Disgrifiad o'r nwyddau neu'r gwasanaethau sydd eu hangen
Mae’r Ombwdsmon yn gwahodd tendrau ar gyfer darparu gwasanaeth monitro gwleidyddol wedi’i deilwra i anghenion y swyddfa.
Bydd y gwasanaeth yn canolbwyntio ar:
• Senedd Cymru a Llywodraeth Cymru
• y pleidiau a gynrychiolir yn Senedd Cymru
• y rhanddeiliaid allweddol yng Nghymru sy’n gyfrifol am graffu ar y gwaith o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru a chyfrannu eu safbwyntiau at y broses bolisi (fel Archwilio Cymru, Arolygiaeth Iechyd Cymru neu Arolygiaeth Gofal Cymru).
Bydd darparwr y gwasanaeth hwn yn darparu gwasanaeth cynhwysfawr ac amserol, gan roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau gwleidyddol sy’n berthnasol i’r sefydliadau a restrir uchod, gan roi sylw i feysydd pwnc sy’n ymwneud â gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru a’r safonau ymddygiad mewn democratiaeth leol yng Nghymru.
O bryd i’w gilydd, mae’n bosib y bydd angen gwybodaeth fanylach ar yr Ombwdsmon hefyd am bynciau penodol, yn ogystal â chyngor a chymorth ar brosiectau sy’n canolbwyntio ar ymgysylltu ag Aelodau o’r Senedd a’u staff. Dylai’r cyflenwr feddu ar arbenigedd a gallu i gefnogi’r Ombwdsmon ar brosiectau o’r fath, y gellir codi ffi ychwanegol amdanynt.
Bydd y datblygiadau mewn perthynas â’r gwasanaethau iechyd, llywodraeth leol a gwasanaethau tai yng Nghymru yn arbennig o bwysig, gan mai’r gwasanaethau hynny sy’n gyfrifol am y gyfran fwyaf o’n cwynion; yn ogystal â datblygiadau sy’n effeithio’n uniongyrchol ar swyddfa’r Ombwdsmon.
NODER: Ewch i'r Wefan yn https://www.sell2wales.gov.wales/Search/Search_Switch.aspx?ID=155633 i gofrestru eich diddordeb yn yr hysbysiad hwn a chael unrhyw wybodaeth ychwanegol.
Mae'r awdurdod dyfarnu wedi nodi y bydd yn derbyn ymatebion electronig i'r hysbysiad hwn drwy'r cyfleuster 'Blwch Postio Cyflwyno Tendrau'. Mae rhagor o fanylion am y cyfleuster hwn ar gael yn https://www.sell2wales.gov.wales/sitehelp/help_guides.aspx.
Cynghorir cyflenwyr i ganiatáu digon o amser i lanlwytho dogfennau ac anfon yr ymateb electronig ymhell cyn yr amser cau er mwyn osgoi unrhyw broblemau munud olaf.
|