Skip to main content

Rydym wedi cadw rhai ffeiliau o'r enw cwcis ar eich dyfais. Y cwcis hyn yw:

  • Hanfodol ar gyfer y safle i weithio
  • Helpu i wella ein gwefan drwy gasglu ac adrodd gwybodaeth am sut rydych chi'n ei defnyddio

Hoffem hefyd arbed rhai cwcis i helpu i deilwra cyfathrebu.

BETA
Rydych yn edrych ar fersiwn wedi'i ddiweddaru o'r gwasanaeth hwn - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Cwestiynau Cyffredin

Cynnwys

Gallwch. Gall Cyflenwyr greu Proffil Rhybuddion e-bost drwy ddewis Categorïau a Lleoliadau sy'n berthnasol i'w busnes. Gellir creu'r Proffil Rhybuddion drwy ddewis ‘Proffil Rhybuddion’ yn adran ‘Fy Mhroffil’ Panel Rheoli'r Cyflenwr. Ar ôl creu Proffil Rhybuddion, bydd Cyflenwyr yn cael neges e-bost bob tro y caiff Hysbysiad ei gyhoeddi sy'n cyfateb i'w Categorïau a'u Lleoliadau. Bydd dewis y Categorïau perthnasol a ddefnyddir gan eich Prynwr/Prynwyr yn gywir yn arwain at Rybuddion cywir.

Gallwch. Ar ôl i chi fynegi diddordeb mewn Hysbysiad, byddech yn dewis y tab ‘Dogfennau’. Wedyn bydd modd naill ai lawrlwytho'r dogfennau'n unigol, neu lawrlwytho'r holl ddogfennau sy'n gysylltiedig â'r Hysbysiad drwy ddewis ‘lawrlwytho'r holl ddogfennau cyfredol (Ffeil Sip)’.

Gall Cyflenwyr weld unrhyw Wybodaeth Ychwanegol a ychwanegwyd ar ôl i Hysbysiad gael ei gyhoeddi drwy ddewis y tab 'Gwybodaeth Bellach' ar yr Hysbysiad.

Defnyddiwch y cyfleuster 'Porwch y Contractau' ar y bar dewislenni. O'r man hwnnw gallwch hidlo eich meini prawf chwilio mewn amrywiaeth o ffyrdd. Bydd Rhifau Cyfeirnod yn ymddangos yn y fformat 'JAN123456'. Os ydych wedi cael cyfeirnod gwahanol, chwiliwch gan ddefnyddio hidlyddion eraill neu cysylltwch â'r Ddesg Gymorth. Os ydych yn gwybod pa Brynwr sydd wedi cyhoeddi Hysbysiad, defnyddiwch y cyfleuster 'Chwiliwch am Brynwyr' ar y bar dewislenni i edrych ar ei Broffil Prynwr a gweld yr Hysbysiadau cysylltiedig.

Sicrhewch nad yw eich ffeil yn fwy na'r cyfyngiad o 10MB ar gyfer ffeiliau unigol ac nad yw'n gwneud cyfanswm eich Ymateb yn fwy na 30MB. Os yw maint y ffeil yn fwy na 10MB, rhannwch hi'n ffeiliau llai. Os yw'r cyfanswm yn fwy na 30MB, dylech anfon eich ymateb a chreu ymateb newydd er mwyn lanlwytho eich dogfennau ychwanegol iddo. Sicrhewch eich bod yn lanlwytho eich ffeil(iau) o'ch cyfrifiadur desg er mwyn gallu cwblhau'r broses yn gyflymach. Sicrhewch nad yw enw eich ffeil yn cynnwys unrhyw nodau arbennig, e.e. _ - ( ) , " £ &. Gall hyn olygu bod y broses lanlwytho'n cael ei therfynu. Sicrhewch nad yw eich dogfen ar agor ar eich cyfrifiadur. Byddai hyn yn rhwystro'r ffeil rhag lanlwytho'n llwyddiannus.

Os nad oes Blwch Postio ar gael ar y tendr, byddai angen i chi glicio ar y tab ‘Testun Llawn yr Hysbysiad’ er mwyn gweld i ble y dylid dychwelyd dogfennau wedi'u cwblhau. Byddai'r manylion hyn i'w gweld yn Adran 1 y Testun Llawn fel arfer.

Drwy gofrestru ar y wefan, byddwch yn sicrhau bod modd eich gwahodd i gyflwyno Dyfynbrisiau Cyflym. Er mwyn gwella eich siawns o gael eich cynnwys mewn Dyfynbris Cyflym, llenwch eich Proffil Canfod Cyflenwr. Sylwer: gan mai dim ond drwy wahoddiad y gellir cyflwyno Dyfynbris Cyflym, nid yw'r ffaith eich bod wedi cofrestru yn golygu y byddwch yn sicr o gael gwahoddiad i gyflwyno Dyfynbris Cyflym.

Mae pob cyfrif Cyflenwr ar GwerthwchiGymru yn gyfrif unigol a dim ond y cyfrifon Cyflenwyr unigol a ddewiswyd i roi dyfynbris sy'n gallu gweld manylion y dyfynbris a chyflwyno ymateb. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i Gyflenwr fewngofnodi gan ddefnyddio'r un cyfeiriad ag yr anfonwyd y gwahoddiad iddo; os anfonwyd y gwahoddiad at gydweithiwr, byddai angen i chi fewngofnodi gan ddefnyddio manylion yr unigolyn hwnnw. Ni fydd y ddolen yn y neges e-bost sy'n rhoi gwybod am wahoddiad i gyflwyno Dyfynbris Cyflym yn gweithio oni ddefnyddir manylion mewngofnodi'r sawl a gafodd y gwahoddiad.

Os yw'r Prynwr yn gwybod enw'r Cyflenwr, dylai chwilio amdanoch gan ddefnyddio'r tab 'Cyflenwyr sy'n Cyfateb' ar y dudalen Dosbarthu Dyfynbris Cyflym. Byddai angen iddo roi tic yn y blwch 'Hepgor Categorïau Nwyddau' i ddod o hyd i chi. Gallwch ei helpu i ddod o hyd i chi drwy lenwi eich Proffil Canfod Cyflenwr hefyd. Os bydd yn parhau i gael anhawster dod o hyd i chi, a'ch bod yn sicr eich bod wedi cofrestru ar y wefan, dywedwch wrtho am gysylltu â'r Ddesg Gymorth.

