Disgrifiad o'r contract
1. S4C yw’r unig sianel deledu Gymraeg yn y byd ac un o’r pum darlledwr teledu gwasanaeth cyhoeddus yn y DU. Mae’n awdurdod darlledu annibynnol a sefydlwyd o dan Ddeddf Darlledu 1981, ac mae’n cael ei rheoleiddio gan Ddeddf Gyfathrebu 2003 a’r Ddeddf Darlledu 1990.
Mae S4C yn darparu ystod eang o raglenni amrywiol o safon uchel. Mae’r sianel yn darlledu dros 115 awr o raglenni Cymraeg bob wythnos. Mae rhaglenni S4C ar gael i’w gwylio’n fyw ar wefan S4C trwy fandllydan a’r gwasanaeth gwylio ar alw ar wefan s4c.cymru, trwy iPlayer y BBC ac ar YouView, teledu clyfar, Sky, Freeview a nifer o blatfformau eraill.
Mae S4C wedi’i hariannu mewn ffordd unigryw trwy gymysgedd o arian grant, incwm masnachol a hysbysebu. Yn ogystal mae'r BBC yn darparu 10 awr o raglenni Cymraeg i S4C wedi ei ariannu gan y ffi drwydded.
2. Gwahoddir ymgeiswyr i fod yn rhan o banel i gyflenwi gwasanaethau cyfieithu Cymraeg/Saesneg. Mae S4C yn tendro am gytundebau fframwaith ar gyfer gwasanaethau cyfieithu ar gyfer llythyrau, dogfennau, adroddiadau, deunyddiau marchnata, canllawiau a pholisïau, yr Adroddiad Blynyddol a’r Cyfrifon a chyfieithu ar y pryd. O bryd i’w gilydd bydd angen hefyd cyfieithu rhai dogfennau cyfreithiol. Bydd angen cyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg ac hefyd o’r Saesneg i’r Gymraeg. Bydd disgwyl bod cyfieithwyr yn darparu gwasanaeth cywiro lle bo camgymeriadau yn y ddogfen a gyfieithwyd.
Rydym yn edrych am nifer cyfyngedig o gyflenwyr (uchafswm o 6) i ffurfio fframwaith o ddarparwyr. Bydd angen i dendrwyr ddangos profiad helaeth a llwyddiannus yn y maes cyfieithu Saesneg/Cymraeg.
Mae modd i gyflenwr wneud cais am y gwaith o gyfieithu dogfennau yn unig gan nodi arbenigedd, e.e. dogfennau cyfreithiol, neu i gyfieithu ar y pryd yn unig (os oes ganddynt arbenigedd yn y meysydd hyn).
Bydd cyflenwyr sy’n rhan o’r fframwaith yma yn cael cynnig gwaith cyfieithu gan S4C fel bo’r angen yn codi. Bydd y gwaith ar sail prosiect neu brosiectau yn ôl y galw.
Y bwriad yw cynnig cytundebau unigol i ymgeiswyr llwyddiannus er mwyn creu'r fframwaith o gyflenwyr. Noder nad yw bod yn rhan o’r fframwaith er hynny yn gwarantu y byddwch yn cael cynnig unrhyw waith. Gan fod y contract yn ôl y galw, mae swmp y gwaith a fydd ar gael i’r darparwyr yn dibynnu ar lwyth gwaith ac adnoddau dynol ac ariannol mewnol S4C o bryd i’w gilydd.
|