Disgrifiad o'r nwyddau neu'r gwasanaethau sydd eu hangen
Cwmpas y Gwaith
Bydd y contractwr a benodir yn gyfrifol am y canlynol:
A. Asesu a Chynllunio Safleoedd
Adolygu data presennol (e.e. asesiadau cyflwr CNC, cynlluniau adfer blaenorol, mapiau cynefin GIS).
Cynnal arolygon maes wedi'u targedu i wirio amodau ac adnabod cyfleoedd adfer.
Blaenoriaethu ardaloedd ymyrraeth ar sail budd ecolegol, cysylltedd hydrolegol, a dichonoldeb
Llunio cynlluniau adfer ar lefel y safle, gan gynnwys dulliau, manylebau, costau ac amserlenni.
Sicrhau'r caniatâd angenrheidiol a chysylltu â thirfeddianwyr a phorwyr i gytuno ar gwaith.
Cynllunio a bod yn gyfrifol am logisteg sy'n ymwneud â chyflawni’r gwaith.
B. Cynllunio Technegol a Chymorth Gweithredu
Datblygu datganiadau dull a goruchwylio contractwyr yn ystod cyflawni ymarferol (e.e. ail-broffilio, blocio draeniau, ailgyflwyno mwsogl migwyn, ail-wlychu).
Sicrhau bod technegau adfer yn cydymffurfio â chanllawiau arfer gorau (e.e. Cod Mawndir y DU IUCN).
Darparu goruchwyliaeth ecolegol yn ystod gwaith lle bo angen.
Cynghori ar reoli addasol i leihau aflonyddu a gwneud y mwyaf o lwyddiant.
Cynnal ymweliadau safle rheolaidd tra bo gwaith ar y gweill, i sicrhau bod gwaith yn cydymffurfio â manylebau ac i addasu dulliau os yw amodau'r tir yn gofyn hynny.
Darparu briff gwylio ar gyfer yr amgylchedd hanesyddol yn ystod y gwaith.
Cytuno ar safleoedd ymyrraeth a graddfa'r gwaith gyda'r Rheolwr Prosiect a'r Grŵp Gwaith Technegol Mawndir, yn dilyn cwblhau gwaith arolygu.
C. Monitro ac Adrodd
Sefydlu metrigau cyflwr sylfaenol (llystyfiant, hydroleg, dangosyddion carbon).
Dylunio a gweithredu fframwaith monitro syml sy'n cyd-fynd â safonau CNC, gan gynnwys arolygon ffotograffig pwynt-sefydlog gan ddefnyddio methodoleg y cytunwyd arni.
Cynnal arolygon yn syth ar ôl cwblhau’r gwaith, gydag arolwg pellach 'fel y cwblhawyd' ym Mlwyddyn 2.
Darparu adroddiadau cynnydd chwarterol a blynyddol ar gyfer y Rheolwr Prosiect a'r cyllidwr.
Cynhyrchu adroddiad technegol terfynol yn crynhoi dulliau, canlyniadau, gwersi a ddysgwyd, ac argymhellion ar gyfer y dyfodol.
D. Rhannu Gwybodaeth a Chydweithio
Cymryd rhan mewn cyfarfodydd Grŵp Rheoli Prosiect a Grŵp Gwaith Technegol.
Cefnogi datblygu sgiliau a chyfleoedd cyflogaeth i reolwyr tir lleol lle bo modd (e.e. hyfforddiant ar dechnegau adfer, monitro).
NODER: Ewch i'r Wefan yn https://www.sell2wales.gov.wales/Search/Search_Switch.aspx?ID=170562 i gofrestru eich diddordeb yn yr hysbysiad hwn a chael unrhyw wybodaeth ychwanegol.
Mae'r awdurdod dyfarnu wedi nodi y bydd yn derbyn ymatebion electronig i'r hysbysiad hwn drwy'r cyfleuster 'Blwch Postio Cyflwyno Tendrau'. Mae rhagor o fanylion am y cyfleuster hwn ar gael yn https://www.sell2wales.gov.wales/sitehelp/help_guides.aspx.
Cynghorir cyflenwyr i ganiatáu digon o amser i lanlwytho dogfennau ac anfon yr ymateb electronig ymhell cyn yr amser cau er mwyn osgoi unrhyw broblemau munud olaf.
|