Disgrifiad o'r nwyddau neu'r gwasanaethau sydd eu hangen
Mae Golwg Cyf yn dymuno penodoi cwmni neu gonsortiwm cymwys i greu a gosod meddalwedd fydd yn sylfaen ar gyfer cynllun Bro360.
Mae Bro360 yn gynllun arloesol sydd â’r nod o gydweithio gyda chymunedau i greu rhwydwaith o wefannau bro Cymraeg fydd yn darparu newyddion lleol, ynghyd â chynnwys a gwasanaethau amrywiol eraill. Yn ystod cyfnod peilot y cynllun (2019 - 2022) byddwn yn gweithio’n benodol gyda chymunedau yn ardaloedd Arfon a Gogledd Ceredigion, ond y nod hirdymor ydy ymestyn y cynllun a’r rhwydwaith yn ehangach.
Rydym yn awyddus i benodi cwmni digidol fydd yn gweithredu fel partner wrth ddatblygu elfennau technegol a datblygu meddalwedd y cynllun, gan rannu’r un daliadau a brwdfrydedd â ni ynglŷn â’r potensial.
Bydd yr holl waith yn seiliedig ar yr hyn mae Golwg, a’r cymunedau lleol yn dymuno ei weld. Bydd proses gychwynnol o gynllunio union natur y rhwydwaith, e.e. penderfynu ar drefniant, seilwaith a nodweddion unrhyw wefan(nau), a'r perthynas rhwng y wefan ganolog a gwefannau ar gyfer cymunedau gwahanol. Er bydd y prosiect yn hyrwyddo a hybu defnydd o amryw lwyfannau digidol ymysg cymunedau lleol, mae gwefan(nau) ganolog sy’n ddeinamig, rhyngweithiol, ac yn hyblyg yn hollol allweddol i lwyddiant y prosiect. Prif rôl ein partner digidol fydd: i gyd-gynllunio'r rhwydwaith, datblygu meddalwedd addas ac effeithiol ar gyfer y cynllun, creu cysodiadau gweledol mewn partneriaeth â ddylunydd graffeg Golwg, a gosod y meddalwedd.
Bydd y feddalwedd yn cael ei adeiladu ar sylfaen WordPress, ac yn ogystal â bod yn rhwydd i’w ddefnyddio i bobl o bob gallu technegol, bydd yn rhyngweithio ac yn gweithio’n effeithiol ochr yn ochr â meddalwedd Golwg360. Yn hynny o beth rydym yn dychmygu y bydd gan gwmnïau addas brofiad helaeth o ddatblygu gwefannau gan ddefnyddio lwyfan WordPress.
Ni fydd y pecyn gwaith hwn yn cynnwys cynnal a chadw'r system. Bydd y gwaith hwnnw yn rhan o becyn ar wahân.
Ceir manylion a manyldeb llawn yn y ddogfen manyleb atodol.
NODER: Ewch i'r Wefan yn https://www.sell2wales.gov.wales/Search/Search_Switch.aspx?ID=89593 i gofrestru eich diddordeb yn yr hysbysiad hwn a chael unrhyw wybodaeth ychwanegol.
Mae'r awdurdod dyfarnu wedi nodi y bydd yn derbyn ymatebion electronig i'r hysbysiad hwn drwy'r cyfleuster 'Blwch Postio Cyflwyno Tendrau'. Mae rhagor o fanylion am y cyfleuster hwn ar gael yn https://www.sell2wales.gov.wales/sitehelp/help_guides.aspx.
Cynghorir cyflenwyr i ganiatáu digon o amser i lanlwytho dogfennau ac anfon yr ymateb electronig ymhell cyn yr amser cau er mwyn osgoi unrhyw broblemau munud olaf.
|