Pan fydd y Dyfynbris Cyflym wedi cael ei ddyfarnu, bydd pob parti yn derbyn neges e-bost a luniwyd gan y system yn nodi p'un a oedd yn llwyddiannus ai peidio. Os bydd gennych unrhyw ymholiadau ynglyn â dyfarniad penodol, cysylltwch â'ch Prynwr yn uniongyrchol am gymorth.

Cyfleuster cyflwyno tendrau ar-lein sy'n galluogi Prynwyr i dderbyn ymatebion i dendrau gan Gyflenwyr mewn modd diogel yw'r Blwch Postio. Os oes symbol allwedd i'w weld wrth ochr yr Hysbysiad, mae'r Hysbysiad hwnnw'n cynnwys Blwch Postio. Caiff ymatebion eu cyflwyno i GwerthwchiGymru a'u cadw tan ar ôl y dyddiad cau ar gyfer ymatebion. Gweler y canllawiau i ddefnyddwyr yn adran gymorth Panel Rheoli'r Cyflenwr: https://www.gwerthwchigymru.llyw.cymru/sitehelp/help_guides.aspx

Pan gaiff Hysbysiad o Ddyfarnu Contract ei greu, bydd y system yn dewis yr un Categorïau ag yr oedd ar yr Hysbysiad gwreiddiol. Pan gaiff y Dyfarniad o Hysbysu Contract ei gyhoeddi, bydd y Rhybuddion E-bost yn cael eu hanfon at Gyflenwyr y mae eu Proffil Rhybuddion yn cyfateb i nodweddion yr Hysbysiad. Gellir chwilio am Hysbysiad o Ddyfarnu Contract drwy edrych ar broffil eich Prynwr. Gwneir hyn drwy'r cyfleuster 'Chwiliwch am Brynwyr' ar y bar dewislenni. Byddech yn agor y tab 'Hysbysiadau o Ddyfarnu Contract' ar Broffil y Prynwr. Bydd manylion y sawl sydd wedi ennill contract penodol i'w gweld ar y tab ‘Testun Llawn yr Hysbysiad’.

Os nad ydych yn dymuno derbyn Rhybuddion am Hysbysiadau drwy e-bost mwyach, dilynwch y cyfarwyddiadau isod: 'Fy Nghyfrif' (ar y bar dewislenni) > adran 'Fy Mhroffil' > 'Proffil Rhybuddion'. Wedyn, dewiswch “Golygu eich categorïau cynnyrch”. Ar y dudalen hon gallwch ddileu'r categorïau sydd wedi'u dewis. Pan na fydd unrhyw Gategorïau Cynnyrch wedi'u dewis, ni fydd unrhyw Rybuddion yn cael eu hanfon drwy e-bost. Os nad ydych yn dymuno derbyn Cylchlythyrau mwyach, dilynwch y ddolen isod a thynnwch y tic o'r blwch “Nodwch a hoffech dderbyn cylchlythyr drwy e-bost”: https://www.gwerthwchigymru.llyw.cymru/supplier/Subscriptions/Subs_list.aspx. Hefyd, mae modd newid y manylion cofrestru – gan gynnwys y cyfeiriad e-bost a'r enw sy'n gysylltiedig â'r cyfrif – i rai cydweithiwr. Gellir gwneud hyn drwy fynd i 'Fy Nghyfrif' (ar y bar dewislenni) > adran 'Fy Nghyfrif' > 'Manylion Defnyddiwr'. Ar y dudalen hon, gallwch ddiwygio unrhyw fanylion yn ôl yr angen. O hyn ymlaen, caiff pob neges e-bost ei hanfon i'r cyfeiriad newydd.

GwerthwchiGymru yn parhau i weithredu mewn ffordd debyg i’r hyn y mae ar hyn o bryd. Fodd bynnag, bydd rhai newidiadau terminolegol ar y porth i adlewyrchu newidiadau i gaffael cyhoeddus ar ôl diwedd y Cyfnod Pontio. Bydd newid arall ar y dudalen 'Chwilio Contractau', bydd GwerthwchiGymru yn cyflwyno eicon baner Cymru a fydd yn ymddangos ar gyfer contractau a gyhoeddir ar GwerthwchiGymru islaw'r trothwy caffael, gan ddisodli eicon baner bresennol y DU. Bydd eicon baner y DU bellach yn cael ei ddefnyddio ar gyfer contractau sy'n cynrychioli hysbysiad trothwy caffael uchod a gyhoeddir ar yr FTS. Ar gyfer hysbysiadau a gyhoeddir ar OJEU / Tenders Electronic Daily (TED) byddant yn cadw eicon baner yr UE.

Os lansiwyd gweithdrefn gaffael cyn diwedd y Cyfnod Trosglwyddo ond na chafodd ei chwblhau (h.y. heb ei dyfarnu), bydd y gofyniad i gyhoeddi hysbysiadau i'r OJEU yn parhau i fod yn berthnasol ar ôl diwedd y Cyfnod Pontio. Fodd bynnag, bydd unrhyw hysbysiadau ar gyfer y caffaeliadau hyn a gyhoeddir ar ôl diwedd y Cyfnod Ponrio yn cael eu rhoi yn yr OJEU a’r FTS a bydd hyn yn cael ei wneud yn awtomatig gan GwerthwchiGymru.

