Disgrifiad o'r nwyddau neu'r gwasanaethau sydd eu hangen
2.3 Mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn dymuno penodi darparwr cymorth TG a fydd yn gyfrifol am:
• Sicrhau bod systemau TG yr Ombwdsmon a dyfeisiau TG sydd â’r awdurdodaeth i gysylltu â gweinyddion ar safleoedd OGCC, e.e. cyfrifiaduron / gliniaduron a roddir gan OGCC / cyfryngau cludadwy eraill (h.y. tabledi / ffonau clyfar), ar gael i’w defnyddio, a delio’n rhagweithiol â seilwaith TG OGCC er mwyn lleihau’r amser segur a chyrraedd targed argaeledd cyffredinol o 99% (heb gynnwys toriadau wedi’u trefnu)
• Darparu Cymorth TG 2il linell i Dîm TG OGCC sy’n darparu’r gwasanaeth desg gymorth llinell 1af i staff OGCC.
• Darparu cymorth llinell 1af i staff OGCC sy’n gweithio yn swyddfeydd OGCC neu gartref gyda chymwysiadau awdurdodedig a chaledwedd OGCC a gyda chysylltiadau â gweinyddion OGCC ar gyfer materion brys pan na fydd tîm TG mewnol OGCC ar gael.
• Darparu gwasanaeth monitro, rheoli ac adrodd wrth OGCC ar gyfer materion diogelwch TG, gan gynnwys risgiau maleiswedd a’r diffiniadau firysau diweddaraf er mwyn rhoi sicrwydd ynglŷn â diogelwch gweinyddion, rhwydwaith a chaledwedd cysylltiedig OGCC.
• Rheoli a monitro systemau wrth gefn y gweinyddion mewnol a gweithio â’r darparwr systemau wrth gefn allanol yn y cwmwl i roi sicrwydd ynglŷn ag integriti’r data, a chynorthwyo lle bo angen i adfer y data hwn o’r cwmwl (ar gyfer profi a digwyddiadau go iawn).
• Cysylltu â’r darparwyr meddalwedd / cymwysiadau 3ydd parti sydd wedi’u contractio i’w helpu i ddelio â namau neu i uwchraddio.
• Darparu gwaith prosiect ychwanegol ar gyfraddau y cytunwyd arnynt yn amserol.
Crynodeb o’r prif ofynion yw’r uchod. Darperir manylion llawn gofynion y gwasanaeth yn y Fanyleb fel y nodir yn Atodlen 1.
NODER: Ewch i'r Wefan yn https://www.sell2wales.gov.wales/Search/Search_Switch.aspx?ID=104414 i gofrestru eich diddordeb yn yr hysbysiad hwn a chael unrhyw wybodaeth ychwanegol.
Mae'r awdurdod dyfarnu wedi nodi y bydd yn derbyn ymatebion electronig i'r hysbysiad hwn drwy'r cyfleuster 'Blwch Postio Cyflwyno Tendrau'. Mae rhagor o fanylion am y cyfleuster hwn ar gael yn https://www.sell2wales.gov.wales/sitehelp/help_guides.aspx.
Cynghorir cyflenwyr i ganiatáu digon o amser i lanlwytho dogfennau ac anfon yr ymateb electronig ymhell cyn yr amser cau er mwyn osgoi unrhyw broblemau munud olaf.
|