Skip to main content

Rydym wedi cadw rhai ffeiliau o'r enw cwcis ar eich dyfais. Y cwcis hyn yw:

  • Hanfodol ar gyfer y safle i weithio
  • Helpu i wella ein gwefan drwy gasglu ac adrodd gwybodaeth am sut rydych chi'n ei defnyddio

Hoffem hefyd arbed rhai cwcis i helpu i deilwra cyfathrebu.

BETA
Rydych yn edrych ar fersiwn wedi'i ddiweddaru o'r gwasanaeth hwn - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Rhybuddion Preifatrwydd - Cofrestru & Ymholiadau

Crynodeb

Mae'r Ddogfen hon yn cynnwys gwybodaeth am Hysbysiadau Preifatrwydd Cofrestru Defnyddiwr ac Ymholiad Defnyddiwr.


Ffurflen Gofrestru GwerthwcgiGymru

Diweddarwyd yr hysbysiad hwn ddiwethaf ar 2 Rhagfyr 2021Mae eich preifatrwydd yn bwysig i GwerthwchiGymru, ac yn unol â'r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR y DU) rydym wedi llunio Hysbysiad Preifatrwydd sy’n ymdrin â pham rydym yn casglu ac yn defnyddio eich gwybodaeth. Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn nodi y caiff eich data personol eu prosesu yn deg ac yn gyfreithlon ac mewn modd tryloyw.

Sut rydym yn casglu ac yn prosesu eich data

Llywodraeth Cymru yw’r Rheolydd Data ar gyfer y data personol rydych wedi’u darparu ar ffurflen gofrestru GwerthwchiGymru. Caiff y data eu storio ar system TG GwerthwchiGymru gan ein darparwr gwasanaeth, Proactis Tenders Limited; mae angen gwneud hyn er mwyn i chi allu gweld manylion contract cyhoeddedig a chymryd rhan yn y broses gaffael drwy GwerthwchiGymru.

Ni chaiff eich gwybodaeth ei rhannu ag unrhyw sefydliadau trydydd parti anghysylltiedig.

Pwy fydd yn gallu gweld eich data

  • Bydd eich manylion fel prynwr i'w gweld yn gyhoeddus drwy'r safle.
  • Fel cyflenwr, bydd eich manylion ar gael i sefydliadau prynu cofrestredig GwerthwchiGymru.
  • Fel cyflenwr, gall cyflenwyr eraill hefyd weld eich gwybodaeth sydd ar gael i'r cyhoedd drwy gyhoeddiadau hysbysiad y contract.
  • Fel Prynwr neu gyflenwr, bydd eich manylion ar gael i dîm GwerthwchiGymru Llywodraeth Cymru a gweinyddwyr system Proactis Tenders Limited sy'n cefnogi'r system TG Ni fydd gweinyddwyr y system yn defnyddio'ch manylion mewn unrhyw ffordd heblaw am roi cymorth uniongyrchol i chi na Llywodraeth Cymru.
  • Mae'n bosibl y bydd gwybodaeth a gasglwyd fel rhan o unrhyw gyfle i ennill contract a gyhoeddir drwy TED (Tendrau Electronig Dyddiol) yn golygu bod angen gadael gwefan GwerthwchiGymru a defnyddio gwasanaethau eraill y bydd ganddynt eu rheolau eu hunain ar fynediad a nodir yn eu hysbysiad preifatrwydd eu hunain.

Am ba hyd y cedwir eich manylion

Cedwir eich manylion ar ein systemau yn unol â pholisi cadw data GwerthwchiGymru.

  • Bydd cyfrif unrhyw ddefnyddiwr nad yw'n mewngofnodi am 12 mis yn cael ei archifo. Ar ôl y cyfnod hwn bydd angen cyflwyno cais drwy e-bost i ailactifadu’r cyfrif.
  • Bydd cyfrif unrhyw ddefnyddiwr nad yw'n mewngofnodi o fewn 24 mis ar ôl i'w gyfrif gael ei archifo, yn cael ei ddileu.
  • Mae'n bosibl y bydd gwybodaeth a gasglwyd fel rhan o unrhyw gyfle i ennill contract a gyhoeddwyd drwy TED (Tendrau Electronig Dyddiol) neu Canfod Tendr (Gwasanaeth Canfod Tendr) yn golygu bod angen gadael gwefan GwerthwchiGymru a defnyddio gwasanaethau eraill y bydd ganddynt eu set eu hunain o reolau cadw data a nodir yn eu hysbysiad preifatrwydd eu hunain.