Bydd y gwasanaeth FTS ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg. O ganlyniad bydd prynwyr GwerthwchiGymru yn gallu creu Hysbysiadau FTS ar fersiwn Gymraeg y Porth GwerthwchiGymru, gyda’r holl ddewislenni a chynnwys statig arall y safle ar gael yn Gymraeg wrth ddefnyddio'r elfen creu Hysbysiad FTS. Wrth ddefnyddio fersiwn Gymraeg y Porth i gwblhau'r broses hon, bydd yn rhaid i brynwyr gynnwys y testun Saesneg ochr yn ochr â'r testun Cymraeg (yn yr un blwch) ac i'r gwrthwyneb os ydynt yn dewis defnyddio fersiwn Saesneg y Porth ac yn dymuno cynnwys cynnwys Cymraeg. Yna bydd yr hysbysiadau'n cael eu hanfon i'r FTS i'w cyflwyno yn dilyn yr un broses ag a ddefnyddir yn awr ar gyfer cyflwyniadau OJEU. Pan fydd yr Hysbysiad wedi'i gyhoeddi ar FTS, bydd y prynwr yn cael hysbysiad e-bost.

Datblygwyd y Gwasanaeth Canfod Tendr (FTS) fel system e-hysbysu newydd i gymryd lle Cyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd (OJEU) a Thendrau Electronig Dyddiol (TED) ar ddiwedd cyfnod pontio'r UE. Aeth y Gwasanaeth Dod o hyd i Dendr yn fyw ar 1 Ionawr 2021.

Gallwch ddod o hyd i adnoddau ychwanegol ar y Gwasanaeth Dod o hyd i Dendr ar adran cymorth ac adnoddau GwerthwchiGymru. Gweler y ddolen o'r ddewislen Help and Resources > yr UE: rheolau newydd ar gyfer 2021.

Mae Canfod Cyflenwr yn gyfeiriadur cyrchu cyflenwyr sy'n eich galluogi i hysbysebu eich cwmni ar y wefan. Mae'n eich galluogi i ddarparu gwybodaeth fanwl am y cynhyrchion neu'r gwasanaethau y byddech yn ddarparu. Dyma rhai o'r manteision a gewch drwy ddiweddaru eich proffil: • Gall prynwyr nawr ddod o hyd i'ch cwmni yn hawdd trwy'r adnodd chwilio Canfod Cyflenwr. • Gallwch ddarparu allweddeiriau sy'n amlygu'n benodol y cynhyrchion neu'r gwasanaethau a ddarperir gan eich cwmni. Mae’n bosib chwilio am y geiriau allweddol hyn. • Mae’r gwasanaeth yn gwella eich siawns o dderbyn gwahoddiad uniongyrchol i ddyfynnu gan brynwyr a ddefnyddir "Dyfynbrisiau Cyflym". Gallwch olygu eich proffil canfod cyflenwr unrhyw bryd yn eich panel rheoli.

GwerthwchiGymru yw'r porth hysbysebu cenedlaethol lle y gall sefydliadau'r sector cyhoeddus yng Nghymru hysbysebu eu cyfleoedd am gontractau. Caiff Hysbysiadau cyhoeddus a Hysbysiadau gwahoddiad yn unig (Dyfynbrisiau Cyflym) eu cyhoeddi gan Brynwyr drwy'r wefan.

Anogir holl sefydliadau'r sector cyhoeddus yng Nghymru i ddefnyddio'r wefan fel eu prif adnodd ar gyfer hysbysebu hysbysiadau o gontract. Anogir prif gontractwyr ar gontractau cyhoeddus i ddefnyddio'r wefan i gyhoeddi eu cyfleoedd isgontractio.

Nac oes. Darperir GwerthwchiGymru gan Lywodraeth Cymru i'w defnyddio am ddim gan Brynwyr a Chyflenwyr.

Na. Gall Cyflenwyr o unrhyw un o aelod-wladwriaethau Sefydliad Masnach y Byd gofrestru ar y wefan. Gellir gweld rhestr o wledydd yn Sefydliad Masnach y Byd drwy ddilyn y ddolen ganlynol: http://www.wto.org/english/thewto_e/whatis_e/tif_e/org6_e.htm

Ar hyn o bryd, nid oes gan GwerthwchiGymru y gallu i gyflawni dadansoddiad busnes manwl na darparu gwybodaeth am wiriadau uniondeb ariannol. Fodd bynnag, mae'r system yn dilysu cyfeiriadau e-bost Cyflenwyr ar ran Prynwyr.

Dylai defnyddwyr GwerthwchiGymru gysylltu â Desg Gymorth y Wefan. Defnyddiwch y rhif ffôn neu'r opsiwn ‘Cysylltwch â ni’ ar frig y sgrin.

Bydd Prynwyr yn rhoi pob Hysbysiad mewn categori. Mae hyn yn hidlo'r holl Hysbysiadau sydd wedi'u cyhoeddi ar gyfer y cyfleuster Rhybuddion E-bost a'r cyfleuster 'Porwch y Contractau'.

Gweler y ddolen drwy fynd i'r Cymorth ac Adnoddau > Cymorth ac adnoddau i Brynwyr > Adnoddau caffael

Mae'r wybodaeth a gyhoeddir ar GwerthwchiGymru ar gael i bawb ei gweld. Gall unrhyw un ddefnyddio'r wefan a phori drwy fanylion yr hysbysiad a'u hargraffu. Rhaid bod rhywun wedi cofrestru ar y wefan a chofnodi diddordeb yn yr Hysbysiad perthnasol er mwyn gallu gweld dogfennau sy'n gysylltiedig â'r Hysbysiad hwnnw. Felly, dylai Prynwyr annog eu Cyflenwyr i gofrestru ar y wefan.

Cyfleuster ar-lein i wneud cais am ddyfynbris yw Dyfynbris Cyflym. Caiff ei ddefnyddio i gael dyfynbrisiau am ymarferion caffael gwerth isel/risg isel neu gynnal mini-gystadlaethau o fewn cytundeb fframwaith. Dim ond y cyfrif Cyflenwr unigol a ddewiswyd i roi dyfynbris sy'n gallu gweld manylion y dyfynbris a chyflwyno ymateb. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i Gyflenwr fewngofnodi gan ddefnyddio'r un cyfeiriad ag yr anfonwyd y gwahoddiad iddo; ni fydd manylion cydweithiwr yn gweithio. Ar ôl cofrestru ar GwerthwchiGymru, gall Prynwr wahodd unrhyw Gyflenwr i roi dyfynbris. Er mwyn gwella siawns Cyflenwr o gael ei wahodd i roi dyfynbris, gallwch gwblhau eich proffil 'Canfod Cyflenwr'. Gweler y canllawiau perthnasol i ddefnyddwyr yn: Cymorth ac Adnoddau > Canllawiau i Ddefnyddwyr y System: https://www.gwerthwchigymru.llyw.cymru/sitehelp/help_guides.aspx

