Skip to main content

Rydym wedi cadw rhai ffeiliau o'r enw cwcis ar eich dyfais. Y cwcis hyn yw:

  • Hanfodol ar gyfer y safle i weithio
  • Helpu i wella ein gwefan drwy gasglu ac adrodd gwybodaeth am sut rydych chi'n ei defnyddio

Hoffem hefyd arbed rhai cwcis i helpu i deilwra cyfathrebu.

BETA
Rydych yn edrych ar fersiwn wedi'i ddiweddaru o'r gwasanaeth hwn - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Porthiant RSS - Telerau ac Amodau

Drwy lawrlwytho GwerthwchiGymru Porthiant RSS ( "Porthiant RSS") o GwerthwchiGymru ("The Owners") rydych yn cytuno i gael eich rhwymo gan y telerau a nodir isod ("Telerau Safo
Mae'r ffaith eich bod wedi lawrlwytho a/neu ddefnyddio GwerthwchiGymru Porthiant RSS Feed yn dangos eich bod yn cytuno i'r Telerau Trwydded Safonol hyn.

1. Trwydded

1.1 Yn amodol ar delerau'r Cytundeb hwn, mae'r Perchnogion yn rhoi trwydded anghyfyngedig heb freindal na ellir ei throsglwyddo na'i his-drwyddedu i chi er mwyn dangos ar eich gwefan ("Gwefan") chi, y penawdau, y dolenni gweithredu neu'r dynodwyr ffynonellau eraill a gwybodaeth neu ddeunydd arall rydych yn dewis

1.2 Bydd yr holl deitlau, hawliau perchenogaeth a hawliau eiddo deallusol yn y Porthiant GwerthwchiGymru ac iddynt yn parhau'n eiddo i'r Perchnogion .

1.3 Nid oes dim yn y Telerau Trwydded Safonol hyn sy'n rhoi unrhyw hawl i chi ddefnyddio unrhyw nod masnach, delwedd na symbol ar eich Gwefan nac unrhyw le arall.

2. Defnyddio GwerthwchiGymru Content

2.1 Ni chaniateir i chi ddefnyddio'r Porthiant RSS nac arddangos unrhyw Gynnwys Porthiant RSS ar unrhyw Wefan sydd wedi'i heithrio gan y Perchnogion Mae rhestr o'r gwefannau sydd wedi'u heithrio ar gael ar gais a gall y rhestr honno gael ei diwygio o bryd i'w gilydd).

2.2 Rhaid i chi sicrhau bod yr holl Gynnwys Porthiant RSS ar eich gwefan wedi'i achredu i'r Perchnogion yn unol â'n canllawiau achredu.

2.3 Ni chaniateir i chi godi tâl ar ddefnyddwyr, yn uniongyrchol nac yn anuniongyrchol, am gael mynediad i Gynnwys Porthiant RSS, na masnacheiddio'r cyfryw gynnwys, na cheisio ailwerthu Cynnwys y Porthiant RSS mewn unrhyw ffordd.

2.4 Lle y bo'n bosibl, rhaid i chi greu dolen weithredol yn ôl i'r stori newyddion ar y wefan hon. Os ydych yn arddangos y Porthiant RSS ac nad yw'n bosibl gosod dolen weithredol yn ôl i'r wefan hon, rhaid i chi arddangos yr URL lle y gellir cael

2.5 Ni chaniateir i chi, yn uniongyrchol nac yn anuniongyrchol, awgrymu bod y Perchnogion yn cefnogi neu'n cymeradwyo eich Gwefan neu unrhyw gynnyrch neu gynnwys neu unrhyw farn a fynegir ar eich gwefan neu drwy eich gwasanaeth.

2.6 Rydych yn cydnabod bod gan y Perchnogion reolaeth olygyddol lwyr dros yr holl Gynnwys Porthiant RSS ac yn derbyn bod y Perchnogion yn olygyddol annibynnol a bod uniondeb golygyddol Cynnwys Porthiant RSS yn gyfrifoldeb i'r Perchnogion .

