Disgrifiad o'r contract
Rhennir y contract hwn yn 2 lot - Dwyrain a Gorllewin
Prosiect Gweithgareddau Cymunedol - y Dwyrain
Mae Tîm Rhaglen Gogledd Cymru Gyda’n Gilydd yn chwilio am ddarparwr cymunedol i gyd-gynhyrchu amrywiaeth o weithgareddau cymunedol yn Wrecsam a Sir y Fflint yn ystod y ddwy flynedd nesaf. Bydd y prosiect yn galluogi dinasyddion (gan gynnwys y rheiny gydag anghenion mwy cymhleth) i fod yn fwy cysylltiedig ac yn rhan o’u cymunedau, drwy ystod o weithgareddau cymunedol cynhwysol, wedi eu cyd-gynhyrchu gyda hwy.
Bwriad y prosiect yw galluogi cynhwysiant llawn i ddinasyddion gydag anableddau dysgu mewn ystod o weithgareddau cymunedol. Bydd y gweithgareddau hyn yn cael eu cyd-gynhyrchu gyda dinasyddion a gofalwyr, ac yn arwain ystod o gysylltiadau, perthynas a rolau.
Bydd y prosiect yn galluogi dinasyddion (yn cynnwys pobl gydag anghenion mwy cymhleth) i wneud y canlynol:
a. Creu neu gryfhau gweithgareddau cymunedol sy’n croesawu unigolion gydag anableddau dysgu
b.) Datblygu rhwydwaith personol cryfach o gysylltiadau a pherthnasoedd
c. Ennill sgiliau, datblygu dyheadau a chyflawni rolau cyfrifol yn y gymuned
d. Cynnal neu wella eu lles a’u hiechyd emosiynol
e. Bod yn gysylltiedig ac yn cael eu diweddaru, drwy lwyfan rhannu gwybodaeth hygyrch a dwyieithog.
f. Dylai dinasyddion a gofalwyr gael eu gwobrwyo am eu cyfraniad i ddatblygiad y llwyfan lle bynnag bo’n bosibl neu’n ddymunol.
Prosiect Gweithgareddau Cymunedol - y Gorllewin
Mae Tîm Rhaglen Gogledd Cymru Gyda’n Gilydd yn chwilio am Ddarparwr Cymunedol i gyd-gynhyrchu amrywiaeth o weithgareddau cymunedol yng Ngwynedd a Môn yn ystod y ddwy flynedd nesaf. Bydd y prosiect yn galluogi dinasyddion (gan gynnwys y rheiny gydag anghenion mwy cymhleth) i fod yn fwy cysylltiedig ac yn rhan o’u cymunedau, drwy ystod o weithgareddau cymunedol cynhwysol, wedi eu cyd-gynhyrchu gyda hwy.
Bwriad y prosiect yw galluogi cynhwysiant llawn i ddinasyddion (plant, pobl ifanc ac oedolion) gydag anableddau dysgu mewn ystod o weithgareddau cymunedol. Bydd y gweithgareddau hyn yn cael eu cyd-gynhyrchu gyda dinasyddion a gofalwyr, ac yn arwain ystod o gysylltiadau, perthynas a rolau.
Bydd y prosiect yn galluogi dinasyddion (yn cynnwys pobl gydag anghenion mwy cymhleth) i wneud y canlynol:
a. Creu neu gryfhau gweithgareddau cymunedol sy’n croesawu unigolion gydag anableddau dysgu
b.) Datblygu rhwydwaith personol cryfach o gysylltiadau a pherthnasoedd
c. Ennill sgiliau, datblygu dyheadau a chyflawni rolau cyfrifol yn y gymuned
d. Cynnal neu wella eu lles a’u hiechyd emosiynol
e. Bod yn gysylltiedig ac yn cael eu diweddaru, drwy lwyfan rhannu gwybodaeth hygyrch a dwyieithog.
f. Dylai dinasyddion a gofalwyr gael eu gwobrwyo am eu cyfraniad i ddatblygiad y llwyfan lle bynnag bo’n bosibl neu’n ddymunol.
Bydd y contractau’n rhedeg tan 31/03/2025 gyda’r opsiwn i’w hymestyn am flwyddyn yn amodol ar gyllid.
|