Cyfleuster sy'n gweithredu fel cerdyn busnes ar y wefan i Gyflenwyr yw'r proffil Canfod Cyflenwr. Gall Cyflenwyr fewnbynnu manylion eu cwmni gan ddefnyddio'r cyfleuster geiriau allweddol i ddisgrifio eu busnes neu eu gwasanaeth. Gall Prynwyr ddefnyddio'r geiriau allweddol hyn i chwilio am Gyflenwyr sy'n darparu'r gwasanaeth neu'r gwaith y maent yn dymuno gwahodd dyfynbrisiau amdano. I ddefnyddio'r cyfleuster Canfod Cyflenwr, gweler y canllaw 'Canfod Cyflenwr' yn yr adran Cymorth ac Adnoddau: https://www.gwerthwchigymru.llyw.cymru/sitehelp/help_guides.aspx

Caiff codau categori Geirfa Gaffael Gyffredin (CPV) eu defnyddio i ddosbarthu Hysbysiadau cyn eu cynnwys yng Gwasanaeth Canfod Tendr (FTS) / Nghyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd (OJEU).

D.S. dim ond i Hysbysiadau lle mae'r Prynwr wedi actifadu'r cyfleuster Cwestiynau ac Atebion ar adeg eu creu y mae'r ateb hwn yn berthnasol. Gall Prynwyr weld y rhain am gyfnod amhenodol drwy ddilyn y ddolen Cwestiynau ac Atebion yn Rhestr Hysbysiadau Cyhoeddedig y Prynwr, Panel Rheoli'r Prynwr > Hysbysiadau Prynwyr Hysbysiadau Cyhoeddedig. O ran Cyflenwyr, dim ond y rhai sydd wedi cofnodi diddordeb yn yr Hysbysiad sy'n gallu gweld y Cwestiynau ac Atebion. Mae'r Cwestiynau ac Atebion i'w gweld at y tab Cwestiynau ac Atebion ar eich Hysbysiad, os ydynt wedi'u cynnwys.

Nid yw Hysbysiadau'n cael eu dileu o'r wefan. Bydd Hysbysiadau bob amser yn weladwy i Gyflenwyr ond, ar ôl cyfnodau penodol, nodir eu bod wedi'u harchifo. Ni fydd dogfennau ar gael i Gyflenwyr newydd ar ôl dyddiad cau Hysbysiad. Os ydych yn chwilio am unrhyw Hysbysiad, gan gynnwys rhai sydd wedi dod i ben neu wedi cael eu harchifo, yn y cyfleuster Porwch y Contractau, ticiwch y blwch wrth ochr 'Cynnwys dogfennau a archifwyd?'. Yn yr un modd, yn Rhestr Hysbysiadau Cyhoeddedig y Prynwr, bydd Hysbysiadau Awdurdodau bob amser wedi'u trefnu yn ôl y dyddiad cyhoeddi, gyda'r dogfennau cysylltiedig ac unrhyw gyflwyniadau Blwch Postio hefyd ar gael. Caiff Hysbysiadau o Gontract eu harchifo 30 diwrnod ar ôl eu dyddiad cau. Nodir bod Hysbysiadau Gwybodaeth Ymlaen Llaw/Hysbysiadau Tybiannol yn rhai 'Cyfredol' am flwyddyn. Caiff Hysbysiadau o Ddyfarnu Contract eu harchifo 30 diwrnod ar ôl eu cyhoeddi.

Os nad ydych yn dymuno bod wedi'ch cofrestru ar GwerthwchiGymru mwyach, defnyddiwch y cyfleuster 'Cysylltwch â ni' ar frig y dudalen i ofyn i ni gau eich cyfrif.

Os nad ydych yn dymuno derbyn Cylchlythyrau gan GwerthwchiGymru mwyach, diweddarwch eich dewisiadau yn yr adran 'Tanysgrifiadau' o dan y pennawd 'Fy Nghyfrif' ar eich panel rheoli (drwy fynd i 'Fy Nghyfrif' ar y bar dewislenni).

Caiff lefelau mynediad eu dyrannu i Ddefnyddiwr sy'n Brynwr gan Reolydd(ion) eich Sefydliad Prynu, yn dibynnu ar eich rôl o fewn eich Sefydliad. Cysylltwch â Rheolydd(ion) eich Sefydliad os ydych yn credu nad yw'r lefelau mynediad angenrheidiol gennych. Defnyddiwr sy'n Brynwr: mynediad darllen yn unig i adrannau Prynwyr y wefan. Golygydd: yn gallu creu a golygu hysbysiadau FTS/OJEU hysbysiadau islaw trothwy FTS/OJEU ac (hysbysiadau gwefan) ond mae angen i Gyhoeddwr/Cyhoeddwr FTS/OJEU gymeradwyo'r rhain cyn eu cyhoeddi. Cyhoeddwr: yn gallu cyhoeddi hysbysiadau islaw trothwy FTS (hysbysiadau gwefan). Rheolydd: yn goruchwylio'r broses o weinyddu manylion Prynwr, lefelau mynediad, hysbysiadau a phroffil Prynwr. Cyhoeddwr FTS: yn gallu cyhoeddi hysbysiadau FTS/OJEU. Agorwr Blwch Postio: yn gallu cael ei ddewis i ddatgloi'r blwch postio ar gyfer hysbysiadau FTS/OJEU hysbysiadau islaw trothwy FTS (hysbysiadau gwefan). Lluniwr Adroddiadau: yn gallu gweld a llunio adroddiadau ystadegol. Golygydd Dyfynbrisiau Cyflym: yn gallu creu a golygu Dyfynbrisiau Cyflym ond mae angen i Gyhoeddwr Dyfynbrisiau Cyflym gymeradwyo'r rhain cyn eu dosbarthu. Cyhoeddwr Dyfynbrisiau Cyflym: yn gallu cyhoeddi Dyfynbrisiau Cyflym.

