Disgrifiad o'r broses ymgysylltu
Mae’r Awdurdod yn chwilio am Dendrŵyr i ddylunio cynllun newydd ar gyfer y llinell ddidoli deunyddiau ailgylchadwy, gan gynnwys yr arwynebedd llawr newydd, gyda’r nod o wella effeithlonrwydd gweithredol ac iechyd a diogelwch, cynyddu lefel yr awtomeiddio, lleihau halogiad, gwella ansawdd y deunyddiau a gynhyrchir, a darparu ar gyfer newidiadau i ffrydiau ailgylchu yn y dyfodol. Bydd y gwaith yn cynnwys cael gwared ar offer presennol y Cyfleuster Adfer Deunyddiau (MRF), lle bo angen, cyflenwi offer newydd, gosod y llinell ailgylchu newydd gan integreiddio’r offer presennol â’r offer newydd, a phrofi’r llinell ailgylchu newydd ar ôl ei gosod. Bydd y contract hefyd yn cynnwys gwarant ar gyfer yr offer newydd, ynghyd â gwasanaethau cynnal a chadw priodol.
Bydd yr ymgysylltiad hwn yn cynorthwyo'r Cyngor i ddatblygu ei strategaeth gaffael a mireinio'r fanyleb.
Pwrpas yr ymweliadau safle yw rhoi cyfle i gyflenwyr gael gwell dealltwriaeth o'r gofynion gweithredol, heriau daearyddol, trefniadau mynediad a disgwyliadau darparu gwasanaethau sy'n gysylltiedig â'r contract arfaethedig.
Bwriedir cynnal ymweliadau safle yn ystod y cyfnod ymgysylltu â’r farchnad:
Wythnos yn dechrau 5 Hydref 2026 - Rhwng 9:00am a 3:00pm
Dylai cyflenwyr sydd â diddordeb gofrestru eu diddordeb drwy gysylltu â’r Awdurdod drwy e-bostio:
Categori1@gwynedd.llwy.cymru Dyddiad cau ar gyfer cofrestru diddordeb: 30 Medi 2026
*********************************************************************************
The Authority require a Tenderer to design a new layout of the materials recycling line which includes the new floor area to improve operational efficiency, health and safety, increase automation, reduce contamination, improve product quality and accommodate future changes to recycling streams. The works are to include the removal of existing MRF equipment, supply new equipment, install the new recycling line to include the old and new equipment and test the new materials recycling line. The contract is also to provide and include warranty of new equipment and maintenance.
This engagement will assist the Council in developing its procurement strategy and refining the specification.
The purpose of the site visits is to provide suppliers with an opportunity to gain a better understanding of the operational requirements, geographical challenges, access arrangements and service delivery expectations associated with the proposed contract.
Site visits during the market engagement period will be:
Week commencing 5th October 2026 - (9am to 3pm)
Interested suppliers should register their interest by contacting the Authority by emailing;
Categori1@gwynedd.llwy.cymru no later than 30th of September 2026.