asesu cyfleon masnachol, gwerthuso rhaglenni a digwyddiadau peilot er mwyn penderfynu ar fodel busnes addas ar gyfer rhaglennu yn y dyfodol.
• Cynnwys, gwerthuso a chydlynu canlyniadau allweddol cynlluniau, prosiectau a strategaethau eraill i un achos busnes cadarn. Mae hyn yn cynnwys perthynas corfforol a strategol Frân Wen gyda datblygiadau eraill ym Mangor gan gynnwys Pontio, Storiel a’r “Ardal Ddiwylliannol” ynghyd â chynllun datblygu / adfywio y ddinas.
• Mae posibilrwydd cryf o ostyngiad mewn cyfraniadau refeniw traddodiadol gan ffynonellau allanol yn y blynyddoedd i ddod a bydd angen i’r Cynllun Busnes ddangos bod gweithrediad a rheolaeth y cwmni yn gallu gwrthsefyll hynny’n effeithiol.
• Asesiad o’r costau a’r manteision a ddaw yn sgil y prosiect cyfalaf gan gynnwys unrhyw arbedion ac arbedion effeithlonrwydd posib.
• Cydweithio gyda’r Tîm Cynllunio i brofi’r rhagdybiaethau sydd wedi eu hamlinellu yn yr astudiaeth dichonolrwydd yn arbennig mewn cysylltiad â chynnal a chadw a chostau rhedeg.
• Rhagamcaniad llif arian 5 mlynedd yn cynnwys incwm a gwariant am 2 flynedd yn ystod datblygiad ac adeiladu ynghyd â’r 3 blynedd yn dilyn cwblhau. Unwaith yn rhagor, dylid profi unrhyw rhagdybiaethau.
• Amserlen ar gyfer gwireddu’r prosiect gan gynnwys cerrig milltir allweddol a dibyniaethau.
• Sefydlu sut fydd y prosiect yn cael ei weithredu a’r effaith ar y sefydliad yn ystod y cyfnod datblygu.
• Adnabod risgiau a chyfleon a chynhyrchu Cofrestr Risg.
• Cyflwyno argymhellion a chynaliadwyedd ariannol y Cynllun Busnes.
• Datblygu, addasu a diweddaru’r Cynllun Busnes cyn unrhyw geisiadau nawdd.
NODER: Ewch i'r Wefan yn http://www.sell2wales.gov.wales/Search/Search_Switch.aspx?ID=71966 i gofrestru eich diddordeb yn yr hysbysiad hwn a chael unrhyw wybodaeth ychwanegol.
Mae'r awdurdod dyfarnu wedi nodi y bydd yn derbyn ymatebion electronig i'r hysbysiad hwn drwy'r cyfleuster 'Blwch Postio Cyflwyno Tendrau'. Mae rhagor o fanylion am y cyfleuster hwn ar gael yn http://www.sell2wales.gov.wales/sitehelp/help_guides.aspx.
Cynghorir cyflenwyr i ganiatáu digon o amser i lanlwytho dogfennau ac anfon yr ymateb electronig ymhell cyn yr amser cau er mwyn osgoi unrhyw broblemau munud olaf.
|