Disgrifiad o'r nwyddau neu'r gwasanaethau sydd eu hangen
Cefndir
Yn 2024/25, datblygodd Gofal Cymdeithasol Cymru ddyfais potensial digidol, sy’n galluogi staff mewn sefydliadau gofal cymdeithasol i ddeall eu sgiliau a’u galluoedd digidol yn well. Hefyd, mae’r ddyfais yn cynorthwyo sefydliadau i nodi bylchau mewn sgiliau a thargedu cymorth lle mae’r angen mwyaf amdano.
Ym mis Gorffennaf 2025, rhyddhawyd canfyddiadau cynnar o’r ddyfais potensial digidol: Y Ddyfais Potensial Digidol – Golwg ar aeddfedrwydd a llythrennedd digidol gofal cymdeithasol yng Nghymru. Seiliwyd yr adroddiad ar ymatebion 1,200 o unigolion ar draws 295 o sefydliadau yng Nghymru. Nododd yr adroddiad fod gan weithwyr gofal cymdeithasol lefelau uchel o sgiliau digidol sylfaenol a bod gan y rhan fwyaf ohonynt fynediad at y dechnoleg y mae ei hangen arnynt i wneud eu gwaith, ond mae meysydd pwysig i’w gwella. Amlygwyd bod datrys problemau technegol, technoleg arbenigol ar gyfer gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, a deall a defnyddio offer deallusrwydd artiffisial (AI) yn fylchau allweddol mewn sgiliau ymhlith y gweithlu. Ar lefel sefydliad, roedd cynllunio strategol digidol, cael systemau i weithio’n effeithiol gyda’i gilydd a rhannu gwybodaeth am drawsnewid digidol rhwng sefydliadau yn rhai o’r meysydd y gellid eu gwella.
Mae’r canfyddiadau hyn yn gyson â strategaethau cenedlaethol, gan gynnwys:
- Ymlaen: Y strategaeth ymchwil, arloesi a gwella ar gyfer gofal cymdeithasol 2024 i 2029
- Strategaeth Digidol a Data ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Mae’r tendr hwn yn gyson ag argymhellion adroddiad y Ddyfais Potensial Digidol o ran:
- datblygu fframwaith ‘sut mae da yn edrych’ ar gyfer gofal cymdeithasol yng Nghymru
- creu fframwaith cymhwysedd digidol gyda llwybrau dysgu hyblyg sydd wedi’u teilwra i weithwyr proffesiynol gofal cymdeithasol ac sy’n mynd i’r afael â gofynion unigryw eu rolau ar sail y fframwaith ‘sut mae da yn edrych’
- gwneud cyfleoedd hyfforddi’n fwy gweladwy a hygyrch.
Nodau ac Amcanion
Cam 1 – Cwmpasu (y tendr hwn)
Nod y tendr hwn yw comisiynu cyflenwr i gynhyrchu adroddiad cwmpasu sy’n amlinellu sut y gallai Gofal Cymdeithasol Cymru, mewn partneriaeth â sefydliadau gofal cymdeithasol a phobl sy’n defnyddio gofal a chymorth, gyd-ddatblygu:
- Fframwaith ‘Sut mae Da yn Edrych’ (WGLL) ar gyfer aeddfedrwydd a llythrennedd digidol mewn gofal cymdeithasol yng Nghymru
- Fframwaith cymhwysedd digidol ar gyfer arweinyddiaeth gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Bydd y cwmpasu hwn yn darparu’r sylfaen dystiolaeth a’r opsiynau dylunio sydd eu hangen i:
- Ddiffinio sut mae aeddfedrwydd a llythrennedd digidol “da” yn edrych mewn gofal cymdeithasol yng Nghymru
- Egluro’r cymwyseddau digidol y disgwylir i arweinwyr feddu arnynt
- Sicrhau bod lleisiau pobl sy’n manteisio ar ofal a chymorth yng Nghymru yn ganolog i drawsnewid digidol.
Mae’n rhaid i Gam 1 gynhyrchu argymhellion gweithredadwy, gyda thystiolaeth dda, oherwydd bydd Cam 2 yn dibynnu arnynt. Bydd penderfyniadau yng Ngham 1, fel egwyddorion y fframwaith, metrigau llwyddiant a chipolygon ymgysylltu, yn llywio dyluniad Cam 2 yn uniongyrchol. Felly, dylai’r cyflenwr llwyddiannus gyflwyno Cam 1 gyda Cham 2 mewn golwg, er enghraifft gan ystyried ymarferoldeb, y gallu i dyfu, cysondeb â strategaethau cenedlaethol, a sut gall ymgysylltu â rhanddeiliaid lywio mabwysiadu’r fframwaith yn y tymor hwy.