Cliciwch ar 'Mewngofnodwch' ar frig y dudalen, wedyn dewiswch 'Cofrestrwch fel Prynwr' a dewch o hyd i'ch sefydliad gan ddefnyddio'r blwch 'Chwilio am awdurdod sy'n bodoli eisoes'. Os byddwch yn llwyddo i ddod o hyd i'ch Sefydliad Prynu, cliciwch ar ei enw a llenwch y ffurflen ar y dudalen ganlynol. Anfonir neges e-bost at Reolyddion eich Sefydliad Prynu er mwyn iddynt allu rhoi mynediad i chi. Os na allwch ddod o hyd i'ch Sefydliad Prynu, defnyddiwch y blwch 'Nodi awdurdod newydd' i gofrestru Sefydliad Prynu newydd. Ar y dudalen ganlynol, llenwch y ffurflen a chlicio ar 'Cyflwyno'. Anfonir neges e-bost i'r Ddesg Gymorth er mwyn dechrau'r broses o greu Sefydliad Prynu newydd ar y wefan.

Bydd pob Hysbysiad a gyflwynir drwy GwerthwchiGymru cyn 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener yn cael ei brosesu ar yr un diwrnod oni bai bod angen i'r Prynwr egluro neu newid unrhyw beth. Ar ôl i dîm cymorth y wefan adolygu eich Hysbysiad, caiff ei anfon i'w gyhoeddi. Bydd Hysbysiadau Gwefan yn ymddangos ar y wefan yn uniongyrchol. Sylwer na fydd Hysbysiadau FTS ac OJEU yn cael eu cyhoeddi'n genedlaethol am 48 awr, yn unol â gofynion FTS ac OJEU (ni fydd hyn yn effeithio ar eich terfynau amser). Dylai Hysbysiadau FTS ac OJEU gael eu cyhoeddi yn FTS neu OJEU o fewn 5 diwrnod gwaith i gael eu hanfon. Pan gaiff eich Hysbysiad FTS neu OJEU ei gyhoeddi, byddwch yn cael cadarnhad drwy e-bost sy'n cynnwys rhif cyfeirnod FTS neu OJEU.

Yr uchafswm maint cyffredinol yw 100MB fesul Hysbysiad, a'r uchafswm maint ar gyfer ffeiliau unigol yw 100MB hefyd. D.S. Yr uchafswm maint ar gyfer ymatebion Cyflenwyr yw cyfanswm o 30MB a 10MB fesul ffeil. Gall Cyflenwyr gyflwyno mwy nag un ymateb, ar yr amod bod hynny cyn y dyddiad cau, ond cofiwch hyn wrth greu dogfennau rydych yn dymuno iddynt eu defnyddio wrth ymateb.

Nac oes. Pan fydd Prynwr yn creu Hysbysiad, gofynnir iddo ddewis p'un a yw'n Hysbysiad Gwefan (islaw'r trothwy) neu'n Hysbysiad FTS/OJEU. Caiff pob Hysbysiad FTS ac OJEU ei anfon ymlaen yn awtomatig ac yn cael ei gyhoeddi ar y wefan hefyd.

Oes. Wrth edrych ar Hysbysiad, byddai'r Prynwr yn dewis 'Gweld Cwestiynau ac Atebion'. Ceir opsiwn i 'Lawrlwytho' Cwestiynau ac Atebion, os yw hynny'n berthnasol.

Bydd yr holl Hysbysiadau FTS, OJEU a Hysbysiadau Gwefan (is-drothwy) yn ymddangos ar Banel Rheoli'r Sefydliad Prynu a gellir hefyd ddod o hyd iddynt drwy ddefnyddio'r cyfleuster ‘Porwch y Contractau’. Os byddwch yn cyflwyno ffurflen FTS neu OJEU, bydd yr Hysbysiad hefyd yn cael ei anfon ymlaen i'w gyhoeddi. Mae gwefan GwerthwchiGymru yn agored i bawb, sy'n golygu bod modd i unigolion bori drwy'r Hysbysiadau heb fod angen cofrestru. Fodd bynnag, er mwyn i Gyflenwr allu mynegi diddordeb mewn cyfle, rhaid iddynt gofrestru ar y wefan yn gyntaf.

Rhaid i Reolydd wneud hyn. O Banel Rheoli'r Prynwr, dewiswch 'Asiantiaid' (mewn rhestr yn adran Sefydliad y panel rheoli). Os nad oes gan eich sefydliad Reolydd, neu os hoffech i dîm cymorth y wefan sefydlu cwmni neu sefydliad fel asiant ar eich rhan, cysylltwch â'r ddesg gymorth

Gallwch. Gweler y “Canllaw i Brynwyr – Dyfynbris Cyflym” yn adran gymorth Panel Rheoli'r Prynwr: https://www.gwerthwchigymru.llyw.cymru/sitehelp/help_guides.aspx

Na allwch. Rhaid i Gyflenwyr fod wedi cofrestru ar GwerthwchiGymru er mwyn cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn Dyfynbris Cyflym. Dylai Prynwyr sicrhau bod yr holl Gyflenwyr y maent yn gwneud busnes rheolaidd gyda nhw wedi cofrestru ar GwerthwchiGymru.

Os ydych wedi cael gwybod bod Cyflenwr ar y wefan, chwiliwch yn y ffordd ganlynol: - os ydych yn defnyddio'r opsiynau 'Chwilio am Gyflenwr', defnyddiwch yr opsiwn 'Chwilio yn ôl Manylion'. Diwygiwch y meini prawf fel y bo'n briodol. - Ar y cam dosbarthu, defnyddiwch y tab 'Cyflenwyr sy'n Cyfateb', ticiwch 'Hepgor Categorïau Nwyddau', a chwiliwch am enw'r cwmni. Bydd hyn yn cynnwys yr holl Gyflenwyr ar y wefan wrth chwilio. Er ei fod yn ddefnyddiol ar gyfer dod o hyd i Gyflenwyr yn seiliedig ar eu geiriau allweddol a'u gwasanaethau, mae'n well peidio â defnyddio'r chwiliad Canfod Cyflenwr ar y cam hwn. Os byddwch yn parhau i gael anhawster dod o hyd i Gyflenwr, cysylltwch â'r Ddesg Gymorth.

