Disgrifiad o'r nwyddau neu'r gwasanaethau sydd eu hangen
* GWELER DOGFENNAETH YCHWANEGOL: 'GWAHDODIAD I DENDRO: GWERTHUSIAD CYMRAEG FEL PWNC' *
Mae’r contract hwn ar gyfer comisiynu gwerthusiad o gynlluniau a gyllidwyd gan Lywodraeth Cymru ac a weithredwyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i hyrwyddo’r Gymraeg fel pwnc dros y cyfnod 2018/19–2021/22.
Gwahoddir ceisiadau gan gwmnïau addas i lunio adroddiad sy’n gwerthuso’r cynlluniau hyn ac yn cynnig argymhellion ar gyfer datblygu cynlluniau pellach i hyrwyddo’r Gymraeg fel pwnc.
Bydd gofyn i’r contractwr llwyddiannus:
- gynnal ymchwil pen desg i feithrin dealltwriaeth o sefyllfa gyfredol y pwnc er mwyn gallu cyd-destunoli’r cynlluniau cyfredol
- meithrin dealltwriaeth o’r cynlluniau a gyllidwyd gan Lywodraeth Cymru ac a weithredwyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i hyrwyddo’r Gymraeg fel pwnc yn ystod y cyfnod 2018/19–2021/22
- gwerthuso a gafodd y cynlluniau hyn eu gweithredu yn effeithiol
- gwerthuso a lwyddodd y cynlluniau hyn i gyflawni’r nod, ac os naddo, pam?
- gwneud argymhellion am gynlluniau pellach i sicrhau gwelliant yn sefyllfa’r Gymraeg fel pwnc ac i ddiogelu’r ddarpariaeth ar gyfer y dyfodol.
NODER: Ewch i'r Wefan yn https://www.sell2wales.gov.wales/Search/Search_Switch.aspx?ID=125382 i gofrestru eich diddordeb yn yr hysbysiad hwn a chael unrhyw wybodaeth ychwanegol.
Mae'r awdurdod dyfarnu wedi nodi y bydd yn derbyn ymatebion electronig i'r hysbysiad hwn drwy'r cyfleuster 'Blwch Postio Cyflwyno Tendrau'. Mae rhagor o fanylion am y cyfleuster hwn ar gael yn https://www.sell2wales.gov.wales/sitehelp/help_guides.aspx.
Cynghorir cyflenwyr i ganiatáu digon o amser i lanlwytho dogfennau ac anfon yr ymateb electronig ymhell cyn yr amser cau er mwyn osgoi unrhyw broblemau munud olaf.
|