Disgrifiad o'r nwyddau neu'r gwasanaethau sydd eu hangen
Mae gwefan y Comisiynydd - www.olderpeoplewales.com - yn sianel allweddol lle mae’n darparu gwybodaeth a diweddariadau i bobl hŷn a rhanddeiliaid, ledled Cymru ac yn ehangach.
Mae’r Comisiynydd yn awyddus i ddatblygu fersiwn newydd deiniadol o’i gwefan, sy’n adlewyrchu gwerthoedd y sefydliad, a sy’n annog ac yn cefnogi pobl hŷn a rhanddeiliaid i lywio’n rhwydd i ystod eang o wybodaeth ac adnoddau. Rhaid i’r wefan newydd gydymffurfio â’r safonau dylunio a hygyrchedd diweddaraf a rhaid i hwn fod ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Byddwn yn cydweithio â’r contractwr llwyddiannus, gan ddefnyddio ei greadigrwydd a’i arbenigedd i gwblhau dyluniad a strwythur y wefan newydd, ond byddwn hefyd yn cael ein harwain gan farn pobl hŷn a rhanddeiliaid sy’n cael ei chasglu ar hyn o bryd drwy gyfres o sesiynau ymgysylltu.
Bydd y contractwr llwyddiannus yn gyfrifol am letya’r wefan, yn ogystal â chefnogi a chynnal a chadw’r platfform drwy gydol y contract.
Felly, mae’r Comisiynydd yn chwilio am dendrau i ddatblygu gwefan newydd, a gwasanaethau lletya a chefnogaeth cynnal a chadw parhaus am gyfnod o bedair blynedd, rhwng mis Mawrth 2022 a mis Mawrth 2026, gydag opsiwn i ymestyn y contract am flwyddyn ychwanegol i fis Mawrth 2027.
Bydd y contract yn cael ei ddyfarnu ym mis Tachwedd 2021 a bydd angen cyfnod o adeiladu, profi a rhedeg deuol er mwyn lansio’r safle ym mis Mawrth 2022.
Mae gwybodaeth am waith a rôl y Comisiynydd ar gael ar ei gwefan bresennol: www.olderpeoplewales.com/cy/
NODER: Ewch i'r Wefan yn https://www.sell2wales.gov.wales/Search/Search_Switch.aspx?ID=115010 i gofrestru eich diddordeb yn yr hysbysiad hwn a chael unrhyw wybodaeth ychwanegol.
Mae'r awdurdod dyfarnu wedi nodi y bydd yn derbyn ymatebion electronig i'r hysbysiad hwn drwy'r cyfleuster 'Blwch Postio Cyflwyno Tendrau'. Mae rhagor o fanylion am y cyfleuster hwn ar gael yn https://www.sell2wales.gov.wales/sitehelp/help_guides.aspx.
Cynghorir cyflenwyr i ganiatáu digon o amser i lanlwytho dogfennau ac anfon yr ymateb electronig ymhell cyn yr amser cau er mwyn osgoi unrhyw broblemau munud olaf.
|