Os cafodd Hysbysiad o Gontract ei gyhoeddi ar GwerthwchiGymru, defnyddiwch yr opsiwn 'Dyfarnu' ar eich Hysbysiad o Gontract. Bydd hyn yn llenwi'r Hysbysiad o Ddyfarnu Contract â manylion perthnasol o'r Hysbysiad o Gontract. Darllenwch dros yr Hysbysiad yn ofalus i sicrhau ei fod yn gywir ac yna ychwanegwch y wybodaeth am y Cyflenwr/Cyflenwyr sydd wedi ennill y contract cyn ei gyflwyno i'w gyhoeddi. Mae'n hanfodol eich bod yn gwneud hyn er mwyn ffurfio cyswllt rhwng yr Hysbysiad o Gontract a'r Hysbysiad o Ddyfarnu Contract gan mai hyn sy'n pennu'r rhestr o Hysbysiadau o Ddyfarnu Contract sy'n weddill y mae eich sefydliad yn gyfrifol amdanynt. Os na wnewch hyn, byddwch yn cael negeseuon yn gofyn i chi greu Hysbysiadau o Ddyfarnu Contract. Os na chafodd eich Hysbysiad o Gontract ei gyhoeddi ar GwerthwchiGymru, bydd angen i chi greu Hysbysiad o Ddyfarnu Contract newydd drwy'r opsiwn Creu Hysbysiad ym Mhanel Rheoli'r Prynwr. Bydd angen i chi lenwi pob maes yn ôl yr arfer.

Yn FTS/OJEU, mae'r maes hwn yn ofynnol er mwyn cydymffurfio â Rheoliadau'r DU/UE. Ystyrir bod y wybodaeth hon o ddiddordeb rhesymol i'r cyhoedd o ystyried bod cyllid cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio i ariannu'r tendr. Bydd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Ganolog yn gallu casglu ystadegau ar lefel gwariant cyllid cyhoeddus yn well o lawer os bydd y symiau wedi'u cynnwys yn yr Hysbysiadau o Ddyfarnu Contract. Er nad yw Hysbysiadau islaw'r trothwy yn ddarostyngedig i reoliadau'r DU/UE, mae egwyddorion cyhoeddi Hysbysiadau o Ddyfarnu Contract gyda'r symiau wedi'u cofnodi ynddynt yr un mor ddilys.

Oes. Gellir gwneud hyn ar eich Hysbysiad o Ddyfarnu Contract – NID eich Hysbysiad o Gontract – gan ddefnyddio'r opsiwn 'Canslo', wrth ymyl y man lle rhoddir manylion dyddiad cau'r Hysbysiad fel arfer. Awgrymir na ddylid cyflwyno Hysbysiadau o Ddyfarnu Contract nes bod contract wedi cael ei lofnodi.

Os nad oes gan eich Sefydliad Prynu Reolydd, neu os hoffech i dîm cymorth y wefan sefydlu cwmni neu sefydliad fel asiant ar eich rhan, cysylltwch â'r ddesg gymorth.

Gallwch chwilio am Gyflenwyr gan ddefnyddio'r Codau CPV y maent wedi'u dewis yn eu proffil Rhybuddion. I wneud hyn, cliciwch ar 'Prynwyr' o'r bar dewislenni, wedyn 'Chwilio yn ôl Categori' yn y blwch 'Chwilio am Gyflenwr', ac yna ewch drwy'r Categorïau ar gyfer eich Cod. Wedyn, byddwch yn gweld rhestr o Gyflenwyr sydd wedi nodi'r Categorïau hynny. Gallech hefyd wneud hyn drwy ychwanegu'r Cod CPV ar ddiwedd y ddolen hon: http://www.gwerthwchigymru.llyw.cymru/Authority/SupplierSearch/CategorySearch_Results.aspx?id= Er enghraifft: Cod CPV = 03140000 http://www.gwerthwchigymru.llyw.cymru/Authority/SupplierSearch/CategorySearch_Results.aspx?id=03140000

Bydd hyn yn gofyn i chi wneud cyfrif GwerthwchiGymru newydd a fydd yn cysylltu â' ch cyfrif SOC presennol. • Ewch i hafan GwerthwchiGymru – (GwerthwchiGymru.llyw.Cymru) • Cliciwch Cofrestru am ddim - Cewch eich trosglwyddo i'r dudalen wybodaeth SOC. • Cliciwch ar Ymlaen i fewngofnodi / Cofrestru - cewch eich trosglwyddo i'r dudalen rhyngwyneb SOC. • Rhowch eich manylion SOC presennol (e-bost a chyfrinair), cliciwch mewngofnodi. • Cwblhewch yr holl feysydd gorfodol ac arbedwch, byddwch wedyn yn cael eich trosglwyddo i banel rheoli GwerthwchiGymru. – Bydd y wybodaeth bresennol o ' ch cyfrif SOC yn cael ei thynnu i mewn i ' ch proffil GwerthwchiGymru newydd.

Os oes gennych gyfrif SOC eisoes gydag un o wasanaethau digidol busnes Cymru, fel BOSS neu Gofrestr Rhanddeiliaid. Byddwch yn gallu mewngofnodi i gyfrif SOC GwerthwchiGymru, fodd bynnag, os nad yw eich cyfeiriad e-bost yn cyd-fynd â'r cofnodion ar GwerthwchiGymru, ni chaiff eich gwybodaeth bresennol ar GwerthwchiGymru ei tynnu drwodd a chaiff cyfrif GwerthwchiGymru newydd ei greu. Os hoffech newid eich cyfeiriad e-bost GwerthwchiGymru, bydd angen i chi gysylltu â llinell gymorth GwerthwchiGymru ar – 0800 222 9004.