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl i'r canlynol:

  • gweld y data personol sydd gan Lywodraeth Cymru amdanoch;
  • gofyn inni gywiro unrhyw anghywirdebau yn y data hynny;
  • (o dan amgylchiadau penodol) gwrthwynebu prosesu data neu gyfyngu ar brosesu data;
  • (o dan amgylchiadau penodol) gofyn i'ch data gael eu 'dileu’;
  • anfon cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Manylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yw:

Customer Contact

Wycliffe House

Water Lane

Wilmslow

Cheshire

SK9 5AF

Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113

Gwefan: https://ico.org.uk/.

I gael help gydag unrhyw un o'r hawliau uchod ffoniwch linell gymorth Busnes Cymru ar 03000 603 000 neu defnyddiwch y ffurflen cysylltu â ni sydd ar gael yn Cysylltwch â ni. 

Y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a'ch Gwybodaeth

Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 yn caniatáu i’r cyhoedd ofyn am gael gweld gwybodaeth a gedwir gan gyrff cyhoeddus, gan gynnwys Llywodraeth Cymru. Gall y wybodaeth a roddwch inni fod yn destun cais rhyddid gwybodaeth gan aelod arall o'r cyhoedd. Byddwn yn cysylltu â chi er mwyn ceisio eich barn cyn ymateb i gais o'r fath.

Newidiadau i'r Hysbysiad hwn

Gall Llywodraeth Cymru wneud newidiadau i'r hysbysiad preifatrwydd hwn unrhyw bryd. Caiff newidiadau eu cyhoeddi yma a byddant yn weithredol ar unwaith. Pan wneir newidiadau i'r hysbysiad hwn byddwn yn cysylltu â chi gan ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost rydych wedi'i nodi yn eich cyfrif er mwyn eich galluogi i weld y fersiwn newydd.

I gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau gwybodaeth

Cyfeiriad post:

Swyddog Diogelu Data

Llywodraeth Cymru

Parc Cathays

CAERDYDD

CF10 3NQ

Cyfeiriad e-bost: dataprotectionofficer@gov.wales 

Ymholiad i GwerthwchiGymru

Diweddarwyd yr hysbysiad hwn ddiwethaf ar 2 Rhagfyr 2021.

Mae eich preifatrwydd yn bwysig i GwerthwchiGymru yn unol â Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR y DU), rydym wedi llunio Hysbysiad Preifatrwydd sy’n ymdrin â pham rydym yn casglu ac yn defnyddio eich gwybodaeth. Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn sicrhau y caiff eich data personol eu prosesu yn deg ac yn gyfreithlon ac mewn modd tryloyw.

Sut rydym yn casglu ac yn prosesu eich data

Llywodraeth Cymru fydd y Rheolydd Data ar gyfer y data personol a ddarperir gennych ar gyfer ymholiad i GwerthwchiGymru. Caiff y wybodaeth a roddwch inni ei defnyddio i greu cofnod ar ein systemau TG am eich ymholiad i GwerthwchiGymru; bydd hyn yn ein galluogi i ymateb yn briodol.

Pwy fydd yn gallu gweld eich data:

  • Defnyddir y data hyn gan Lywodraeth Cymru a GwerthwchiGymru i ymateb yn briodol i'ch ymholiad.
  • Bydd timau gwasanaethau cymorth Llywodraeth Cymru a Proactis Tenders Ltd. sy'n cynnal y system TG yn gallu gweld y wybodaeth a gasglwyd. Ni fydd gweinyddwyr technegol y system yn defnyddio eich manylion mewn unrhyw ffordd.

Am ba hyd y cedwir eich manylion

Cedwir eich manylion ar ein systemau yn unol â pholisi cadw data Llywodraeth Cymru am hyd at 3 blynedd fel rhan o'n hadolygiadau parhaus o hyfforddiant ac ansawdd.


0800 222 9004

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.

We welcome calls in Welsh.