2.7 Os byddwch yn derbyn unrhyw ymholiadau'n ymwneud â Chynnwys Porthiant RSS, dylech gyfeirio'r cyfryw ymholiadau ar unwaith at y Perchnogion

3. Gwarantiadau ac Atebolrwydd

3.1 Rydych yn gwarantu'r canlynol i'r Perchnogion:

(i) eich bod wedi cydymffurfio'r llawn â'r holl ddeddfau a'r rheoliadau cymwys ac y byddwch yn parhau i gydymffurfio'n llawn â hwy;
(ii) ni fydd y Wefan yn cynnwys unrhyw ddeunydd enllibus, difrïol, pornograffig nac anweddus, na deunydd sy'n pardduo enw da'r Perchnogion, na deunydd sy'n mynd yn groes i hawliau eiddo deallusol trydydd partïon;
(iii) bydd yn ofynnol i ddefnyddwyr y Wefan gydymffurfio â thelerau sy'n cyfateb i'r Telerau Trwydded Safonol mewn perthynas â'u defnydd o Gynnwys Porthiant RSS.

3.2 Mae'r Perchnogion yn darparu'r Porthiant RSS ar sail "fel y mae" ac "fel y mae ar gael" ac nid yw'r Perchnogion yn rhoi unrhyw warant o unrhyw fath mewn perthynas â'r Porthiant RSS, Cynnwys y Porthiant RSS, nac unrhyw gynnwys ar y wefan hon. Mae'r Perchnogion yn ymwrthod ag unrhyw warantiadau ymhlyg, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i warantiadau ynglŷn ag ansawdd boddhaol, addasrwydd at ddiben penodol, diffyg tor-hawl, cytunedd a chywirdeb o ran Cynnwys y Porthiant RSS, y Porthiant RSS a'r wefan hon ac u

3.3 I'r graddau eithaf a ganiateir gan y gyfraith, nid yw'r Perchnogion yn derbyn unrhyw atebolrwydd am unrhyw golled na difrod sy'n deillio mewn unrhyw ffordd o ganlyniad i'r cytundeb hwn neu mewn cysylltiad ag ef, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i unrhyw atebolrwydd mewn perthynas â'r Porthiant RSS, Cynnwys y Porthia

3.4 Mae pob un o'r darpariaethau yn y Cymal 3 hwn yn gweithredu ar ei phen ei hun ac mae'n goroesi'n annibynnol ar y darpariaethau eraill.

4. Indemniad

4.1 Rydych yn cytuno drwy hyn i indemnio, digolledu ac amddiffyn y Perchnogion mewn perthynas ag unrhyw iawndal, costau a threuliau, gan gynnwys ffioedd cyfreithiol rhesymol a threuliau ymgyfreitha, sy'n deillio o unrhyw achos o dorri'r Telerau Trwydded Safonol neu o ganlyniad i hynny, neu mewn cysylltiad â'ch defnydd o'r Po

5. Terfynu

5.1 Gallwch derfynu'r Cytundeb hwn a'r drwydded a roddwyd ynddo unrhyw bryd drwy ddinistrio neu gael gwared ar bob copi o'r Porthiant RSS (gan gynnwys Cynnwys y Porthiant RSS) o'ch Gwefan, pob gyriant caled, rhwydwaith a chyfrwng storio arall. Gal

5.2 Perchnogion atal, terfynu neu gyfyngu ar y Porthiant RSS, y Cytundeb hwn, y drwydded a roddwyd ynddo neu'ch mynediad i'r Porthiant RSS unrhyw bryd heb atebolrwydd. Rydych yn cytuno i ddinistrio pob copi o'r Porthiant RSS (gan gynnwys Cynnwys y Porthiant RSS) o Perchnogion .

