Cyfanswm maint neu gwmpas y tendr
3. Systemau Larwm Tresmaswyr – dau archwiliad y flwyddyn
Rhaid i'r Contractwr archwilio, profi, gwasanaethu a chynnal a chadw systemau larwm tresmaswyr yn unol â:
• Chyfres BS EN 50131
• PD 6662
• Gofynion yr heddlu a'r yswiriwr lle bo'n berthnasol
Bydd hyn yn cynnwys:
• Profi'r holl synwyryddion, cysylltiadau, offer signalau a phaneli rheoli
• Gwirio cysylltiadau cyfathrebu â chanolfannau derbyn larymau
• Archwilio batris a chyflenwadau pŵer wrth gefn
• Diagnosis ac atgyweirio namau
• Gwiriadau perfformiad ar y system
• Cynhyrchu adroddiadau cynnal a chadw ac ardystio
________________________________________
4. Systemau Larwm Panig ac Ymosodiad Personol – dau archwiliad y flwyddyn
Bydd y Contractwr yn archwilio, profi a chynnal a chadw pob larwm panig, larymau gorfodaeth a systemau larwm ymosodiad personol.
Bydd hyn yn cynnwys:
• Profi bod yr holl ddyfeisiau actifadu'n weithredol
• Profi trefniadau signalau a monitro larymau
• Archwilio offer rheoli a chyfathrebu
• Gwirio trefniadau ymateb
• Cywiro namau
• Adrodd ar gydymffurfiaeth
Rhoddir ystyriaeth arbennig i systemau sydd wedi'u gosod mewn ardaloedd derbynfeydd, ystafelloedd cyfweld, amgylcheddau gwaith unigol a lleoliadau sy'n ymwneud â’r cyhoedd.
________________________________________
5. Atgyweiriadau Ymatebol a Gwasanaeth Galw mewn Argyfwng
Bydd y Contractwr yn darparu gwasanaeth ymateb brys 24 awr, 365 diwrnod y flwyddyn ar gyfer yr holl systemau y mae’r contractwr yn gyfrifol amdanynt.
Adrodd am Ddigwyddiadau a Chyswllt â'r Heddlu
Bydd y Contractwr yn cynnal gweithdrefnau cadarn ar gyfer riportio digwyddiadau ac yn sicrhau bod pob digwyddiad diogelwch yn cael ei adrodd yn brydlon i Gyrfa Cymru yn unol â’r protocolau uwchgyfeirio y cytunwyd arnynt. Pan fo digwyddiad yn cael ei adrodd i'r Heddlu neu pan fo’r Heddlu yn dod allan yn dilyn digwyddiad, dylid cael Rhif Cyfeirio Unigryw'r Heddlu (URN) perthnasol a'i gynnwys yn adroddiad y digwyddiad. Bydd hyn yn darparu llwybr archwilio clir, yn gymorth gydag unrhyw ymchwiliadau dilynol, ac yn hwyluso cyswllt effeithiol rhwng Gyrfa Cymru, y Contractwr, ac asiantaethau gorfodi allanol.
6. Rheoli Mynediad – dau ymweliad y flwyddyn
Bydd gwasanaethau rheoli mynediad yn cynnwys archwilio, profi, cynnal a chadw, atgyweirio a darparu cefnogaeth ar gyfer pob offer rheoli mynediad, gan gynnwys rheolwyr drysau, cloeon electronig, darllenwyr cardiau, ffobiau, meddalwedd, cyflenwadau pŵer a seilwaith cysylltiedig. Bydd y Contractwr yn sicrhau bod systemau'n parhau i fod yn gwbl weithredol, yn ddiogel ac yn cydymffurfio â’r Safonau Prydeinig perthnasol, gofynion diogelwch tân ac argymhellion gwneuthurwyr. Bydd cynnal a chadw yn cynnwys diweddariadau meddalwedd, profi batris, cefnogaeth gweinyddu defnyddwyr, cywiro namau a gwasanaethau galw allan mewn argyfwng.
Mae systemau rheoli mynediad fel arfer yn cael eu cynnal yn unol â:
• Systemau Rheoli Mynediad Electronig BS EN 60839
• BS EN 50133 (gosodiadau hŷn)
• Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005
• GDPR y DU pan fo data personol yn cael ei brosesu
Cyflwynwch gais tendr ar wahân ar gyfer pob lot – mae'r gwasanaethau sydd eu hangen yn amrywio o'r naill swyddfa i'r llall ac maent wedi'u rhestru o fewn manylion y Lot
Lot 1
• Y Barri – rheoli mynediad, larwm panig
• Tŷ St Ina Caerdydd – larwm tresmaswyr,
• Coed-duon - goleuadau argyfwng, larwm panig
• Cwmbrân - larwm tresmaswyr, larwm panig
• Glynebwy - larwm tresmaswyr, larwm panig
• Casnewydd - larwm tresmaswyr, larwm panig
• Tŷ Churchill Caerdydd - rheoli mynediad, larwm tresmaswyr, larwm panig
• Merthyr - larwm tresmaswyr, larymau panig
• Pontypridd - larymau panig, larwm tresmaswyr, rheoli mynediad
Lot 2
•
• Aberystwyth - larwm panig, larwm tresmaswyr
• Pen-y-bont ar Ogwr - larwm tresmaswyr a larwm panig
• Caerfyrddin - larwm tresmaswyr a larwm panig
• Hwlffordd - larwm tresmaswyr, larwm panig
• Llanelli - larwm panig, larwm tresmaswyr
• Castell-nedd - larwm panig, larwm tresmaswyr
Lot 3
• Y Drenewydd - Larymau panig
• Bangor - Larymau panig, larwm tresmaswyr
• Wrecsam - larwm tresmaswyr, larwm panig,
• Caergybi - larwm panig
• Llandudno - Larwm tresmaswyr, rheoli mynediad
• Porthmadog - larymau panig, larwm tresmaswyr, rheoli mynediad
• Y Rhyl - larymau panig, rheoli mynediad
• Queensferry - rheoli mynediad, larymau panig
|