Sign On Cymru - Beth os oes gennyf gyfrif SOC a chyfrif GwerthwchiGymru yn barod? Bydd hyn yn cysylltu eich cyfrif SOC a GwerthwchiGymru gyda'i gilydd, gan boblogi gwybodaeth o'r ddau wasanaethau i'ch cyfrif SOC GwerthwchiGymru. • Ewch i hafan GwerthwchiGymru – (GwerthwchiGymru.llyw.Cymru) • Cliciwch Mewngofnodwch - Cewch eich trosglwyddo i'r dudalen wybodaeth SOC. • Cliciwch ar Ymlaen i fewngofnodi / Cofrestru - cewch eich trosglwyddo i'r dudalen rhyngwyneb SOC. • Rhowch eich manylion SOC presennol (e-bost a chyfrinair), cliciwch mewngofnodi. • Cwblhewch yr holl feysydd gorfodol ac arbedwch, byddwch wedyn yn cael eich trosglwyddo i banel rheoli GwerthwchiGymru.

Dynodydd naw digid unigryw ar gyfer busnesau yw'r Rhif D-U-N. Dysgwch fwy yma - https://www.dnb.co.uk/duns-number.html

Mae SOC yn nodwedd ar gyfer cofrestru unwaith, ac mae’n cael ei ddefnyddio i fewngofnodi i raglenni ar-lein Busnes Cymru. Mae SOC yn cael ei ddefnyddio ar wahanol wasanaethau Busnes Cymru.

Gallwch ddod o hyd i'r hysbysiadau preifatrwydd GwerthwchiGymru 'yma' https://www.gwerthwchigymru.llyw.cymru/sitehelp/help_privacy.aspx

Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu broblemau gyda Phorthol SOC, defnyddiwch y ddolen ‘cysylltu â ni’ isod neu ffoniwch Linell Gymorth GwerthwchiGymru ar 0800 222 9004. https://www.gwerthwchigymru.llyw.cymru/AboutUs/aboutus_contactus.aspx

Na, nid yw'n ofynnol cael Rhif DUNS i gofrestru ar GwerthwchiGymru.

Oes, mae’n ofynnol i chi gofrestru drwy SOC i gyrchu'r gwasanaeth GwerthwchiGymru.

Ar hyn o bryd, y gwasanaethau sydd ar gael drwy SOC yw GwerthwchiGymru, BOSS (gwasanaeth cymorth busnes ar-lein), cofrestr rhanddeiliaid a Chyswllt Ffermio. Mae Digwyddiadur Busnes Cymru ar y gweill ar hyn o bryd i ymuno â ' r gwasanaeth SOC.

Bydd eich proffil rhybuddion yn eich galluogi i dderbyn rhybuddion a hysbysiadau e-bost ar gyfer cyfleoedd contract sy'n berthnasol i'ch busnes gan sicrhau eich bod yn manteisio i'r eithaf o GwerthwchiGymru. Bydd rhan gyntaf y proffil rhybuddion yn gofyn i chi gwblhau’r categorïau cynnyrch sy'n berthnasol i'ch busnes. Bydd hyn yn crynhoi’r cyfleoedd contract a ddangosir, gan ddangos contractau sy'n berthnasol i chi yn unig. Bydd yr ail rhan yn gofyn i chi am leoliadau daearyddol, bydd hyn yn cael ei ddefnyddio i hidlo cyfleoedd contract yn ôl ardal ddaearyddol, gan ddangos contractau lle rydych chi'n barod i weithio yn unig. Gallwch olygu eich proffil rhybuddion unrhyw bryd yn eich panel rheoli.

Pan rydych chi'n creu cyfrif SOC heb gofrestru ar gyfer gwasanaeth, mae eich cyfrif yn cael ei ddadactifadu’n awtomatig cyn pen 48 awr oherwydd Rheoliad GDPR.

Pan rydych chi'n creu cyfrif SOC heb gofrestru ar gyfer gwasanaeth, mae eich cyfrif yn cael ei ddadactifadu’n awtomatig cyn pen 48 awr oherwydd Rheoliad GDPR.

O’r dudalen fewngofnodi yn SOC, cliciwch ar y ddolen 'Wedi anghofio’ch cyfrinair’.

I ddiwygio eich manylion mewngofnodi i GwerthwchiGymru ewch i'ch tabiau proffil drwy'r dangosfwrdd.

Byddwch yn gallu cael gafael ar yr holl wybodaeth berthnasol o ' r porth SOC unwaith y bydd yn mynd yn fyw, y Porth SOC yw' r offeryn rheoli ar gyfer pob tanysgrifiad SOC a gwybodaeth graidd. Bydd y Porth SOC yn mynd yn fyw eleni (2019), bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei hanfon ar ôl i'r Porth gael ei ryddhau. • Ewch i hafan GwerthwchiGymru – (GwerthwchiGymru.llyw.Cymru) • Cliciwch Mewngofnodwch - Cewch eich trosglwyddo i'r dudalen wybodaeth SOC. • Cliciwch ar Ymlaen i fewngofnodi / Cofrestru - cewch eich trosglwyddo i'r dudalen rhyngwyneb SOC. • Cliciwch ar y linc "Heb gyfrif? Creu cyfrif nawr" • Rhowch y cyfeiriad e-bost a ddefnyddiasoch i gofrestru gyda GwerthwchiGymru. • Cliciwch ar ‘Anfon cod dilysu’. • Caiff cod dilysu ei anfon i'r cyfeiriad e-bost a roesoch • Cliciwch creu, yna byddwch yn cael eich trosglwyddo i ' ch Tudalen gofrestru gychwynnol. • Cliciwch cofrestru fel cyflenwr, prynwr, prynwr-gontractwr neu brynwr a ariannir drwy grant. • Cwblhewch yr holl feysydd gorfodol a chlicio cyflwyno cofrestru

O dudalen hafan GwerthwchiGymru, cliciwch ar y botwm 'cofrestru am ddim' ar y gwasanaeth yr ydych eisiau tanysgrifio arno.

Gallwch ofyn i'ch manylion gael eu dileu drwy gysylltu â'r ddesg gymorth, mae eich hawliau i ddiogelu data ar gael yn hysbysiad preifatrwydd GwerthwchiGymru. Yna, bydd eich cais yn cael ei anfon at ein tîm i gadarnhau ein bod yn gallu dileu eich manylion yn unol â pholisi rheoli gwybodaeth a llywodraethu Llywodraeth Cymru. Byddwch yn cael ymateb drwy e-bost.