5.3 Bydd Cymalau 3, 4 a 6 yn parhau'n weithredol ar ôl terfynu'r Cytundeb hwn.

6. Cyffredinol

6.1 Ni all y naill barti aseinio, arwystlo neu is-drwyddedu ei hawliau neu rwymedigaethau yn y Cytundeb hwn yn gyfan gwbl neu'n rhannol i unrhyw drydydd parti nac ymdrin fel arall â'r hawliau neu'r rhwymedigaethau hynny drwy drydydd parti.

6.2 Mae'r Cytundeb hwn yn disodli pob cytundeb, trefniant a dealltwriaeth flaenorol rhwng y partïon o ran testun y cytundeb. Mae pob parti yn cydnabod nad yw wedi dibynnu ar unrhyw ddatganiad a wnaed gan y llall wrth ymrwymo i'r Cytundeb hwn.

6.3 Ni chaiff unrhyw fethiant neu oedi gan y naill barti wrth arfer ei hawliau o dan unrhyw un o ddarpariaethau'r Cytundeb hwn ei ddehongli fel achos o ildio'r hawliau hynny unrhyw bryd nawr neu yn y dyfodol.

6.4 Caiff y cytundeb hwn ei lywodraethu, ei ddehongli a'i weithredu yn unol â chyfraith Iwerddon a bydd gan lysoedd Iwerddon awdurdodaeth unigryw i setlo unrhyw hawliad neu anghydfod a all godi o ganlyniad i'r Cytundeb hwn neu mewn cysylltiad ag e

Gwefannau Sydd Wedi'u Heithrio

Dim ond ar wefannau nad ydynt yn dod o dan unrhyw un neu fwy o'r categorïau a restrir isod y gall porthiant RSS y Perchnogion ac unrhyw gynnwys ym mhorthiant RSS y Perchnogion gael ei arddangos. Ystyrir bod gwefan yn dod o dan un o'r categorïau canlynol os oes deunydd ac adran amlwg o'r Wefan yn dod o dan y cyfryw gategori.

1. Gwefannau sy'n ysgogi casineb boed hynny ar sail hil, crefydd, rhyw, rhywioldeb neu fel arall, neu'n annog neu'n hwyluso ymddygiad gwrthgymdeithasol
2. Gwefannau sy'n annog neu'n hwyluso trais
3. Gwefannau sy'n annog neu'n hwyluso terfysgaeth neu weithgareddau eraill sy'n peri risg i ddiogelwch cenedlaethol y DU
4. Gwefannau sy'n gwahaniaethu yn erbyn unrhyw grŵp cymdeithasol penodol neu'n camfanteisio fel arall ar rannau o'r gymdeithas sy'n agored i niwed
5. Gwefannau sy'n hyrwyddo neu'n annog gweithgarwch anghyfreithlon
6. Gwefannau camarweiniol, pornograffig, difrïol, neu rai â chynnwys anghyfreithlon neu gynnwys arall sy'n golygu y gellir dwyn achos mewn perthynas â hwy o dan gyfraith y DU
7. Gwefannau sy'n torri cyfrinachedd unigolion

Canllawiau Achredu

Rhaid i unrhyw borthiant RSS neu gynnwys Porthiant RSS ar eich gwefan briodoli (cydnabod) y Perchnogion drwy un o'r ffyrdd canlynol:

  • O Newyddion GwerthwchiGymru , neu
  • Mae'r cynnwys / erthygl hon yn dod o'r wefan GwerthwchiGymru

Os ydych yn arddangos porthiant RSS ac os nad yw bosibl gosod dolen weithredol yn ôl i'r erthygl ar y wefan hon yna rhaid i chi ddefnyddio'r priodoliad (cydnabyddiaeth) canlynol

  • O newyddion GwerthwchiGymru

Ni chaniateir i chi ddefnyddio unrhyw rai o logos neu nodau masnach eraill y Perchnogion heb lofnodi cytundeb trwydded nod masnach.


0800 222 9004

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.

We welcome calls in Welsh.