Beth Sydd ei Angen / ‘Y Gofynion’
Bydd y cyflenwr llwyddiannus yn:
- Gwneud ymchwil ddesg i adolygu tystiolaeth a fframweithiau sy’n bodoli (e.e. WGLL NHS England, Fframwaith Gallu Digidol Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC))
- Cynnal ymgysylltiad cynhwysol cychwynnol â rhanddeiliaid, gan gynnwys y gweithlu gofal cymdeithasol, arweinwyr a phobl sy’n manteisio ar ofal a chymorth, i lywio a llunio argymhellion.
- Gwneud argymhellion clir, gan gyflwyno map ar gyfer datblygiad Cam 2, gan gynnwys costiadau ac adnoddau, amserlenni a cherrig milltir, mapio rhanddeiliaid a chynllun ymgysylltu, dull gwerthuso a metrigau llwyddiant.
Cynhyrchu adroddiad cwmpasu sy’n darparu:
- Strwythur ac egwyddorion drafft ar gyfer fframwaith ‘Sut Mae Da yn Edrych’ ar gyfer aeddfedrwydd a llythrennedd digidol mewn gofal cymdeithasol yng Nghymru.
- Strwythur ac egwyddorion drafft ar gyfer fframwaith cymhwysedd digidol i arweinyddiaeth gofal cymdeithasol yng Nghymru.
- Tystiolaeth o ymgysylltu â rhanddeiliaid.
- Mapio fframweithiau a darpariaeth hyfforddiant presennol.
- Argymhellion a chynllun manwl ar gyfer datblygiad Cam 2.
Allbynnau
Erbyn Canol Mawrth 2026, bydd y cyflenwr llwyddiannus yn cyflwyno adroddiad cwmpasu dwyieithog ar:
- sut i gyd-gynhyrchu fframwaith Sut Mae Da Yn Edrych (WGLL) a fyddai’n diffinio sut olwg sydd ar aeddfedrwydd a llythrennedd digidol “da” mewn gofal cymdeithasol yng Nghymru, wedi’i lywio gan leisiau pobl sy’n manteisio ar ofal a chymorth, ynghyd â’r gweithlu ac arweinwyr y sector.
- sut i greu fframwaith cymhwysedd digidol ar gyfer arweinyddiaeth.
Rhaid i’r adroddiad cwmpasu gynnwys:
- Strwythur ac egwyddorion drafft i fframwaith Sut Mae Da yn Edrych ar gyfer aeddfedrwydd a llythrennedd digidol mewn gofal cymdeithasol yng Nghymru.
- Strwythur ac egwyddorion drafft i fframwaith cymhwysedd digidol ar gyfer arweinyddiaeth gofal cymdeithasol yng Nghymru.
- Tystiolaeth o ymgysylltu â rhanddeiliaid.
- Mapio fframweithiau a darpariaethau hyfforddiant presennol.
- Argymhellion a chynllun manwl ar gyfer datblygiad Cam 2.
Hefyd, bydd angen adroddiad cryno dwyieithog i’w gyhoeddi ar wefan Gofal Cymdeithasol Cymru.
Gweler Manyleb am fwy o fanylion
NODER: Ewch i'r Wefan yn https://www.sell2wales.gov.wales/Search/Search_Switch.aspx?ID=155733 i gofrestru eich diddordeb yn yr hysbysiad hwn a chael unrhyw wybodaeth ychwanegol.
Mae'r awdurdod dyfarnu wedi nodi y bydd yn derbyn ymatebion electronig i'r hysbysiad hwn drwy'r cyfleuster 'Blwch Postio Cyflwyno Tendrau'. Mae rhagor o fanylion am y cyfleuster hwn ar gael yn https://www.sell2wales.gov.wales/sitehelp/help_guides.aspx.
Cynghorir cyflenwyr i ganiatáu digon o amser i lanlwytho dogfennau ac anfon yr ymateb electronig ymhell cyn yr amser cau er mwyn osgoi unrhyw broblemau munud olaf.
|