Disgrifiad o'r nwyddau neu'r gwasanaethau sydd eu hangen
Cyngor Gwynedd yw'r awdurdod sy'n arwain ar drefnu cytundebau cyflenwad bwyd ar gyfer ceginau Gwynedd ac ar ran ceginau Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir Ynys Môn.
Ar hyn o bryd mae bwyd yn cael ei ddosbarthu i'r sefydliadau canlynol:
• 86 Ysgolion Cynradd ac Ysgolion Arbennig
• 13 Cartrefi Preswyl
• 12 Canolfannau Byw’n Iach sy'n darparu byrbrydau
• 13 Ysgolion Uwchradd
• Canolfan Ddydd
• Caffi (Storiel ym Mangor)
Mae cytundebau dosbarthu a chyflenwi yn eu lle ar gyfer y cynhyrchion canlynol.
• Groser
• Bwydydd di'rewi
• Ffrwythau a llysiau
• Cig di'rewi
• Bara
• llefrith ffres
Bydd y tendr ar gyfer y cyflenwad bwyd uchod yn cael ei gyhoeddi yn ystod Tachwedd 2023, a disgwylir i’r contract ddechrau ar 1 Ebrill 2024
Bydd digwyddiad cwrdd a'r prynwr yn cael ei gynnal drwy Teams ar y 7fed a'r 8fed o Dachwedd 2023. Bydd angen i unrhyw un sydd gyda diddordeb mynychu’r digwyddiad gysylltu gyda Caroline Campbell unai trwy e-bost
Carolinecampbell@gwynedd.llyw.cymru neu trwy ffonio 01286 679 908.
NODER: Ewch i'r Wefan yn https://www.sell2wales.gov.wales/Search/Search_Switch.aspx?ID=135937 i gofrestru eich diddordeb yn yr hysbysiad hwn a chael unrhyw wybodaeth ychwanegol. |