Os nad ydych yn gwybod eich Rhif DUNS, gadewch y blwch testun yn wag a chliciwch edrychwch i fyny. Os ydych yn dal i fethu dod o hyd i ' ch rhif DUNS, gallwch ddefnyddio ' r blwch ticio i osgoi ' r adran hon a ' i diweddaru ' n ddiweddarach.

Yn y SPD hunan ddatganiad o gyflenwr posibl ' statws ariannol, galluoedd ac addasrwydd ar gyfer gweithdrefn caffael cyhoeddus. Mae'n gwasanaethu bennaf fel tystiolaeth ragarweiniol o gyflawni amodau sydd eu hangen mewn gweithdrefn caffael cyhoeddus. Bydd ymgeiswyr bellach yn gorfod darparu tystiolaeth ddogfennol llawn a gwahanol ffurfiau a ddefnyddiwyd yn flaenorol mewn caffael yr DU, sy'n golygu symleiddio sylweddol o'r broses dendro. Bydd y SPD yn disodli'r gofyniad i gyflenwyr ddarparu tystiolaeth ymlaen llaw neu dystysgrifau drwy ganiatáu iddynt hunan ddatgan bod yn bodloni'r meini prawf dethol ac allgáu perthnasol. Efallai y bydd gofyn cynigwyr ddarparu prawf o hyn yn ddiweddarach a bydd y cynigydd llwyddiannus fel arfer i ddarparu prawf cyn dyfarnu'r contract.

Bydd prynwyr yn nodi eu dewis ac eithrio meini prawf, gan gynnwys unrhyw safonau gofynnol a dulliau ar gyfer llunio rhestr fer yn eu hysbysiad contract. Bydd wedyn yn cyhoeddi cais am SPD ac yn ei gwneud ar gael i unrhyw un sydd â diddordeb mewn ymgeisio am y contract. Bydd ymgeiswyr gwblhau a chyflwyno eu hymateb SPD i'r prynwr, a fydd yn asesu addasrwydd pob cais yn erbyn y meini prawf wedi eu dewis.

Bydd y SPD yn cynnig dewis amgen i'r holiadur dethol, a dylid gwneud y broses o wneud cais am gontract cyhoeddus yn haws. Ei ddiben yw dileu rhai o'r rhwystrau i gyfranogiad mewn caffael cyhoeddus, yn enwedig ar gyfer busnesau bach a chanolig sydd yn aml nad oes ganddynt yr adnoddau (amser/arian) i gwblhau dogfennau tendro cymhleth. Y dull dethol holiadur yn boblogaidd oherwydd bod prynwyr yn tueddu i ofyn cwestiynau yn y ffyrdd un, neu rai tebyg. Bydd y ESPD mewn gwirionedd yn adeiladu ar hyn fel y defnyddir un ffurflen safonol bellach ar draws DU.

Defnyddir yr un set o gwestiynau ledled yr DU, felly bydd modd i ail-ddefnyddio ffurflen a gyflwynwyd o'r blaen ar gyfer cystadleuaeth ar wahân, fel y wybodaeth yn gyfredol hyd yn ymgeisydd. Fodd bynnag, bob tro y bydd cyflenwr yn cyflwyno cais, bydd cais SPD wedi eu cyflwyno yn ogystal. Bydd yn ddiddordeb y cyflenwr i ffurfweddu bob SPD i gyd-fynd â gofynion bod ymarfer caffael unigol.

Yn ôl y gyfraith, mae cynigydd buddugol i gyflwyno pob un o'r tystysgrifau sy'n ofynnol a dogfennaeth, cyn iddynt gael contract. Gellir gofyn ymgeiswyr i gyflwyno eu tystiolaeth ar unrhyw adeg yn y broses gaffael os yw hyn yn angenrheidiol er mwyn sicrhau bod y broses yn cael ei gynnal briodol. Os canfyddir bod ymgeisydd wedi camliwio ei hun, gall un neu ddau o bethau yn digwydd, gan ddibynnu ar natur y gamliwio: -Os yw'r cynigydd yn torri un o'r meysydd sydd yn sail orfodol ar gyfer gwahardd, neu os nad yw'n bodloni un o'r meini prawf gofynnol, rhaid i'r cynigydd hwnnw gael eu heithrio o'r gystadleuaeth. Gan ddibynnu ar natur a chyfnod y gystadleuaeth, gall hynny olygu naill ai yn parhau heb cynigydd penodol hwnnw, neu dylid ail-redeg y gystadleuaeth heb cynigydd hwnnw y tendr. -Os daw i'r amlwg bod busnes yn groes i ardal sydd yn sail ddisgresiynol dros allgáu, yna bydd y penderfyniad i wahardd cynigydd hwnnw ai peidio yn hyd at yr awdurdod prynu. Os yw'r mater yn fwy gweinyddol eu natur (e.e. camgymeriadau wrth ddarparu dogfennau), yna yr awdurdod bydd y dewis o wahodd y cynigydd i wneud diwygiadau i, neu egluro y dogfennau a ddarparwyd

Os yn ymgeisydd yn dymuno is-gontractio rhan o'r contract, ac yn dibynnu'n llwyr ar yr is-gontractwr er mwyn cyflawni meini prawf dethol, rhaid cyflwyno SPD ar wahân ar ran yr is-gontractwr. Gall yr awdurdod prynu yn ddewis i ofyn am SPD ar wahân gan unrhyw is-gontractwr arall, er mwyn gwirio yn sail ar gyfer eithrio ai peidio. Os yw'r is-gontractwr mewn sefyllfa a fyddai'n arwain at ei wahardd gorfodol, bydd y cynigydd yn ofynnol i ddisodli hwnnw is-gontractwr. Mae'n bwysig iawn y cyflenwyr gynllunio ar gyfer y senario hwn yn gynnar yn y broses drwy ymgysylltu gydag is-gontractwyr a chael gwybodaeth gynnar yn ystod y broses gaffael.

0800 222 9004

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.

We welcome calls in Welsh.