Disgrifiad caffael
Ceredigion County Council is seeking expressions of interest from suitably qualified providers regarding the potential procurement of food hygiene and food standards inspection services.
The Council is considering the appointment of one or more appropriately qualified Environmental Health Practitioners or Food Safety Practitioners to undertake official food hygiene and food standards interventions throughout the County of Ceredigion.
The service is likely to include:
Food Hygiene inspections.
Food Standards inspections.
Combined dual inspections.
Food Hygiene Rating Scheme inspections and rating determinations.
Risk rating of food businesses in accordance with the Food Law Code of Practice.
Submission of inspection reports and supporting documentation.
Identification and escalation of any significant food safety risks requiring further intervention by the Council.
Providers should have demonstrable experience of undertaking official controls in accordance with Food Standards Agency requirements and the Food Law Code of Practice. Contractors may be expected to provide suitably authorised and competent officers capable of undertaking both food hygiene and food standards work.
Interested organisations should contact the Council's Procurement mailbox on procurement.enquiries@ceredigion.gov.uk to request an Expression of Interest (EOI) form. Completion of an EOI does not guarantee participation in any subsequent procurement process.
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn ceisio datganiadau o ddiddordeb gan ddarparwyr sydd â'r cymwysterau priodol mewn perthynas â chaffaeliad posibl gwasanaethau archwilio hylendid bwyd a safonau bwyd.
Mae'r Cyngor yn ystyried penodi un neu fwy o Ymarferwyr Iechyd Amgylcheddol neu Ymarferwyr Diogelwch Bwyd sydd â'r cymwysterau addas i ymgymryd ag ymyriadau swyddogol ym maes hylendid bwyd a safonau bwyd ledled Sir Ceredigion.
Mae'r gwasanaeth yn debygol o gynnwys:
Archwiliadau Hylendid Bwyd.
Archwiliadau Safonau Bwyd.
Archwiliadau cyfunol sy'n cwmpasu'r ddau faes.
Archwiliadau a phenderfyniadau sgorio o dan y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd.
Graddio risg busnesau bwyd yn unol â Chod Ymarfer Cyfraith Bwyd.
Cyflwyno adroddiadau archwilio a dogfennaeth ategol.
Nodi ac uwchgyfeirio unrhyw risgiau diogelwch bwyd sylweddol sy'n gofyn am ymyrraeth bellach gan y Cyngor.
Dylai darparwyr feddu ar brofiad amlwg o gynnal rheolaethau swyddogol yn unol â gofynion yr Asiantaeth Safonau Bwyd a Chod Ymarfer Cyfraith Bwyd. Efallai y bydd disgwyl i gontractwyr ddarparu swyddogion sydd wedi'u hawdurdodi'n briodol ac sy'n gymwys i gyflawni gwaith ym maes hylendid bwyd a safonau bwyd.
Dylai sefydliadau sydd â diddordeb gysylltu â blwch post Caffael y Cyngor ar ymholiadau.caffael@ceredigion.gov.uk i ofyn am ffurflen Datganiad o Ddiddordeb. Nid yw cwblhau Datganiad o Ddiddordeb yn gwarantu cyfranogiad mewn unrhyw broses gaffael ddilynol.